Ymgynghoriad ynghylch Amcanion Cydraddoldeb ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2015-19
Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar y 6ed o Ionawr 2015, a defnyddir y canlyniadau i oleuo ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol terfynol. Daw hwnnw i rym o Ebrill 2015 ymlaen.
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r sefydliad cyntaf o’i fath sydd wedi’i greu i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol a’n hamgylchedd yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, eu gwella’n gynaliadwy a’u defnyddio mewn ffordd sy’n dda i bobl, yn dda i’r amgylchedd ac yn dda i’r economi.
A ninnau’n Gorff Tan Nawdd Llywodraeth Cymru, rhaid inni, yn ôl y gyfraith, ddatblygu a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS). Er mwyn ategu’r cynllun, rydym yn arfaethu cyfres o amcanion cydraddoldeb (rhai o’r pethau y bwriadwn eu cyflawni) a fydd yn dangos sut y bwriadwn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb, ac yr amcanwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Rydym eisoes wedi ystyried pethau a ddywedwyd wrthym gan bobl yn ystod cyfres o achlysuron ymgysylltu mewn partneriaeth â Diverse Cymru. Mae’r wybodaeth hon yn bwysig inni yn nhermau cydraddoldeb a thegwch, ac wedi ein helpu i ddatblygu ein pum amcan cydraddoldeb arfaethedig. Hoffem wybod beth yw eich barn chi ynghylch yr amcanion hyn, cyn inni eu rhoi nhw yn ein cynllun.
Sut i ymateb
Dylech anfon eich sylwadau erbyn 5m ar 6 Ionawr 2015. Gallwch ymateb yn y ffyrdd canlynol:
Ebost:
equalities@naturalresourceswales.gov.uk
Post:
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Ty Cambria
29 Heol Casnewydd,
Caerdydd, CF24 0T
Rhif ffôn:
0300 065 3000