Woodlands for Wales - Forestry policyDyma’r weledigaeth heriol, 50 mlynedd, sydd wedi'i gosod yn Adnoddau Coedwigoedd Cymru gan strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coed a choetiroedd Coetiroedd i Gymru. Mae Cynllun Gweithredu, sy’n cael ei ddiweddaru bob pum mlynedd, yn dangos y camau y mae’n rhaid i ni i gyd eu cymryd i gael y gorau o’n holl goed, coetiroedd a choedwigoedd yng Nghymru.

Polisi Coedwigaeth yng Nghymru

Mae polisi coedwigaeth yng Nghymru wedi’i ddatblygu o fewn fframwaith gysyniadol o Reoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy yr ymrwymwyd iddo ar lefel Rhyngwladol, Ewropeaidd a'r Du yn ystod y ddau ddegawd diwethaf.

Daw coetiroedd â nifer o fuddion i economi, amgylchedd a phobl Cymru, yn yr un lle ac yr un pryd. Y pwysigrwydd o gael set gytbwys o fuddion yw'r allwedd i bolisi coedwigaeth.

Cerrig milltir coedwigaeth

Mae cerrig milltir pwysig yn cynnwys:

  • Gosod safonau ar gyfer rheoli coedwigaeth yn gynaliadwy
  • Mabwysiadu polisïau coedwigaeth aml bwrpas
  • Gweithredu rheoliadau ar gyfer polisi coedwigaeth cynaliadwy
  • Cyhoeddi canllawiau ac ymarfer gorau
  • Gweithredu cynlluniau ardystio mewn coedwigaeth
  • Sefydlu Cod Carbon Coetiroedd y DU

Ein swyddogaeth a’n cyfrifoldebau

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ran bwysig i’w chwarae mewn troi polisi coedwigaeth yn weithredu. Gallwn wneud hynny’n uniongyrchol drwy ein rheolaeth o goedwigoedd Cymru sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus – Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru – drwy ein gweithgareddau rheoli tir a thrwy ein gwaith mewn partneriaeth ag eraill.

Ni sy’n gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau coedwigaeth ac am faterion iechyd coed. Rydym yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i gynghori ar bolisi, gweithredu ac ariannu sy’n hyrwyddo diddordebau coedwigaeth. Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i warchod ein hasedau coetir gwerthfawr, helpu i ddod â rhagor o goetir o dan reolaeth, hyrwyddo sefydlu coetiroedd newydd a chynhyrchu pren yn gynaliadwy, i gael y gorau o Adnoddau Coedwigoedd Cymru.

Gwybodaeth bellach

I ganfod rhagor, darllenwch y Strategaeth Coetiroedd i Gymru, Safbwyntiau Polisi a Chynllun Gweithredu ar wefan Llywodraeth Cymru. Gallwch weld ein cynnydd yng Nghymru drwy ddarllen dangosyddion Coetiroedd i Gymru. Defnyddiwch y dolenni i ddysgu ynghylch polisi coedwigaeth ehangach y DU, Yr Undeb Ewropeaidd a Rhyngwladol.

Cewch ganfod beth rydym ni'n ei wneud i wireddu gweledigaeth 50 mlynedd Adnoddau Coedwigoedd Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan drwy gael golwg ar ein tudalennau prosiectau.

Os hoffech gysylltu â'r Tîm Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy yn Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiadau i sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf