Amrywiaeth enetig
Mae tarddiad, ac felly amrywiaeth enetig, yn ogystal ag amrywiaeth rhywogaethau, yn bwysig yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, ac yn enwedig felly yn y frwydr yn erbyn y perygl cynyddol sy’n dod o blâu a phathogenau.
Rôl detholiad naturiol
Mae detholiad naturiol o fewn unrhyw rywogaeth yn ffynhonnell gwydnwch y gallai coedwigwyr ei defnyddio i leihau’r risg o gnwd yn methu.
Bydd plâu a chlefydau newydd yn cyflwyno sialensiau newydd, a thrwy broses detholiad naturiol bydd unigolion a chanddyn nhw amrywiadau arbennig yn eu genynnau, neu gyfuniad o enynnau, yn cael eu ffafrio os ydyn nhw’n wydn. O ganlyniad, yr unigolion hynny fydd yn llwyddo i oroesi’r sialens ac yn esgor ar y genhedlaeth nesaf.
Pwysigrwydd ffynhonnell hadau
Bydd dewis hadau o’r ffynhonnell gywir yn chwarae rhan bwysig yn y broses o addasu i newid yn yr hinsawdd, o ystyried y bydd coed gaiff eu plannu yn y degawd hwn o bosib yn profi hinsawdd lledredau dwy neu dair gradd ymhellach i’r de erbyn iddyn nhw gyrraedd eu llawn dwf.
Amrywiaeth mewn coetiroedd brodorol a lled-naturiol
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y rhan fwyaf o goed sy’n tyfu mewn coetiroedd lled-naturiol yn cynnwys lefelau uchel o amrywiaeth enetig. Bydd cysylltu ac ehangu coedwigoedd naturiol gan ddefnyddio adfywiad naturiol fel rhan o rwydwaith cynefinoedd, neu blannu gyda stoc a addaswyd yn dda, yn cynyddu llif genynnau ac yn cryfhau gallu poblogaethau o goed i addasu.
Cafodd y diddordeb a’r ddealltwriaeth gynyddol o bwysigrwydd amrywiaeth enetig ei hadlewyrchu yn Strategaeth Coedwigaeth y DU a dogfennau polisi eraill.
Gwybodaeth bellach
Rydym wedi cynhyrchu Canllaw Arfer Da ar reoli amrywiaeth genetig coetiroedd Cymru er mwyn sicrhau gwydnwch coedwigoedd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n parhau i gefnogi ymchwil fydd yn ein helpu i ddarparu mwy o wybodaeth.
Os hoffech gysylltu â’r Tîm Rheolaeth Coedwigaeth Gynaliadwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiad at sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk