Ardystio coedwigoedd a choetiroedd

Safon Sicrwydd Coetir y Deyrnas Unedig

Ar ddiwedd yr 1990au roedd cyrff Llywodraeth y DU yn gweithio mewn partneriaeth â grŵp eang o sefydliadau a oedd yn cynrychioli buddiannau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol er mwyn datblygu Safon Sicrwydd Coetir y DU (UKWAS). Cyhoeddwyd Safon Sicrwydd Coetir y DU am y tro cyntaf yn 2000, a chafwyd y  bedwerydd argraffiad yn 2018 o ganlyniad i ymgynghori eang â rhanddeiliaid. Mae'n darparu safon archwilio gyffredin ar gyfer ardystio'n annibynnol bod coetiroedd yn y DU yn cael eu rheoli'n gynaliadwy.

Mae Safon Sicrwydd Coetir y DU yn ategol i Safon Coedwigaeth y DU, sef safon y Llywodraeth ei hun o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy. Mae'n cysylltu ynghyd yr holl ganllawiau technegol sy'n cael eu defnyddio fel sail ar gyfer rheoleiddio a darparu nawdd grant. 

Cynlluniau ardystio yn y DU

Defnyddir Safon Sicrwydd Coetir y DU fel sail ar gyfer y ddau gynllun ardystio coedwigoedd sy'n weithredol yn y DU: y Forest Stewardship Council® (FSC®) a'r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC). Mae ardystiad i un neu ddau o'r cynlluniau hyn yn sicrhau prynwyr a defnyddwyr pren a chynhyrchion pren eu bod yn dod o goedwigoedd sy'n cael eu rheoli'n gynaliadwy.

Mae Safon Sicrwydd Coetir y DU yn golygu y gall coetiroedd yn y DU fod wedi'u hardystio'n ddeuol, sy'n darparu rhywfaint o hyblygrwydd i berchnogion, tyfwyr, cynhyrchwyr a chwsmeriaid coedwigoedd.

Ardystiad deuol

Mae'r coedwigoedd sy'n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran Gweinidogion Cymru wedi cael sêl bendith y FSC® er mis Tachwedd 1999, a sêl bendith y PEFC er mis Chwefror 2010. Golyga’r ffaith fod gennym statws ardystiad deuol ein bod yn gallu cyflenwi ein pren un ai â sêl bendith FSC® neu PEFC. Ni yw’r cyflenwyr mwyaf o bren wedi’i ardystio’n ddeuol yng Nghymru.

Rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy

Mae ardystiad FSC® a PEFC ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn golygu bod ein coedwigoedd yn darparu coed a chig carw sydd wedi'u cynhyrchu mewn modd cyfrifol. Mae'r gwaith o reoli ein tir yn cael ei wneud yn y fath fodd fel bod bioamrywiaeth a phrosesau ecolegol naturiol yn cael eu cynnal, yn ogystal â bod yn fanteisiol i gymdeithas ac i'r economi.

Rydyn ni wedi rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd ein harferion coedwigaeth er mwyn i ni allu gwireddu potensial llawn ein coetiroedd. Lle mae angen gwelliant, ein cyfrifoldeb ni yw arwain ac annog y newidiadau a cheisio sicrhau bod y rhain yn gweddu i'r ymrwymiadau rhyngwladol rydyn ni wedi eu gwneud ar reoli coedwigoedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth

Dewch i gael gwybod rhagor am ein polisi prynu pren ar gyfer y pren a'r cynhyrchion pren rydyn ni'n eu prynu a'u defnyddio yn ein swyddfeydd, ac ar gyfer y tir rydyn ni'n eu rheoli.

Prynu cynhyrchion pren ardystiedig

Gall edrych am y logo FSC neu PEFC eich galluogi chi i wneud penderfyniad am y cynhyrchion yr ydych chi'n eu prynu, a golygu eich bod yn hyderus eu bod yn gynaliadwy. Y ffordd orau o sicrhau bod eich pren yn dod o ffynhonnell gynaliadwy yw defnyddio cyflenwr sydd wedi cael ei ardystio'n annibynnol, neu trwy berswadio eich cyflenwyr i gael ardystiad. Gall gofyn i gyflenwyr os ydyn nhw'n defnyddio pren ardystiedig ai peidio gael effaith. Dewch i gael gwybod rhagor trwy ddilyn y dolenni.

Trwy ddefnyddio cynhyrchion pren ardystiedig rydych chi hefyd yn helpu i gloi carbon, gan felly gynorthwyo i leihau effaith nwyon tŷ gwydr ar hinsawdd y byd. Dewch i gael gwybod rhagor trwy ymweld â'n tudalennau ar newid yn yr hinsawdd.

Os hoffech gysylltu â Thîm Rheoli Coedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiad i sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae’r coedwigoedd yr ydym yn eu rheoli fel rhan o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru wedi eu hardystio hyd at safonau’r Forest Stewardship Council® (FSC®). Nid yw’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yr ydym yn eu rheoli (gan gynnwys coetir ar y gwarchodfeydd hyn) wedi eu hardystio. Mae rhai o’n taflenni gwybodaeth i ymwelwyr yn defnyddio nod masnach nad yw’n cydymffurfio â’r FSC a gallai rhai o’r taflenni hyn awgrymu hefyd fod ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn rhai ardystiedig. Mae ein corff ardystio yn ymwybodol o’r gwall hwn ac wedi cytuno y gallwn ddefnyddio stociau o’r taflenni hyn er mwyn osgoi eu gwastraffu.

Ein côd drwyddedu yw FSC – C115912.

Diweddarwyd ddiwethaf