Sut i ymarfer bioddiogelwch mewn coetiroedd: Cadwch y cyfan yn lân

Bioddiogelwch mewn coedwigoedd a choetiroedd

Mae bioddiogelwch yn ffordd o weithio sy'n lleihau'r risg o niwed i'n coedwigoedd a'n coetiroedd gan rywogaethau goresgynnol neu anfrodorol, a chan blâu a chlefydau.

Gallai plâu fod yn rhai pryfed penodol, mae afiechydon yn cynnwys bacteria, ffyngau a firysau. 

Mae rhywogaethau anfrodorol ymledol yn cynnwys rhododendron, Lysichiton americanus, clymog Japan a ffromlys yr Himalaya.

Pam mae bioddiogelwch yn bwysig

Ni fu'r bygythiad i'n coedwigoedd a'n coetiroedd erioed yn fwy. Mae coed a phlanhigion ym Mhrydain bellach yn agored i ystod o blâu a chlefydau newydd o ganlyniad i’r ffaith fod nwyddau yn symud mwy ledled y byd ac oherwydd newid yn yr hinsawdd.

Gallai newid yn yr hinsawdd newid yr ardal lle mae'r amodau'n addas ar gyfer plâu a chlefydau penodol. Er enghraifft, credir bod y gwyfyn Thaumetopoea pityocampa, rhywogaeth o ardal Môr y Canoldir, yn symud tua'r gogledd gyda newid yn yr hinsawdd.

Gallai digwyddiadau tywydd eithafol newid ymddygiad plâu a chlefydau brodorol a rhai a gyflwynwyd mewn ffyrdd anrhagweladwy a gallai straen hinsoddol fel sychder adael coed yn fwy agored i ymosodiad.

Gallai achosion arwain at golledion economaidd i'r diwydiant coedwigaeth ac i ddiwydiannau cysylltiedig, megis twristiaeth.

Mae pawb sy'n gweithio yng nghefn gwlad neu'n ymweld ag ef yn gallu gwneud gwahaniaeth. Os ydych chi'n symud o un coetir i’r llall yn aml, yna mae'n bwysicach fyth eich bod chi'n ymarfer bioddiogelwch da.  

Ymwelwyr â choetiroedd

Glanhewch eich offer a'ch anifeiliaid

Gallai plâu ac afiechydon gael eu cludo’n hawdd yn y mwd ar eich esgidiau neu ar olwynion eich beic. Bydd ymweld gydag offer glân yn arafu ymlediad unrhyw blâu a chlefydau coed yn ogystal â chadw ein coedwigoedd yn iachach am gyfnod hirach.

Yr amser gorau i lanhau teiars beic neu esgidiau yw cyn i chi adael y coetir, ond dylech sicrhau bod eich cit yn lân cyn i chi anelu am eich ymweliad nesaf â chefn gwlad.  Nid oes angen offer arbennig arnoch chi, dim ond brwsh caled fel brwsh golchi llestri ac ychydig o ddŵr. 

Ychydig funudau yn unig a gymer i frwsio'ch esgidiau, sychu pawennau'ch ci neu olchi'ch beic cyn i chi fynd allan nesaf. Gwnewch hyn yn rhan o'ch trefn arferol ac yn fuan bydd yn dod yn arferiad.  

Nid oes gan bob canolfan ymwelwyr neu faes parcio gyfleusterau golchi gan y rhoddir y pwyslais ar gyrraedd cefn gwlad gydag offer glân, boed yn esgidiau glân, beiciau glân neu'n anifeiliaid anwes glân. 

Gallai sborau o rai afiechydon coed fyw am amser hir iawn, blynyddoedd weithiau. Hyd yn oed os nad ydych chi wedi bod yng nghefn gwlad ers rhai misoedd, mae bob amser yn well sicrhau bod eich cit yn lân cyn i chi fynd allan.

 


Ymweld ag ardaloedd heintiedig

Dylech ddal i ddilyn yr arfer o ymweld gydag esgidiau ac offer glân. Dilynwch unrhyw arwyddion sy’n cynnig gwybodaeth gan y bydd y rhain yn cynnwys y cyngor gorau ar gyfer y pla neu'r afiechyd penodol.

Planhigion, hadau a ffrwythau o'r tu allan i'r DU

Ni ddylid dod â phlanhigion, hadau, ffrwythau, blodau na llysiau y dewch o hyd iddynt dramor i'r DU oherwydd y gallant gario plâu a chlefydau a fyddai'n dinistrio planhigion, coed a chnydau'r DU. 

Perchnogion a rheolwyr coetiroedd

Mae bioddiogelwch yn bwysig wrth weithio mewn unrhyw goedwig neu goetir, neu wrth fynd i mewn i unrhyw dir neu adeilad lle mae risg o ledaenu plâu a chlefydau coed (er enghraifft, lle mae pren yn cael ei storio neu ei brosesu). 

Nid yw bob amser yn bosibl gweld plâu a chlefydau. Mae plâu yn cael eu cludo y rhan amlaf mewn pridd neu ddeunydd organig, fel malurion planhigion, y gellir eu cario ar esgidiau neu gan olwynion cerbydau a pheiriannau coedwig. Gellir eu trosglwyddo ar ddamwain gan bobl sy'n symud rhwng gwahanol goedwigoedd a choetiroedd. Gellir lledaenu afiechydon hefyd trwy'r offer a ddefnyddir ar gyfer gwaith gyda choed.

Mae rhai pathogenau yn cael eu gwasgaru mewn dŵr ac felly mae'r risg y bydd y rhain yn cael eu lledaenu yn cynyddu pan fydd yr amodau'n wlyb.

Gwiriwch y cyfyngiadau safle

Cyn i chi ymweld â safle, gwiriwch a oes unrhyw gyfyngiadau’n bodoli ar y safle. Os felly, gofynnwch am gyngor gan yr awdurdod arweiniol cyn ymweld â'r safle. 

Os ydych chi'n cynnal gweithgareddau risg isel

Mae gweithgareddau risg isel yn cynnwys gweithrediadau arferol sy'n annhebygol o gynnwys cyswllt â phlâu a chlefydau risg uchel. Mae enghreifftiau yn cynnwys rheoli coedwigoedd a choetiroedd o ddydd i ddydd, monitro, ymweliadau arferol â safleoedd neu adeiladau (gan gynnwys meithrinfeydd coed, melinau llifio a phroseswyr coed), ac archwiliadau rheolaidd o borthladdoedd a dociau i wirio cydymffurfiad â Hysbysiadau Iechyd Planhigion.

Os ydych yn amau nad oes pla neu afiechyd coed niweidiol yn bresennol ar y safle, gweithredwch fesurau bioddiogelwch risg isel. 

Os ydych yn amau bod pla neu afiechyd coed niweidiol yn bresennol ar y safle, meddyliwch am y risgiau o drosglwyddo'r pla neu'r afiechyd i safle newydd.  Os oes yna risg isel, cyflawnwch fesurau bioddiogelwch isel; os oes risg uchel, cyflwynwch fesurau bioddiogelwch uchel

Os ydych chi'n cynnal gweithgareddau risg uchel

Mae gweithgareddau risg uchel yn cynnwys gweithrediadau arbenigol neu wedi'u targedu a allai gynnwys cyswllt â deunydd heintiedig neu bla. Gallai hyn fod yn ymweliad â safle neu adeilad fel rhan o raglen gwylio pla neu i gasglu samplau plâu a chlefydau, archwilio melin lifio yn prosesu deunydd heintiedig, neu â phorthladd neu iard sy’n mewnforio deunydd a allai fod wedi'i heintio.

Ar gyfer gweithgareddau risg uchel, dylech bob amser gyflawni mesurau bioddiogelwch risg uchel.

Mesurau bioddiogelwch risg isel

  • Gwisgwch esgidiau a dillad allanol y gellir eu cadw'n lân yn hawdd
  • Glanhewch esgidiau a dillad allanol yn rheolaidd. Gofalwch nad oes pridd na deunydd organig i’w gweld arnynt
  • Glanhewch gerbydau fel faniau, lorïau coed a pheiriannau coedwigaeth yn rheolaidd. Peidiwch â gadael i fwd a malurion organig gronni ar deiars, olwynion neu o dan fwâu olwynion
  • Cyfyngwch ar yr offer sy’n cael ei gymryd i safle - cymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer y dasg yn unig
  • Gofalwch fod yr holl offer yn lân, yn gweithio ac yn rhydd o falurion organig

Mesurau bioddiogelwch risg uchel

  • Cynlluniwch i ymweld â safleoedd risg uchaf yn olaf
  • Glanhewch esgidiau a dillad allanol rhwng ymweliadau safle trwy gael gwared ar ddail, pridd a deunydd organig arall
  • Chwistrellwch esgidiau a dillad allanol glân gyda diheintydd nes ei fod yn rhedeg oddi arnynt (gellir trochi esgidiau mewn diheintydd)
  • Peidiwch â mynd â cherbydau i safleoedd risg uchel - parciwch oddi ar y safle os yn bosibl
  • Cadwch at draciau caled sefydledig
  • Sychwch fwd a malurion organig o deiars, olwynion a bwâu olwynion
  • Glanhewch a diheintiwch deiars ac olwynion
  • Wrth gymryd samplau, glanhewch a diheintiwch offer torri ar ôl pob sampl
  • Glanhewch a diheintiwch offer arall cyn gadael y safle
  • Cadwch unrhyw samplau mewn cynwysyddion wedi'u selio

Cadwch becyn bioddiogelwch personol

Dylech gario'r eitemau canlynol os oes angen glanhau a diheintio:

  • Blwch storio plastig
  • Cyflenwad o ddŵr glân (5 litr)
  • Trei neu fwced i gadw esgidiau cryfion
  • Brwsh caled a theclyn i grafu gwadnau’r esgid
  • Diheintydd
  • Cynhwysydd atal anwedd ar gyfer diheintydd
  • Menig amddiffynnol
  • Amddiffyniad i’r llygaid
  • Brwsh, sbwng neu chwistrellwr cludadwy
  • Tyweli papur /weips
  • Bagiau y gellir eu hail-selio (ar gyfer samplau)
  • Bagiau a chlymau plastig (ar gyfer dillad / CDP/PPE)

Mae golchwyr pwysau cludadwy ar gyfer glanhau beiciau hefyd yn ychwanegiad da at becyn bioddiogelwch. Maent yn gweithio trwy gael eu plygio i danwyr sigaréts mewn ceir a gellir eu defnyddio'n hawdd allan yn y coed.

Defnyddio diheintyddion

Argymhellir diheintydd sy'n seiliedig ar alcohol (fel gwirod methyl diwydiannol neu isopropyl) ar grynodiad o 70% gan ei fod yn effeithiol yn erbyn Phytophthora a phathogenau eraill.

Rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau iechyd a diogelwch perthnasol a dilyn yr asesiad risg COSHH ar gyfer y cynnyrch rydych chi'n ei ddefnyddio.

Yn ogystal â hyn, dylech bob amser:

  • Ddilyn y cyfarwyddiadau ar label y cynnyrch
  • Gwisgo menig amddiffynnol ac amddiffyniad i'r llygaid
  • Cymysgu a defnyddio diheintydd mewn man wedi'i awyru'n dda
  • Cynnal y broses ddiheintio ar ddarn o dir gwastad ymhell oddi wrth unrhyw gyrsiau dŵr
  • Taenu diheintyddion ar arwynebau glân - cael gwared ar fwd, pridd, dail a malurion organig eraill trwy eu golchi â dŵr yn gyntaf (neu ddefnyddio piben ddyfrhau os oes angen a lle caniateir hynny)
  • Rhoi sylw i unrhyw amseroedd cyswllt penodol ac, os oes angen, rinsio’r diheintydd wedyn gyda dŵr glân

Lleihau'r risg o lygredd o ddŵr ffo. Peidiwch â gadael i ddiheintyddion neu olchion fynd i mewn i gyrsiau dŵr, draeniau dŵr wyneb, neu ffynhonnau a phistylloedd.

Nodi a rhoi gwybod am blâu a chlefydau

Darllenwch fwy am sut i adnabod a rhoi gwybod am blâu a chlefydau.

Adnoddau ar gyfer rheolwyr coetiroedd

Lawrlwythwch bosteri ac adnoddau ar gyfer perchnogion coetiroedd a rheolwyr safle.

Diweddarwyd ddiwethaf