Cynaeafu cocos yn Aber Afon Dyfrdwy
Cynaeafwyr masnachol
Rhaid i gynaeafwyr masnachol gael trwydded i gasglu cocos.
Adnewyddu eich trwydded cocos Aber Afon Dyfrdwy
Bydd angen i gynaeafwyr masnachol adnewyddu eu trwydded bob blwyddyn.
Byddwn yn cysylltu â phob deiliad trwydded yn unigol i'ch gwahodd i'w hadnewyddu.
Aelodau o'r cyhoedd
Dim ond pan fydd y gwelyau cocos ar agor y gall aelodau'r cyhoedd gymryd hyd at 5kg o gocos y dydd at ddefnydd personol.
Mae gwelyau cocos ar agor:
- Rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr
- Rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn yn unig
- Yn ystod golau dydd yn unig
Cysylltwch â ni
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, neu i drafod ardystiad, cysylltwch â ni.
Anfonwch e-bost at enquiries@naturalresourceswales.gov.uk.
Ysgrifennwch atom yn Canolfan Cwsmeriaid, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 OTP.
Ffoniwch 0300 065 3000.
Diweddarwyd ddiwethaf