Y Diwydiant Coedwigaeth – twf gwyrdd – swyddi gwyrdd


Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos bod Gwerth Ychwanegol Gros Sector Goedwigaeth Cymru yn £455.7 miliwn gydol y flwyddyn ddiwethaf. Mae coedwigaeth yn cynnal mwy na 11,000 o swyddi yn uniongyrchol, yn cynnwys swyddi mewn coedwigaeth a thorri coed, cynhyrchu pren a chynhyrchion pren, a chynhyrchu papur a chynhyrchion papur. Mae nifer o'r swyddi hyn yn gysylltiedig ag ardaloedd gwledig ac yn cyfrannu'n sylweddol at economïau lleol.

Economi werdd Cymru

Nid yw'r ffigurau uchod yn cynnwys mentrau hamdden yn y coetiroedd, ac felly mae cyfanswm cyfraniad coedwigaeth i economi werdd Cymru yn debygol o fod yn llawer uwch. Mae'r cynhyrchion hyn yn dod o amrywiaeth o ddiwydiannau coedwigaeth, o gwmnïau rhyngwladol mawr sy'n cynhyrchu mwydion coed, papur a byrddau panel, i fusnesau bach, teuluol sy'n gwneud ffensys a dodrefn gardd.

Cynaliadwyedd ac adnoddau cynaliadwy

Mae sector coedwigoedd sy'n ehangu yn sicrhau gwaith a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobl Cymru a hynny mewn amrywiaeth eang o broffesiynau. Mae nifer o'r swyddi hyn i'w cael mewn mentrau bach neu ganolig eu maint. Mae swyddi gwyrdd yn cael eu seilio ar reoli adnoddau adnewyddadwy, ac mae coetiroedd a choedwigoedd sydd wedi'u rheoli'n iawn yn adnewyddadwy ac yn gynaliadwy fel ei gilydd.

Mae Adnodd Coedwigoedd Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol at economi werdd Cymru trwy ddarparu deunyddiau adeiladu cynaliadwy, ffynonellau tanwydd cynaliadwy a swyddi gwyrdd.

Gwella'n coetiroedd

Mae yna alw mawr am bren a chynhyrchion pren a'r buddion amrywiol y mae coetiroedd yn eu darparu. Bydd y galw am danwydd coed bum gwaith yn fwy erbyn 2020. Mae'r buddsoddiad mewn coedwigaeth yn tyfu ond mae ganddo'r potensial i dyfu llawer iawn mwy. Rydyn ni'n dal i fewnforio pren ar gyfer llawer o'n hanghenion. Nid oes digon o reolaeth ar lawer o'n coetiroedd ac nid yw rhai yn cael eu rheoli o gwbl. Mae yna dystiolaeth bendant fod coetiroedd yn ateb rhad i'n helpu i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd, ac eto mae creu coetiroedd newydd yn parhau yn ystyfnig o isel.

Dyfodol y cyflenwad o bren

Ar ran Llywodraeth Cymru, cynhaliodd Confor a Phartneriaeth Fusnes Coedwig Cymru weithdy ym mis Hydref 2014 o'r enw Cyflenwadau Pren Cymru a'n Heconomi Werdd. Mae'r cynnyrch a ragwelir a fydd yn deillio o'r sector coedwigaeth yn dangos dirywiad mawr yn y pren a fydd ar gael. Rhybuddiodd cynrychiolwyr ledled y diwydiant coedwigaeth yng Nghymru y bydd hyn, heb weithredu unedig, yn peri perygl go iawn i fuddsoddiad yn y dyfodol, gan felly gyfyngu ar botensial economi werdd Cymru.

Gallwn wneud iawn am y dirywiad sy'n cael ei rag-weld os byddwn yn dod â mwy o goetiroedd dan reolaeth, yn gwneud lle i greu coetiroedd newydd ac yn meddwl yn ofalus am blannu rhywogaethau o goed sydd â'r nodweddion pren y bydd marchnadoedd y dyfodol yn debygol o'u defnyddio.

Y gefnogaeth rydyn ni'n ei chynnig

Mae ein gwaith yn parhau i gefnogi amrywiaeth eang o fusnesau sy'n defnyddio coetiroedd a'u cynhyrchion. Rydyn ni'n canolbwyntio ar yr angen i weithio mewn partneriaeth gydag eraill, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector, er mwyn cefnogi cadwyn gyflenwi integredig ac effeithlon.

Dewch i gael gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen i'r 'cyngor ar gyfer y sector a busnesau'. Dewch i gael gwybod am ddod â choetiroedd dan reolaeth, creu coetiroedd newydd a'r gefnogaeth sydd ar gael trwy ddilyn y dolenni canlynol.

Ein hamcanion

Yn ein gwaith o reoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru a ledled ein cylch gwaith ar gyfer coedwigaeth, rydyn ni'n cefnogi'r datblygiad economaidd a'r buddion mentro sy'n codi o Adnodd Coedwigoedd Cymru fel bod:

  • Mwy o goetiroedd a choed yn cael eu rheoli'n gynaliadwy
  • Mwy o bobl yn elwa ar fentrau sy'n gysylltiedig â choetiroedd
  • Mwy o bren sydd wedi'i dyfu yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru
  • Y sector coedwigaeth yn fwy integredig ac yn fwy cystadleuol, er mwyn cefnogi economi Cymru
  • Defnydd cynyddol yn cael ei wneud o bren fel adnodd cynaliadwy
  • Gweithlu ffyniannus a medrus ar gael yn y sector coedwigaeth

Coetiroedd a hamdden

Mae mentrau hamdden mewn coetiroedd yn elfen sy'n tyfu yn yr hyn y mae Adnodd Coedwigoedd Cymru yn ei gynnig i economi werdd Cymru. Mae mwy na 3,000 o swyddi yn gysylltiedig â hamdden mewn coetiroedd yng Nghymru. Mae llawer o fusnesau yn dibynnu ar y dirwedd hardd a'r adnoddau sy'n cael eu darparu gan goetiroedd fel un ffordd o ddenu cwsmeriaid. I rai ymwelwyr, y coetiroedd a'u bywyd gwyllt yw'r prif atyniad. Mae cerdded, beicio, cyfeiriannu, byw yn y gwyllt, addysg a marchogaeth yn rhai o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd sy'n cael eu mwynhau yn ein coetiroedd.

Gallwch gael gwybod sut i gynnig cyfle am fenter newydd yn Ystâd Goed Llywodraeth Cymru trwy ymweld â'r ddolen 'coetiroedd a chi'.  

Dewch i gael gwybod rhagor

Gallwch gael gwybod sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru trwy ddilyn y dolenni. Gallwch hefyd gael gwybod sut i brynu pren a gweithio ar ein tir, a chael gwybodaeth am ein cynlluniau cynaeafu a marchnata.

Os hoffech gysylltu â'r Tîm Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiad i sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf