Atodiad 3 – Ffeithlenni ar gyfer cyfyngiadau ar blannu

Coetir presennol

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 311,621ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae coetir yn yr achos hwn yn disgrifio unrhyw ardal o dir, mewn lleoliadau gwledig a threfol, sy'n fwy na 0.5 hectar, yn lletach nag 20m ar ei rhan gulaf, ac sydd â chanopi coediog ar draws o leiaf 20% o'i harwynebedd. Mae ardaloedd o goetir cwympedig wedi'u cynnwys yn hyn, oni bai bod newid parhaol wedi bod o ran defnydd tir, neu os nad yw'r ardal wedi'i hailgoedwigo ers mwy na deng mlynedd.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Gan fod y cynllun Glastir hwn yn cefnogi creu coetir newydd, nid yw ar gael ar gyfer ardaloedd lle mae coetir eisoes yn bresennol.

Canllawiau

  • Peidiwch â chynnwys unrhyw ardaloedd lle mae coetir eisoes yn bresennol yn eich cynllun

Nodiadau data

Defnyddiwyd Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol 2015 i nodi coetir sydd ohoni. Rhowch wybod i Lywodraeth Cymru trwy system Taliadau Gwledig Cymru ar-lein os ydych yn teimlo bod ardal wedi'i chofnodi'n anghywir fel coetir sydd ohoni.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Diweddarwyd ddiwethaf