Yr hyn y mae cynnal ymarfer cwmpasu ar gyfer asesu'r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol yn ei olygu
Ymgynghoriad drafft yw hwn.
Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Gwener, 11 Medi 2020 i ddydd Gwener, 25 Medi 2020.
Cynnal ymarfer cwmpasu yw'r cam lle amlinellir yr hyn sydd angen rhoi sylw iddo ar gyfer asesu’r effaith amgylcheddol, er mwyn helpu i ddiffinio sut i feddwl am yr asesiad, a pha wybodaeth y gallai fod ei hangen er mwyn nodi effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad.
Gallwch wneud cais am farn gwmpasu gan benderfynwr y broses o asesu'r effaith amgylcheddol. Mae barn gwmpasu'n amlinellu'r hyn y mae'r penderfynwr yn disgwyl y bydd yn cael ei gynnwys yn yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, a'r hyn i'w eithrio ohono. Bydd penderfynwyr yn ymgynghori â chyrff ymgynghori, gan gynnwys Panel Cynghori Cyfoeth Naturiol Cymru, cyn cyhoeddi eu barn gwmpasu.
I wneud cais am farn gwmpasu, bydd angen i chi gyflwyno adroddiad cwmpasu i'r penderfynwr.
Mae adroddiad cwmpasu yn amlinellu'r canlynol:
- Natur a diben y datblygiad
- Y materion ac effeithiau amgylcheddol sydd i'w hystyried wrth asesu'r effaith amgylcheddol
- Sut caiff yr effeithiau eu hasesu a'u dogfennu yn y datganiad amgylcheddol
- Pa wybodaeth a gaiff ei defnyddio, ac y bydd ei hangen, ar gyfer yr asesiad
- Unrhyw fylchau ac ansicrwydd hanfodol bwysig yn y wybodaeth, a sut y cânt eu hystyried
- Dulliau asesu ac arolygu
- Meini prawf a gaiff eu defnyddio i benderfynu pa mor sylweddol yw effeithiau
- Unrhyw effaith amgylcheddol na chaiff ei hystyried ymhellach o bosibl, a'r rhesymau dros hynny
Nid yw cael barn gwmpasu'n orfodol, ond fe'i hargymhellir yn gryf. Gall cynnal ymarfer cwmpasu da helpu o ran cyrraedd cytundeb yn gynnar o safbwynt materion allweddol a diystyru rhai materion, a gall byrhau terfynau amser caniatáu.
Adrannau eraill yn y canllaw hwn
Asesu’r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol
Yr hyn y dylech ei gynnwys yn adroddiad cwmpasu eich datblygiad morol
Deddfwriaeth, polisi a gwybodaeth ar gyfer asesu effaith amgylcheddol datblygiad morol