Rydym yn ceisio eich sylwadau a’ch barn ar y cynigion ar gyfer ein ffioedd a’n taliadau ar gyfer 2018/19. Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos hwn yn cau ar 16 Ionawr 2018 a byddwn yn defnyddio'r canlyniadau'n wrth lunio ein cynllun terfynol, a gyflwynir o 1 Ebrill 2018.

Yn unol â gofynion y llywodraeth, mae'n rhaid i ni adennill costau ein gwasanaethau rheoleiddio oddi wrth y rhai sy’n cael eu rheoleiddio gennym, gan nad yw’r gwasanaethau hyn yn cael eu hariannu trwy drethu cyffredinol, ac mae hyn yn cynnwys tua 20% o gyfanswm cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru.Rydym yn agored ac yn dryloyw o ran y ffordd mae ein ffioedd a'n taliadau wedi'u strwythuro, yn ogystal â sut y mae'r taliadau'n cael eu casglu a'u defnyddio.

Mae ein Cynllun Ffioedd a Thaliadau’n cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ein bod yn adennill ein costau a bod gofynion technegol yn cael eu bodloni. O ganlyniad i'n hadolygiad diweddaraf, rydym yn bwriadu cynnal lefelau presennol ein taliadau sylfaenol. Mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i ni gymryd cyfrifoldeb dros ofynion y Gyfarwyddeb Safleoedd Hylosgi Canolig newydd, sy'n dod i rym yn ystod 2018/19, ac rydym yn cynnig amrywi aeth o daliadau er mwyn adennill ein costau os bydd hyn yn digwydd. Rydym yn cynnig haen uwch ar gyfer tynnu dŵr at ddibenion cynlluniau ynni dŵr a chynnydd i'n cyfradd fesul awr ar gyfer adennill costau wrth ymateb i ddigwyddiadau llygredd. 

 

Gwybodaeth Ddiweddaraf - Rhagfyr 2017

Yn ddiweddar mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhoi ymgynghoriad cyhoeddus ar waith ynglŷn â’u ffioedd a’u taliadau arfaethedig ar gyfer 2018/19, sy’n cynnwys cyfradd wrth yr awr ddiwygiedig ar gyfer gwaith rheoleiddio niwclear.

Pan fydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwneud gwaith rheoleiddio niwclear yng Nghymru ar ein rhan, bydd y gyfradd a godir am y gwaith hwn yn cyd-fynd â’r gyfradd wrth yr awr a nodir yn y ddogfen derfynol Ffioedd a Thaliadau Asiantaeth yr Amgylchedd (wedi’r ymgynghoriad).

Bydd y gyfradd berthnasol yn nogfen derfynol Ffioedd a Thaliadau CNC (sydd hefyd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus) yn cael ei defnyddio mewn perthynas ag unrhyw waith rheoleiddio a wneir yn uniongyrchol gan weithwyr CNC.

Sut i ymateb 

Cyflwynwch eich sylwadau i ni erbyn 16 Ionawr 2018. 

Gallwch ymateb yn y ffyrdd canlynol: 

E-bost – 

feesandchargesconsultation@naturalresourceswales.gov.uk 

Post –

Ymateb i’r Ymgynghoriad Codi Tâl
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig