Asesiad risg Bioddiogelwch i reolwyr coetir

Asesiad cychwynnol

Cyn cychwyn ar unrhyw brosiect, weithgaredd neu ddigwyddiad, mae’n rhaid cwblhau asesiad dichonoldeb cychwynnol.

Defnyddiwch unrhyw ddata presennol i hysbysu eich asesiad risg bioddiogelwch cychwynnol, gan gynnwys gwirio cofnodion am unrhyw bla neu afiechyd iechyd coed hysbys ac INNS. Cysylltwch â ni ar treehealth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk er mwyn darganfod a oes unrhyw blâu neu afiechydon hysbys penodol yn y lleoliad fel bod modd cwblhau asesiad risg pla ac afiechyd penodol.

Rhaid ymgymryd ag neu gael arolwg ecolegol ac/neu asesiadau a chofnodion a rhoi gwybod am unrhyw rywogaethau neu symptomau iechyd coed amheus ac INNS.

Eich asesiad risg bioddiogelwch

Wrth gwblhau asesiad risg, ystyriwch:

  • Presenoldeb rhywogaethau sy’n bodoli’n barod
  • Y posibilrwydd i ledaenu’n ddamweiniol o ganlyniad i arolwg, mewnforio deunyddiau megis pridd a llystyfiant
  • Cynlluniau tirweddu a phlannu
  • Camau adferol
  • Methodolegau eraill
  • Trefn y gwaith neu ddigwyddiad

Templed asesiad risg

Gall unrhyw dempled asesiad risg a ddefnyddir gennych gynnwys:

  • Eich manylion
  • Lleoliad y perygl
  • Natur y perygl
  • Perygl
  • Tebygolrwydd
  • Risg cynhenid
  • Mesurau rheoli i’w gweithredu

Mesurau rheoli

Enghreifftiau o fesurau rheoli i gynnwys :

  • Mapio risg er mwyn pwysleisio pa flociau o goedwig sydd dan berygl mwyaf o gario heintiau
  • Trefnu’r digwyddiad/gweithgaredd mewn modd lle bydd yr ardaloedd gyda’r perygl lleiaf yn cael eu hymweld gyntaf (e.e. rheiny sydd a dim haint hysbys) 
  • Dadhalogi, brwsio dillad, golchi esgidiau, gadael rwbel yn y lleoliad
  • Parcio ar ffyrdd/llwybrau coedwig “glân” a chadw’n rhydd o unrhyw rwbel sydd wedi’i heintio
  • Cael gwared ar bridd a mwd o ffyrdd coedwig “budr” ar y lleoliad, neu cyn ymweld â’r goedwig nesaf (e.e. golchi car mewn garej neu leoliad tebyg oddi ar y safle)
  • Cadw at y llwybrau troed lle bo’n bosib. Osgoi/cau coedwigoedd sydd â heintiau mawr, yn enwedig pan fo gweithrediadau mewn lle
  • Sicrhau bod gorsafoedd glanhau bioddiogelwch addas mewn lle ar gyfer cerbydau, offer, esgidiau (yn enwedig mewn ardaloedd perygl uchel sydd wedi’u pwysleisio yn y mapio) a chemegau addas
  • Dewis ardaloedd parcio diogel dynodedig yn ystod digwyddiadau
  • Defnyddio deunyddiau plannu sydd wedi’u tyfu’n lleol 
  • Defnyddio ein hadnoddau bioddiogelwch
  • Sicrhau gosod arwyddion a gwybodaeth bioddiogelwch ar y safleoedd 

Newidiadau i brosiectau, gweithgareddau neu ddigwyddiadau

Prif bwrpas asesiad risg bioddiogelwch yw rhwystro neu leihau’r peryglon i iechyd coed, yn y tymor byr a’r tymor hir ill dau.

Dylid adolygu cynlluniau gweithgareddau, prosiectau, digwyddiadau a phlannu yn unol â lefel y risg sydd wedi’i adnabod.

Diweddarwyd ddiwethaf