Pwrpas

Mae Fforwm Rheoli Dŵr Cymru (WWMF) yn rhoi cyfle i'r sefydliadau sy'n aelodau o'r fforwm rannu tystiolaeth ac archwilio cyfleoedd i weithio gyda'i gilydd i reoli dŵr yn gynaliadwy yng Nghymru - o'r ffynnon i'r môr.

Mae'r Fforwm hefyd yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu, ategu a chyfleu negeseuon ac argymhellion a rennir ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Bydd yn gweithio gyda Fforwm Rheoli Tir Cymru, Fforwm Pysgodfeydd Cymru a Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol (WMAAG). Bydd y fforymau a/neu'r cadeiryddion yn cwrdd yn ôl yr angen.

Aelodaeth

Mae pob sefydliad sy'n perthyn i'r Fforwm yn cynrychioli aelodau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli dŵr. Caiff aelodaeth ei hadolygu a'i chytuno gan aelodau'r fforwm. Gall hyn gynnwys:

  • Busnes a Diwydiant
  • Pysgodfeydd
  • Rhai cyrff anllywodraethol amgylcheddol
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynrychioli Awdurdodau Lleol
  • Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdod Glo
  • Amaethyddiaeth
  • Coedwigaeth
  • Cwmnïau dŵr
  • Rheoli tir
  • Hamdden
  • Morol
  • Llywodraeth Cymru
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Mordwyo

Bydd aelodau ychwanegol yn cynnwys sefydliadau eraill yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol ac y cytunir arnynt gan y fforwm. Gall hyn gynnwys aelodau ar gyfer materion sy'n dod i'r amlwg sy'n effeithio ar ddŵr. Caiff unrhyw geisiadau i ymuno â'r WWMF (a gyflwynir gan sefydliadau rheoli dŵr eraill ac a dderbynnir trwy'r Cadeirydd) eu trafod yng nghyfarfod llawn nesaf y Fforwm.

Cyfarfodydd

Caiff pob cyfarfod o'r bwrdd ei gadeirio gan ein haelod bwrdd yr Athro Steve Ormerod, a bydd yn cynnwys yr arweinwyr polisi a gweithredol perthnasol. Fe'n cynrychiolir ni gan gyfarwyddwr gweithredol neu aelod o'r grŵp arwain.

Caiff cyfarfodydd eu cynnull yn ôl yr angen yn hytrach nag yn unol ag amserlen sefydlog. Bydd o leiaf ddau gyfarfod y flwyddyn. Gall aelodau gysylltu â'r ysgrifenyddiaeth gyda cheisiadau i drafod materion penodol, er y bydd amseriad pob cyfarfod yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.

Disgwylir i'r holl gyfranogwyr rannu canlyniadau trafodaethau'r Fforwm â'u rhiant-sefydliadau, byrddau perthnasol neu sectorau ehangach a myfyrio mewn cyfarfodydd dilynol.

Agendâu, papurau a chofnodion

12 Mai 2022

20 Hydref 2021

3 Mawrth 2021

29 Hydref 2020

10 Mawrth 2020 

30 Hydref 2019

  • Agenda

Ebrill 2019

Rhagfyr 2018

Manylion cyswllt

Cysylltwch â ni at WFDWales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf