E-Werthiant Coed
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr Materion Pren
e-Werthiant Coed CNC
Bydd angen i chi gofrestru ar e-Werthiant Coed CNC.
I wneud cais i brynu pren, rhaid i chi gwblhau gofynion cyn cymhwyso:
- Rhaid i chi lenwi Ffurflen Cymhwyster Gwerthiannau Pren a rhaid i ni ei chymeradwyo. Rhaid i chi ddiweddaru ac ailgyflwyno Ffurflen Cymhwyster Gwerthiannau Pren ar gyfer cymeradwyaeth pryd bynnag y bydd unrhyw wybodaeth neu amgylchiadau y cyfeirir atynt yn y ffurflen yn newid. Gallwch ofyn am gopi o'r ffurflen oddi wrth sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk; cyflwynwch y copi wedi'i gwblhau i'r un blwch post
- Mae'n rhaid i chi hefyd lenwi Holiadur Iechyd a Diogelwch a rhaid i ni ei gymeradwyo. Rhaid i chi ddiweddaru ac ailgyflwyno Holiadur Iechyd a Diogelwch ar gyfer cymeradwyaeth pryd bynnag y bydd unrhyw wybodaeth neu amgylchiadau y cyfeirir atynt yn yr holiadur yn newid. Gallwch ofyn am gopi o'r ffurflen oddi wrth sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk; cyflwynwch y copi wedi'i gwblhau i'r un blwch post
- Rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen Gwrthdaro Buddiannau a'i hanfon trwy e-bost at sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk cyn i'r Digwyddiad perthnasol gau i Gynigion. Rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob Digwyddiad. Mae'r ffurflen ar gael gyda'r dogfennau gwerthu ar y Wefan.
Gwerthu coed sy'n sefyll
Contract pryniad safonol ar gyfer coed sy'n sefyll yn ôl pwysau (tunnell). Mae contractau sy'n cael eu gwerthu trwy e-Werthiant Coed yn cynnwys:
- Crynodeb eitemau arwerthiant a manylion gwerthu coed sy'n sefyll, sy'n crynhoi manylion llennyrch, cyfnod y contract a data mesuriad
- Amodau safle-benodol
- Lleoliad, cyfyngiad, gweithrediad a mapiau ffyrdd
Elfen bren gadwedig
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru osod gofyniad am Elfen Bren Gadwedig (RTE) ar rai contractau gwerthu coed sy'n sefyll. Caiff hon ei mynegi fel maint sefydlog (mewn tunelli) o bren a fydd yn parhau i fod yn eiddo i ni. Gofynnir i'r cwsmer gynaeafu a chyflwyno'r pren wrth ymyl y ffordd yn ôl ein cyfarwyddyd.
Wrth gyfrifo'r pris tendro i'w gynnig trwy e-Werthiant Coed ar gyfer parsel y coed sy'n sefyll, rhaid i'r cwsmer ystyried y gost o gynaeafu o ran cyflwyno'r Elfen Bren Gadwedig hon, gan na roddir unrhyw iawndal ar wahân ar gyfer y gost i'r contractwr.
Os oes gofyniad am Elfen Bren Gadwedig yn y contract, bydd nifer o gymalau wedi'u cynnwys yn nhelerau ac amodau'r contract, a fydd hefyd yn manylu'r gofynion torri. Bydd Swyddog Gwerthu a Marchnata'r rhanbarth yn gallu ateb unrhyw ymholiadau ynghylch yr Elfen Bren Gadwedig.
Mae contractau pren caled tymor byr yn cael eu cynnig trwy e-Werthiant Coed.
Gwerthiannau wrth ymyl y ffordd
Mae contractau sy'n cael eu gwerthu trwy e-Werthiant Coed yn cynnwys:
- Contract Pryniad Safonol o bren crwn yn ôl pwysau, yn ôl amodau a thelerau’r fanyleb ymyl ffordd.
- Bydd y map lleoliad, rheolau diogelwch y safle ac asesiad risg yn parhau i ymddangos ar wahân.
- Cynigir gwerthiannau wrth ymyl y ffordd o bren crwn bach, a elwir yn sglodion pren, pren mwydion, pyst a pholion, trwy e-Werthiant Coed.
Amodau gwneud cynnig
Ni fydd CNC yn derbyn cynigion amodol ar lotiau eWerthiant.
Clefydon coed yn y DU a Chymru
Nodyn pwysig: Ar ôl canfod Phytophthora pluvialis yng Nghymru, gall y bydd cyfyngiadau cyfreithiol ar symud pren o rai ardaloedd yng Nghymru. Gweler gwefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth. Phytophthora pluvialis | GOV.WALES
Er mwyn cael gwybodaeth am blâu a chlefydau eraill, megis Phytophthora ramorum, Chalara (clefyd coed ynn) a dirywiad acíwt coed derw sy’n effeithio ar goedwigoedd, gweler ein hadran Iechyd coed a bioddiogelwch.