Sector coedwigaeth a chyngor i fusnesau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo rôl gadarnhaol Adnodd Coedwigoedd Cymru bywiog. Rydyn ni am sicrhau bod busnesau, cymunedau a mentrau cymdeithasol yn cael y budd mwyaf posibl o'r ystâd goed sy'n cael ei reoli ganddo ar ran Llywodraeth Cymru. Dyma rai dolenni a chysylltiadau i'w defnyddio os ydych chi'n chwilio am gymorth neu gyngor ar gyfer eich busnes.

Cysylltu â staff a chanddynt gyfrifoldeb dros goedwigaeth

Os ydych chi wedi gweithio gyda ni yn y gorffennol, mae’n debyg y bydd gennych gyswllt yn barod, a dylech gysylltu â’r unigolyn hwnnw yn gyntaf.

Ein cyfeiriadau e-bost yw: enwcyntaf.cyfenw yn cael ei ddilyn gan @cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Os na allwch ddod o hyd i rif ffôn na manylion yr unigolyn, yna

Dewch i gael gwybod rhagor am y cymorth a'r cyllid sydd ar gael er mwyn rheoli eich coetiroedd a chreu coetiroedd newydd

Ewch i dudalennau gwe Glastir a ffynonellau cyllid eraill a rheoli coetiroedd Glastir. Dewch i gael gwybod rhagor am y cyfleoedd y gall y Cod Carbon Coetiroedd ac ardystiad annibynnol Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig eu cynnig i'ch busnes chi.

Defnyddio Ystâd Goed Llywodraeth Cymru ar gyfer mentrau, hamdden, prosiectau a rhagor

Y man cychwyn ar gyfer cyflwyno cynnig ar gyfer prosiectau, partneriaethau a mentrau newydd yn seiliedig ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru yw Coetiroedd a Chi.

Er ei bod wedi’i chynllunio'n bennaf ar gyfer mentrau cymunedol a mentrau ar raddfa fach, mae'r adran hon yn darparu'r broses a'r cyngor ar gyfer cynnig prosiect, partneriaeth neu fusnes o unrhyw faint. Mae busnesau hamdden yn rhan gynyddol o sector coedwigaeth Cymru, ac yn ffynnu ar y dirwedd ddeniadol a'r cyfleusterau i ymwelwyr i helpu i ddenu cwsmeriaid. Os hoffech wybod sut y gall Ystâd Goed Llywodraeth Cymru gefnogi twf a datblygiad eich busnes, ewch i Coetiroedd a Chi.

Prynu neu weithio pren o goetiroedd a choedwigoedd Llywodraeth Cymru

Rydyn ni'n cynnig amryw gyfleoedd i brynu pren cynaliadwy o'r coetiroedd a'r coedwigoedd rydyn ni'n eu rheoli ar ran Llywodraeth Cymru. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â hyn, a sut i weithio gyda ni i reoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru, trwy ymweld â'r dolenni isod neu drwy gysylltu â'r tîm.

Mae ein busnes cyfredol yn cynnwys nifer fawr o gyfleoedd contractio, sy'n cael eu hysbysebu ar ein tudalen tendrau ac ar wefan GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru.

Cynnig cynllun ynni adnewyddadwy ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru

Ewch i'n tudalennau gwynt, pren ac ynni dŵr am ragor o fanylion.

Ymchwil ac ystadegau

Rydyn ni'n comisiynu ac yn ymgymryd ag ymchwil economaidd a gwerthusiadau ar gyfer coedwigaeth. Mae Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth hefyd yn casglu gwybodaeth ystadegol sy'n cynnwys agweddau amrywiol ar goedwigaeth. Os oes arnoch angen ffeithiau a ffigurau am goedwigaeth, ewch i'r dudalen ystadegau, rhagolygon ac arolygon.

Rydyn ni wedi ymrwymo i'w gwneud hi'n haws cael mynediad i'n data gofodol ac wedi sicrhau bod y data ar gael i'w lawrlwytho o dan y fenter Ewropeaidd INSPIRE. 

Os yw eich busnes mewn ymchwil neu ddadansoddi, ewch i'n gwefan lawrlwytho data am ragor o wybodaeth.

Ymholiadau cyffredinol

Am ragor o ymholiadau cyffredinol ynghylch coedwigaeth yng Nghymru, cysylltwch â Thîm Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru trwy anfon e-bost i sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf