Cyflwyniad

Mae coedwigoedd a choetiroedd yn gorchuddio tua 15% o arwynebedd tir Cymru ac mae’r ffordd maent yn cael eu rheoli yn medru effeithio ar ansawdd a lefel y dŵr i lawr yr afon sy’n effeithio ar iechyd yr ecosystemau dyfrol a defnydd y dŵr hwn i lawr yr afon ar gyfer budd economaidd a chymdeithasol.

Tra gall coedwigoedd darparu gostyngiad mewn effeithiau peryglon naturiol fel sychder, llifogydd ac erydiad pridd, gall rheolaeth anaddas o goedwigoedd beryglu’r amgylchedd a lleihau’r buddion lles a gawn o ddŵr. Yn sgil hynny, mae’n bwysig bod coedwigoedd yn cael eu rheoli mewn ffordd sy’n lleihau effeithiau ar systemau dŵr croyw, yn unol ag egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol. 

Gofynion allweddol

Mae’r Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) a Chanllawiau Coedwigaeth a Dŵr Safon Coedwigaeth y DU( UKFWG) yn esbonio sut dylid rheoli coedwigoedd, gan ymwneud â materion megis rheoli coedwriaeth, dewis rhywogaethau, rheoli draenio, gweithredu peiriannau, rheoli llygredd, diogelu cyflenwadau dŵr cyhoeddus, rheoli malurion, defnydd o gemegau, tanwyddau ac olew a rheoli’r parthau torlannol.

Mae Strategaeth Coetiroedd i Gymru, Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig mae coetiroedd a choed yn chwarae wrth gyfrannu at reolaeth dŵr a phridd. Hefyd mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Ddŵr (WFD) hefyd yn allweddol gan nodir gweithgaredd coedwigaeth fel rheswm am beidio â chyrraedd statws da mewn nifer o ardaloedd dyfrol ar draws Cymru.

Ein Gwaith

Rydym wedi cynhyrchu nodyn briffio (Hydref 2017) sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf ar amrywiaeth o faterion sy’n berthnasol i goedwigaeth a dŵr. Mae’r papur yn trafod yr UKFS a’r UKFWG, asideiddio, adfer mawn dwfn, defnyddio plaladdwyr, newid yn yr hinsawdd, creu coetiroedd, penderfyniadau yn ymwneud â’r dalgylch cyfan, a gweithio mewn partneriaeth. Mae’n cwmpasu ein camau gweithredu a’r cynnydd hyd yma ar Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r rhai sy’n berthnasol i Adnoddau Coedwigaeth Cymru ehangach lle gallwn ddylanwadu ar hyn.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf