Yr angen am goetiroedd gwydn

Gan fod coed yn cymryd degawdau lawer i ddatblygu i’w llawn dwf, rhaid i goedwigwyr edrych yn llawer pellach i’r dyfodol o’u cymharu â mathau eraill o reolwyr tir. Er bod ein gwybodaeth ynghylch effeithiau tebygol newid yn yr hinsawdd yn gwella’n gyson, allwn ni ddim fforddio aros nes bod ein hymchwil ragfynegol wedi’i pherffeithio cyn dechrau datblygu strategaethau a gweithredoedd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gan na fydd yr ymchwil honno fyth yn berffaith.

Rydyn ni’n awyddus i’n coetiroedd allu eu hadfer eu hunain yn dilyn digwyddiad cynhyrfus, ee clefyd neu dân, a’u bod yn gallu goddef cynnwrf heb newid (ee gwrthsefyll tywydd eithafol, megis corwyntoedd neu lifogydd). Rydyn ni hefyd yn awyddus i weld bod ein coetiroedd yn gallu addasu i newid. Mae hyn yn golygu bod angen i’r rhai sy’n rheoli ein coedwigoedd ddilyn dulliau mwy hyblyg a chyfaddasol.

Amrywiad

Os ydyn ni am i genedlaethau’r dyfodol fwynhau’r un cynnyrch a gwasanaethau â’r rhai rydyn ni’n eu mwynhau heddiw, mae’n rhaid i’n coedwigoedd fod yn wydn, yn gryf ac yn abl i addasu. Trwy ganolbwyntio ar ddulliau i reoli coedwigoedd gwydn, bydd modd i ni barhau i ddarparu’r manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol hynny sy’n dod yn sgil tirweddau coediog.

Mae yna lawer o ansicrwydd o ran cwmpas ac ystod y newid yn yr hinsawdd, a’r effaith debygol ar goed, systemau rheoli a choedwigaeth. Mae amrywiad yn sail allweddol ar gyfer cynllunio a rheoli risg – o ledaenu’r dewis o ddeunydd genetig, cymysgu gwahanol rywogaethau o goed mewn clystyrau, i amrywio systemau rheoli ac amseru gweithrediadau.

Cyflawni gwydnwch

Er bod gwydnwch yn gallu bod yn gysyniad anodd ei ddeall, yn achos coetiroedd mae yna dri phrif faes i weithredu ynddyn nhw:

  1. Dewiswch yn ddoeth wrth benderfynu pa rywogaeth o goeden i’w phlannu. Rhaid i’r rhywogaeth fod yn addas ar gyfer y math o leoliad a’r hinsawdd sy’n cael ei rhagfynegi yn y dyfodol
  2. Ystyriwch yn ofalus pa system rheoli coedamaeth i’w defnyddio, a pha isadeiledd fydd yn angenrheidiol i’w chyflawni. Byddwch yn barod i addasu’ch cynlluniau
  3. Dewiswch goed o’r tarddiad mwyaf priodol, ac ystyried pa gyfraniad fydd eich gweithredoedd yn ei wneud ym meysydd amrywiaeth genetig a chadwraeth enetig

Sut y gallwn ni helpu

Mae Cymorth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i’r gwaith o gynyddu amrywiaeth y coetir sydd dan ein rheolaeth, ac i annog eraill sy’n berchen ar goetiroedd i wneud yr un fath. Rydyn ni wedi datblygu canllawiau i’ch helpu gyda’r dewisiadau hyn, ac yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygiad i wella’n gwybodaeth.

Ewch i wefan Forest Research am amrywiaeth o gyhoeddiadau am newid yn yr hinsawdd  a gwytnwch

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf