LANDMAP – llinell sylfaen tirwedd Cymru
Dyma offeryn sy’n helpu gyda phenderfyniadau cynaliadwy a chynllunio adnoddau naturiol ar sawl lefel, o’r lleol i’r cenedlaethol, gan sicrhau yr un pryd fod y broses benderfynu’n gwbl eglur.
Beth a gynhwysir yn LANDMAP?
Pump o setiau data gofodol y sicrhawyd eu hansawdd, sy’n genedlaethol gyson:
- Tirweddau Daearegol
- Cynefinoedd Tirwedd
- Gweledol a Synhwyraidd
- Tirweddau Hanesyddol
- Tirweddau Diwylliannol
LANDMAP:
- Mapio a dosbarthu tirweddau o safbwynt unigryw pob set ddata
- Disgrifio eu nodweddion, eu priodweddau a’u helfennau hollbwysig
- Gwerthuso’u pwysigrwydd ar raddfa genedlaethol a lleol
- Argymell canllawiau rheoli addas yn lleol
- Nodi newidiadau sylweddol mewn tirweddau trwy fonitro’r adnodd sylfaenol
Sut i gael gafael ar LANDMAP
Defnyddiwch y mapiau rhyngweithiol i weld mapiau ac arolygon. Yn Nodyn Canllaw 2 ceir cyfarwyddiadau gam wrth gam:
Gallwch hefyd lawrlwytho mapiau ac arolygon LANDMAP i’w defnyddio mewn amgylchedd GIS oddi ar:
Canllawiau ar ddefnyddio LANDMAP
Defnyddir LANDMAP i gyfarwyddo cynllunio, polisïau, strategaethau, tystiolaeth a chyngor, fel:
- rheoli datblygu, blaen-gynllunio a chynlluniau datblygu lleol
- canllawiau cynllunio ategol, canllawiau dylunio ac astudiaethau sensitifrwydd
- tystiolaeth yn ymwneud â thirweddau mewn ymchwiliadau cyhoeddus
- Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol ac Asesiadau o’r Effaith Weledol
- Dynodi Ardaloedd Tirwedd Arbennig
- Cynllunio Adnoddau Naturiol a Gwasanaethau Diwylliannol
- adroddiadau ‘Cyflwr’, priodweddau arbennig a chynlluniau rheoli statudol Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
- monitro tirweddau
- Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Lleol ac Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol
- Ardaloedd Cymeriad Morwedd Lleol ac Ardaloedd Cymeriad Morol Cenedlaethol
Sut i gynnal Asesiad Sensitifrwydd Tirwedd
Darllenwch y canllawiau ar gynnal Asesiad Sensitifrwydd Tirwedd
Cyswllt
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Diweddarwyd ddiwethaf