Cynaeafu
System brynu ddeinamig
Rydym yn gweithredu system brynu ddeinamig er mwyn caffael gwasanaeth cynaeafu cynhyrchu uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys cwympo, prosesu ac alldynnu coed at ochr y ffordd. Mae'r rhain yn cael eu gwneud yn ôl manyleb coed, i gefnogi contractau coed ar ochr y ffordd.
Mae hwn yn waith adweithiol, yn ôl yr angen, i sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau statudol ac yn darparu gwasanaeth cynaeafu ar gyfer Cymru gyfan.
Contractau cynaeafu
Mae contract cynaeafu unigol yn cynrychioli un neu fwy o lennyrch o fewn ardal ddaearyddol, fel arfer rhwng 1,000 a 10,000 m3obs.
Gall y contract fod ar gyfer:
- Llwyrgwympo neu deneuo, a chwmpasu'r holl ddulliau gweithio gan gynnwys cwympo â llaw, cynaeafwr/cludwr (forwarder), a systemau rhaff wifren.
- Gall hefyd gynnwys gwasanaethau taenu tomwellt/rheoli llystyfiant mecanyddol yn barod i ymateb i waredu coed â diamedr llai sydd wedi’u heintio (Phytophthora/Chalara/Dothistroma).
Gallai un contract ofyn am gyfuniad o ddulliau gweithio i gwblhau ardal y contract.
O fewn y llennyrch gofynnol, mae angen i gontractwyr gynllunio gweithrediadau cynaeafu a pharatoi Datganiad Dull ac Asesiad Risg manwl ar gyfer yr holl weithgareddau cynaeafu.
Mae angen cwblhau'r rhain fel eu bod yn bodloni’r rheolwr Contractau Cynaeafu.
Sut i ymuno â'r rhestr o gyflenwyr
Bydd angen i chi gwblhau'r holiadur Cyn-Cymhwyso. Nid oes cyfyngiad ar nifer y cyflenwyr y gellir eu hychwanegu, ar yr amod eu bod wedi pasio'r cam cyn-cymhwyso.
Gellir dod o hyd i'r Holiadur Cyn-Cymhwyso (PQQ) ar Bravo e-dendr Cymru.
- Teitl y Prosiect: Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol - System Brynu Ddeinamig
- Rhif y Prosiect: 42243
- Cyf PQQ: 32927 – Cyfnod Ymuno Parhaus
Dyfarnu contractau – y cam dyfarnu Tendrau Mini
Rydym yn dyfarnu contractau unigol yn ystod yr ail gam (dyfarnu) 'Tendrau Mini’. Byddwn yn gwahodd pob cyflenwr ar y system brynu ddeinamig yn y lot benodol honno i wneud cais am gontract penodol.
Bydd disgwyl i gyflenwyr gyflwyno cais gan gynnwys meini prawf ansawdd a phris fesul tunnell am y llannerch.
Strategaeth lotio
Mae'r system brynu ddeinamig wedi'i rhannu'n dair lot, fel y dangosir isod. Does dim cyfyngiad ar y nifer o lotiau y gall cyflenwyr wneud cynnig amdanynt.
- Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol - gogledd ddwyrain a gogledd orllewin Cymru
- Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol - canolbarth Cymru
- Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol - de orllewin, canol de a de ddwyrain Cymru
Hyd y system brynu ddeinamig
Bydd y system brynu ddeinamig bresennol yn rhedeg i ddechrau am bedair blynedd tan 12 Chwefror 2024. Bydd unrhyw estyniad pellach yn digwydd fel y gwelwn orau.