Dalgylchoedd sy’n sensitif i asid
Mae cyflawni 'Statws Ecolegol Da' (GES) yn yr holl ardaloedd dyfrol erbyn 2027 yn amcan Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae asideiddio, sy’n Rheswm sylweddol am Fethiant, yn effeithio ar ardaloedd dyfrol mewn ardaloedd sy’n sensitif i asid yn y Deyrnas Unedig ac mae hyn yn effeithio yn arbennig ar Gymru. Er gwaethaf gostyngiad mewn llygredd amgylcheddol, mae asideiddio yn parhau i achosi newidiadau ecolegol anffafriol mewn dyfroedd croyw ac yn dal i niweidio pysgodfeydd.
Coedwigaeth ac asideiddio
Gwyddom fod coedwigaeth yn dylanwadu ar gyfraddau asideiddio, yn bennaf o ganlyniad i allu canopïau coedwigoedd i ddal mwy o sylffwr asid a llygryddion nitrogen o’r atmosffer na mathau byrrach o lystyfiant. O ganlyniad, mae angen rheoli coedwigaeth mewn ardaloedd bregus i sicrhau nad oes cynnydd mewn asideiddio ac nad oes oediad wrth i’r dyfroedd ddychwelyd i’r Statws Ecolegol Da.
Safonau ar gyfer rheoli coedwigoedd mewn dull cynaliadwy
Mae’r UK Forestry Standard (UKFS) yn gosod safon ar gyfer rheoli coedwigoedd mewn dull cynaliadwy. Mae ganddo saith canllaw cysylltiedig, ac yn ôl y Forests and Water Guidelines (F&WG) (Forestry Commission, 2011) (cyhoeddiad y Deyrnas Unedig yn Saesneg yn unig) mynnir bod asesiad o gyfraniad coedwigaeth i asideiddio a’r broses adfer yn cael ei wneud, mewn dalgylchoedd o ardaloedd dyfrol sy’n agored i asideiddio. Roedd y gofyniad hwn i’w gael ym mhedwerydd rhifyn F&WG (2003) ond ni ddarparwyd manylion ar sut i weithredu agweddau arbennig o’r asesiadau.
Mae Forestry Commission Scotland wedi cynhyrchu’r ddau fideo byr hyn ar ymarfer da mewn perthynas â rheoli dŵr yn ystod gweithgareddau cynaeafu a thrin y tir. Maent yn dangos rhai ffyrdd syml y gall gweithrediadau gydymffurfio â Chanllawiau Coedwigaeth a Dŵr Safon Coedwigaeth y DU (UKFS). Gwneir y fideos ar gyfer Rheolwyr Coedwigoedd a chontractwyr, ac maent yn darparu neges ddefnyddiol i’r holl rai sy’n gysylltiedig â gweithgareddau coedwigaeth.
Coedwigoedd mewn dalgylchoedd sensitif
Ym mis Mai 2014, cyhoeddwyd y canllaw ymarfer da, 'Rheoli coedwigoedd mewn dalgylchoedd sensitif i asid'. Mae hwn yn disgrifio’r camau posibl i sicrhau bod cyn lleied o effeithiau anffafriol ag sydd bosibl yn digwydd ac mae’n darparu methodoleg i benderfynu a allai cynigion plannu o’r newydd, cwympo neu ail stocio achosi peryglon pellach i’r dyfroedd croyw yr ystyrir eu bod yn fregus.
Asesiadau o’r effaith ar safleoedd
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth i’r rhai dan sylw ac yn disgrifio camau cydrannol llwythi critigol sy’n seiliedig ar y dalgylch ac asesiadau effaith ar safleoedd. Roedd Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a phrif randdeiliaid yn rhan o’r ymgynghori â’r Comisiwn Coedwigaeth drwy gydol y broses.
Eglurhad a symleiddiad
Mae Cymru wedi cymryd rôl flaenllaw wrth lunio 'Canllawiau gweithredu i reoli coedwigoedd mewn ardaloedd sy’n sensitif i asid,' gyda’r nod o egluro a symleiddio’r ffyrdd y mae’r canllawiau yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut y gall Cyfoeth Naturiol Cymru gynorthwyo eraill wrth iddynt reoli eu prosesau, er mwyn sicrhau gwell a chyflymach canlyniadau.
Cyflawni GES
Mae rhoi’r canllawiau ar waith yn gam pwysig tuag at sicrhau ‘Statws Ecolegol Da’ (GES) mewn rhai o’n hardaloedd dyfrol ucheldirol sy’n methu. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru nifer o rolau i’w chwarae er mwyn sicrhau bod cynnydd gwirioneddol yn digwydd. Rydym yn gweithio fel rheolyddion coedwigaeth, rheolyddion dŵr, corff cadwraeth ac fel cynghorydd a rheolwr tir.
Beth yw ardaloedd sy’n sensitif i asid?
Er mwyn rhoi’r canllawiau uchod ar waith, clustnodwyd dau gategori o sensitifedd i asid. Mae’r rhain wedi eu diffinio fel ‘yn methu oherwydd asideiddio’ ac ‘mewn perygl o fethu o ganlyniad i asideiddio’.
Mae ardaloedd dyfrol a glustnodir fel rhai sy’n ‘methu’ ar hyn o bryd wedi eu dangos yn goch ar y map isod. Cafodd eu statws ei wirio o ganlyniad i fynd ati i fonitro eu hasidrwydd. Clustnodwyd ardaloedd dyfrol ‘mewn perygl o fethu’, a ddangosir mewn melyn, drwy ganfyddiadau asesiad perygl asideiddio Cymru, fel rhai mewn perygl o fethu o ganlyniad i allyriannau yn 2027. Mae’r asesiad risg yn cyfuno data cemegol a biolegol ac yn asesiad o allu’r amgylchedd i niwtraleiddio’r llygryddion asid a ragwelir.
Ble mae’r ardaloedd sensitif i asid yng Nghymru?
Mae map ar gael sy’n dangos lleoliad yr ardaloedd dyfrol sy’n sensitif i asid yng Nghymru. Bydd angen i brosiectau coedwigaeth perthnasol gael eu hasesu yn erbyn y meini prawf a geir yn y Canllawiau Ymarfer Da.