Gwerthiannau hirdymor
Contractau hirdymor
Contractau pum mlynedd yw contractau hirdymor fel arfer. Cânt eu cynnig ar ffurf gwerthiannau coed sy’n sefyll neu ymyl y ffordd. Caiff contractau hirdymor eu rhoi ar dendr yn ôl cyfaint penodol, sydd wedi’i rannu’n gyfartal dros gyfnod y contract. Caiff prisiau contractau ymyl y ffordd eu diwygio'n flynyddol fel arfer, a chaiff prisiau contractau coed sy'n sefyll eu diwygio yn ôl y lot.
Nid oes cynlluniau i gynnig unrhyw gontractau hirdymor pellach ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu’r sefyllfa a byddwn yn hysbysebu unrhyw gyfleoedd ar gyfer contractau pellach yn ôl yr angen.
Cynllun gwerthu 2022-23
Mae'r cynllun gwerthu 2022-23 yn dangos sut y byddwn yn dyrannu cyfanswm cyfaint ein cynnyrch blynyddol rhwng y pedwar digwyddiad gwerthu ar-lein. Mae’r cyfeintiau y bwriadwn eu marchnata ym mhob digwyddiad gwerthu hefyd wedi’u rhannu rhwng cynhyrchu uniongyrchol o ran cynhyrchion pren crwn, a gwerthiannau coed sy’n sefyll.
Tabl o'r cynnig cyfaint targed arfaethedig cyfartalog (m3)
Dyddiad | Coed sy’n sefyll |
---|---|
eWerthiant Ebrill - 26/04/2022 |
187,500 m3obs |
eWerthiant Gorffennaf - 26/07/2022 |
187,500 m3obs |
eWerthiant Hydref - 25/10/2022 |
187,500 m3obs |
eWerthiant Chwefror - 07/02/2023 |
187,500 m3obs |
|
750,000 m3obs |
Manteision
Roedd y contractau hyn yn cynnig:
- cyflenwad hirdymor gwarantedig o bren
- cymorth ar gyfer buddsoddi yn niwydiant pren Cymru
Y broses dendro
Bydd tendrau’n cael eu hysbysebu yn y Forestry Journal. Bydd defnyddwyr cofrestredig y gwasanaeth e-Werthiant yn cael eu hysbysu drwy’r gwasanaeth hwnnw.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â desg gymorth e-Werthiant