Ymgynghoriad drafft yw hwn.

Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Gwener, 11 Medi 2020 i ddydd Gwener, 25 Medi 2020.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn chi.

Gofynion cyfreithiol

Rhaid i adroddiad cwmpasu gynnwys y gofynion cyfreithiol canlynol:

  • Disgrifiad o natur a diben y prosiect a’r effeithiau posibl ar yr amgylchedd 
  • Cynlluniau, siartiau neu fapiau digonol er mwyn nodi lleoliad y gweithgareddau sydd i'w cwblhau

Trefn yr adroddiad

Yn gyffredinol, dylai trefn adroddiad cwmpasu fod yr un peth â threfn y datganiad amgylcheddol terfynol a fwriedir. Mae angen i asesiad o’r effaith amgylcheddol gynnwys y canlynol:

  • Disgrifiad o'r prosiect, ei leoliad a'i ddiben, gan gynnwys gwaith adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, a datgomisiynu. Dylid cynnwys gwaith ategol, fel coridorau ceblau ac adeileddau dros dro
  • Disgrifiad o opsiynau amgen eraill
  • Cyflwr presennol yr amgylchedd (y sefyllfa sylfaenol)
  • Disgrifiad o'r effeithiau sylweddol tebygol ar y testunau derbynnydd canlynol:
    • Poblogaeth ac iechyd dynol
    • Bioamrywiaeth, gan gynnwys rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir
    • Tir, pridd, dŵr, aer a'r hinsawdd.
    • Asedau materol, treftadaeth ddiwylliannol a'r dirwedd
    • Effeithiau cyfunol
  • Disgrifiad o effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol, eilaidd, cronnus, trawsffiniol, tymor byr a chanolig a hirdymor, parhaol a dros dro, cadarnhaol a negyddol
  • Disgrifiad o dystiolaeth a dulliau a ddefnyddir, gan gynnwys unrhyw fylchau neu ansicrwydd
  • Disgrifiad o fesurau ar gyfer osgoi, lleihau a lliniaru effeithiau anffafriol
  • Mesurau monitro
  • Y perygl o ddamweiniau mawr neu drychinebau, fel digwyddiadau tywydd eithafol

Effeithiau posibl ar destunau derbynnydd

Wrth ddisgrifio'r effeithiau posibl ar destunau derbynnydd, gan gynnwys y rheiny sy'n cael eu diystyru yn yr asesiad, dylech gynnwys y canlynol:

  • Llwybrau effaith gan y gweithgareddau datblygu a'r testun derbynnydd
  • Amlinelliad o unrhyw amcanion diogelu'r amgylchedd ar gyfer y testun derbynnydd hwnnw, e.e. rhywogaethau a warchodir o dan y Rheoliadau Cynefinoedd
  • Sut bydd yr asesiad ar gyfer y testun derbynnydd yn cael ei wneud, gan gynnwys parthau gofodol, amserol a chlustogi, e.e. gwaith dylunio arolygon adar dros ardal ac ar draws tymhorau
  • Sut bydd amlenni dyluniad prosiect a senario sefyllfa waethaf posibl realistig yn cael eu defnyddio wrth asesu'r testun derbynnydd hwnnw.
  • Mesurau er mwyn osgoi, lleihau a lliniaru'r effeithiau ar y testun derbynnydd, gan gynnwys y canlynol:
    • mesurau lliniaru sydd wedi'u cynnwys yn nyluniad y datblygiad
    • yr angen am randdirymiadau fel iawndal ar gyfer difrod nad oes modd ei osgoi
    • unrhyw fesurau rheoli addasol arfaethedig

Wrth ddiystyru testunau derbynnydd rhag eu hasesu'n fanylach, dylai'r adroddiad cwmpasu gynnwys esboniad llawn o’r rhesymau sy’n cyfiawnhau hynny.

Yn ystod yr ymarfer cwmpasu, rydym yn cydnabod na fydd rhywfaint o'r wybodaeth ddatblygu fanwl, fel dulliau gosod, yn hysbys. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch er mwyn ein helpu i roi'r ystyriaeth lawn angenrheidiol i'r asesiad.

Testunau derbynnydd yr ydym yn cynghori arnynt

Mae'r testunau derbynnydd y gallwn ddarparu cyngor arnynt yn ystod yr ymarfer cwmpasu yn cynnwys y canlynol:

  • Prosesau ffisegol morol ac arfordirol
  • Bioamrywiaeth
  • Morwedd a thirwedd
  • Ansawdd dŵr
  • Llifogydd
  • Ansawdd tir
  • Ansawdd aer
  • Newid yn yr hinsawdd
  • Effeithiau cronnus a chyfunol

Gallwn ddarparu safbwynt cychwynnol o ran y wybodaeth sy'n ofynnol ac unrhyw ffynonellau gwybodaeth perthnasol.

Mae angen i chi ystyried pwysau ac effeithiau eich datblygiad ar bob un o'r testunau hyn.

Bydd yr effeithiau ar y meysydd testun gan ddatblygiadau gwahanol yn amrywio. Ni fydd pob un o'r testunau'n berthnasol i bob math o ddatblygiad.

Gallai gweithgaredd gael effaith ar fwy nag un derbynnydd. Gallai effaith ar un derbynnydd gael effaith ganlyniadol ar dderbynnydd arall. Byddai angen archwilio'r rhyngberthnasau hyn yn yr asesiad o’r effaith amgylcheddol a gallant fod â goblygiadau i gwmpas yr asesiadau penodol gofynnol o dan Reoliadau Amgylchedd Dŵr 2017 a Rheoliadau Cynefinoedd 2017.

Prosesau ffisegol morol ac arfordirol

Gall datblygiadau morol achosi newidiadau i brosesau ffisegol morol ac arfordirol a gallant achosi effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar dderbynyddion eraill.

Gall newidiadau i hydrodynameg, daeareg, gwaddodion, morffoleg neu'r golofn ddŵr i gyd gael effaith ar dderbynyddion eraill fel bioamrywiaeth, ansawdd dŵr a pherygl llifogydd. Bydd graddfa'r newid yn dibynnu ar y math o ddatblygiad a'i leoliad.

Gall deall y broses ffisegol yn gynnar helpu i nodi'r ardal asesu, a elwir yn barth dylanwad.

Dylech ystyried prosesau ffisegol ac effeithiau newid yn yr hinsawdd gyda'i gilydd er mwyn helpu i asesu a chynllunio ar gyfer senarios yn y dyfodol. Gall hyn helpu datblygiadau i fod yn fwy gwydn yn wyneb newid yn yr hinsawdd ac i leihau a lliniaru effeithiau gweddilliol.

Mae ein Canllawiau Prosesau Ffisegol Morol (sydd ar gael ar gais drwy anfon e-bost at guidance.development@naturalresourceswales.gov.uk) yn amlinellu'r anghenion arolygu, monitro a modelu rhifol angenrheidiol ar gyfer datblygiadau morol sy’n destun asesiad o'r effaith amgylcheddol.

Dylech nodi a allai eich datblygiad gael effaith ar brosesau morol a ffisegol. Os felly, bydd angen rhoi sylw i hyn wrth asesu'r effaith amgylcheddol.

Fel arfer, mae angen astudiaethau o'r effaith ar yr arfordir ar gyfer gweithgareddau cloddio am agregau morol. Gall y gweithgaredd hwn achosi newidiadau i brosesau ffisegol fel ffrydiau gwaddodion ac erydu arfordirol. Mae gwybodaeth am gynnal astudiaeth o'r effaith ar yr arfordir ar gael gan Gymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain.

Mae cynlluniau rheoli traethlin (SMP) yn amlinellu gwybodaeth am amgylcheddau arfordirol, gan gynnwys y sefyllfa sylfaenol, a senarios esblygu ar gyfer y dyfodol, ger yr arfordir. Mae rhannau o'r arfordir yn cael eu rhannu'n unedau rheoli, a phennir polisi rheoli i bob un. Gallwch ddefnyddio'r cynlluniau rheoli traethlin i ddarganfod y polisi rheoli ar gyfer ardal y datblygiad, a gwybodaeth i helpu â'r asesiad.

Gallwch ddefnyddio Nodyn Cyngor Technegol 14 Llywodraeth Cymru ar Gynllunio'r Arfordir ar gyfer cynnal ymarfer cwmpasu ar gyfer prosesau ffisegol.

Gall Canolfan Monitro Arfordirol Cymru ddarparu adroddiadau monitro arfordirol a setiau data hirdymor.

Bioamrywiaeth

Gall datblygiadau morol gael effaith ar fioamrywiaeth. Rhoddir gwarchodaeth gyfreithiol yn aml i fioamrywiaeth bwysig. Bydd deall dynodiadau ac amcanion rheoli rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir y gallai'r datblygiad gael effaith arnynt helpu i lywio’r gwaith o asesu'r effaith amgylcheddol.

Mae'r adran hon yn amlinellu’r mesurau diogelu bioamrywiaeth yng Nghymru y dylid eu hystyried wrth gwmpasu asesiad o’r effaith amgylcheddol.

Dylech ystyried pa safle(oedd) dynodedig a'i gynefin/cynefinoedd neu nodweddion rhywogaeth, ac unrhyw rywogaethau eraill a warchodir y gallai’r datblygiad effeithio arnynt a’r angen am asesiad pellach. Gall y rhain fod o fewn ôl-troed y datblygiad neu’n agos ato, neu ymhellach i ffwrdd, er enghraifft, safleoedd dynodedig sy'n cynnwys nodweddion adar sydd ag ardaloedd fforio adar mawr.

Gallai gweithgaredd gael effaith ar fwy nag un derbynnydd. Gallai effaith ar un derbynnydd gael effaith ganlyniadol ar dderbynnydd arall. Byddai angen archwilio'r rhyngberthnasau hyn yn yr asesiad o’r effaith amgylcheddol a gallant fod â goblygiadau i gwmpas yr asesiadau penodol gofynnol o dan Reoliadau Amgylchedd Dŵr 2017 a Rheoliadau Cynefinoedd 2017.

Gall hyn olygu'r canlynol:

  • Nodi'r safleoedd, cynefinoedd a rhywogaethau a ddiogelir
  • Deall eu pwysigrwydd ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol
  • Deall llwybrau effaith posibl rhwng y gweithgareddau datblygu a'r rhywogaeth neu gynefin
  • Deall y mesurau ac amcanion rheoli sy'n cael eu cymhwyso i'r safleoedd a rhywogaethau hyn
  • Nodi bylchau yn y wybodaeth am ble a phryd y mae'r rhywogaethau hyn yn bodoli, p'un a fydd cynnal arolygon pellach yn ofynnol er mwyn llywio asesiadau, ac ansicrwydd ynghylch y dulliau y dylid eu defnyddio ar gyfer cynnal asesiad

Defnyddiwch ein canllawiau morol ac arfordirol i wneud y canlynol:

  • Deall deddfwriaeth cadwraeth fertebratau morol yng Nghymru
  • Dod o hyd i'n data ecoleg forol a'u defnydd mewn datblygiadau
  • Nodi gofynion arolygu ar gyfer cynefinoedd gwely'r môr ac adar

Dod o hyd i safleoedd yng Nghymru drwy chwilio am safleoedd dynodedig

Darganfod mwy am y mathau o safleoedd gwarchodedig yng Nghymru

Dod o hyd i ganllawiau ar gyfer cynnal Asesiad o'r Effaith Ecolegol (EcIA) gan y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM)

Safleoedd cenedlaethol a rhyngwladol

Nid yw Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yn y DU bellach yn ffurfio rhan o rwydwaith ecolegol Natura 2000 yr UE. Yn hytrach, maent yn ffurfio rhan o rwydwaith safleoedd cenedlaethol. Mae'n cynnwys:

  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) – a ddynodwyd oherwydd adar prin neu fudol a'u cynefinoedd
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) – ar gyfer amrediad eang o gynefinoedd a rhywogaethau heblaw adar

Mae safleoedd Ramsar yn wlyptiroedd sydd o bwys rhyngwladol. Yng Nghymru, at ddibenion asesu, ymdrinnir â safleoedd Ramsar yn yr un ffordd ag Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.

Mae disgrifiad o bob safle yn cyd-fynd â gwybodaeth sy'n esbonio'r rhesymau dros ei ddynodi, a'i nodweddion, ac amcanion cadwraeth y safle. Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth hon drwy ein pecynnau cyngor cadwraeth ar gyfer safleoedd morol a'r Mapiwr Ardaloedd Gwarchodedig Morol gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.

Yn yr adroddiad cwmpasu dylech amlinellu’r safleoedd gwarchodedig cenedlaethol a rhyngwladol, eu nodweddion a'r llwybrau effaith o'r datblygiad a fydd yn cael eu cynnwys i'w hasesu yn yr asesiad o’r effaith amgylcheddol.

Yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) yw'r broses ar gyfer asesu'r niwed posibl y gallai prosiect ei achosi i safle a ddynodwyd gan Ewrop neu safle Ramsar. Mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 yn amlinellu'r angen am gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ofyniad ychwanegol i asesiad o'r effaith amgylcheddol, ond dylid eu cydlynu lle bo hynny'n bosibl.

Mwy o wybodaeth am asesiadau amgylcheddol a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Gwybodaeth am drwyddedu morol a phroses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Gallwch ddarganfod beth yw cyflwr presennol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig morol yng Nghymru drwy ddefnyddio'r asesiadau cyflwr dangosol nodweddion.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Mae SoDdGAau yn safleoedd sydd o bwys cenedlaethol. Mae gan bob SoDdGA wybodaeth am y safle sy'n cynnwys y canlynol:

  • Dyfyniad – sy'n rhoi manylion o safbwynt y rhesymau y cafodd y safle ei ddynodi
  • Rhestr o weithrediadau niweidiol posibl – gweithrediadau a allai achosi difrod i'r safle o bosib, y bydd angen cydsyniad neu ganiatâd ar eu cyfer gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ganlyniad
  • Map – sy'n dangos hyd a lled y safle dynodedig
  • Datganiad rheoli'r safle – sy'n amlinellu'r gwaith rheoli angenrheidiol ar gyfer cynnal nodweddion dynodedig y safle
  • Gwybodaeth am statws cyflwr ffafriol y safle

Dylech nodi pa SoDdGau a'u nodweddion y mae'r datblygiad yn debygol o gael effaith arnynt ac y bydd angen sylw pellach wrth asesu'r effaith amgylcheddol.

Os yw gwaith yn digwydd o fewn SoDdGA, sy'n golygu cyflawni gweithgaredd sydd wedi'i gynnwys ar y rhestr o weithrediadau niweidiol, efallai y bydd angen i chi gael caniatâd neu gydsyniad oddi wrthym.

Manylion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau) yng Nghymru.

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop

Dynodir rhywogaethau sy'n fwy agored i ddirywiad yn Ewrop fel Rhywogaethau a warchodir gan Ewrop. Mae rhywogaethau morol a warchodir gan Ewrop yn cynnwys pob math o forfil a chrwban y môr a rhai mathau o bysgod fel y styrsiwn.

Mae'n drosedd amharu ar rywogaeth a warchodir gan Ewrop, ei hanafu neu ei lladd. Mae angen trwydded rhywogaethau a warchodir gan Ewrop ar gyfer unrhyw weithgaredd a allai wneud hynny yn nyfroedd Cymru. Dylech osgoi cael effaith ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop drwy waith dylunio prosiectau gofalus, fel dulliau ar gyfer gosodiadau. Lle nad yw hyn yn bosibl, dylech ystyried yr angen am drwydded fel dewis olaf yn unig er mwyn osgoi cyflawni trosedd.

Dylech nodi a yw eich datblygiad yn debygol o amharu ar rywogaeth a warchodir gan Ewrop, ei hanafu neu ei lladd. Os felly, bydd angen rhoi sylw i hyn wrth asesu'r effaith amgylcheddol, a gallai fod yn ofynnol cael trwydded rhywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Mwy o wybodaeth a meini prawf cymhwysedd ar gyfer trwydded gan ein tîm trwyddedu rhywogaethau.

Darllenwch ganllawiau'r ddeddfwriaeth cadwraeth fertebratau morol.

Parthau Cadwraeth Morol

Mae Parthau Cadwraeth Morol yn gwarchod rhywogaethau, cynefinoedd neu nodweddion daearegol o ddiddordeb morol. Dynodir Parthau Cadwraeth Morol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (2009). Yn 2014, daeth rhan 5 Deddf y Môr i rym ac o ganlyniad, cafodd Gwarchodfa Natur Forol Sgomer ei ddynodi yn Barth Cadwraeth Morol. Mae Parth Cadwraeth Morol Sgomer yn gyfan gwbl o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro.

Yn 2017, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i nodi nifer fach o Barthau Cadwraeth Morol newydd i gwblhau cyfraniad Cymru i'r rhwydwaith ehangach o Ardaloedd Morol Gwarchodedig y DU.

Wrth i'r gwaith hwn ddatblygu, bydd Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn datblygu proses i ymgorffori gofynion adrannau 125 – 128 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus). Mae'r dyletswyddau hyn yn cynnwys asesiad o effeithiau datblygu ar Barthau Cadwraeth Morol.

Mae gan gyrff cyhoeddus (gan gynnwys y rheoleiddiwr) ddyletswydd i ymarfer eu swyddogaethau mewn ffordd sy'n hyrwyddo amcanion cadwraeth y Parth Cadwraeth Morol orau; neu lle nad yw hyn yn bosibl i leihau unrhyw beth a fyddai'n atal cyflawni’r amcanion ar gyfer y safle.

Dylai datblygwyr felly fynd i'r afael ag effaith bosibl eu prosiect ar unrhyw Barth Cadwraeth Morol y gellid ei effeithio arni yn yr asesiad effaith amgylcheddol a chynnwys yn y datganiad amgylcheddol y wybodaeth angenrheidiol er mwyn galluogi’r sawl sy'n gwneud y penderfyniadau i asesu'r goblygiadau ar gyfer amcanion cadwraeth y safle(oedd).

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dewis ac yn dynodi Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, neu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Cânt eu rheoli at ddibenion ymchwilio, astudio a/neu ddiogelu fflora a ffawna neu nodweddion daearegol a ffisiograffigol.

Mae pob Gwarchodfa Natur Genedlaethol yng Nghymru wedi'i gwarchod yn ôl y gyfraith fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae'r rhan fwyaf wedi'u datgan hefyd o dan y Rheoliadau Cynefinoedd fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig neu Ramsar (gwlypdiroedd). Mae'r dynodiadau hyn yn darparu gwarchodaeth gyfreithiol bellach.

Rhagor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Dylech nodi os yw'r datblygiad yn debygol o gael effaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol. Os felly, bydd angen cynnal asesiad pellach fel rhan o’r asesiad o’r effaith amgylcheddol.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 – Adran 7

O dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 , mae Llywodraeth Cymru wedi diffinio'r rhywogaethau a chynefinoedd sy'n bwysig iawn ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth.

Dylech nodi a yw eich datblygiad yn debygol o gael effaith ar rywogaethau a chynefinoedd Adran 7. Os felly, bydd angen rhoi sylw i hyn wrth asesu'r effaith amgylcheddol.

Mae Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol “geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth” a “hyrwyddo gwydnwch ecosystemau” o fewn eu swyddogaethau. Dylech archwilio cyfleoedd ar gyfer gwella a chreu cynefinoedd, yn ogystal â chynyddu gwydnwch (cysylltedd, amrywiaeth a chyflwr).

Gwybodaeth am gynefinoedd morol Adran 7 a rhywogaethau morol.

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) – Rhestr Atodlen 5

Mae rhywogaethau sydd wedi'u cynnwys ar restr Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, wedi'u gwarchod rhag “amharu di-hid neu fwriadol”. Mae hyn yn cynnwys pob morfil a chrwban y môr a rhai rhywogaethau o bysgod.

Dylech nodi a fydd y datblygiad yn debygol o gael effaith ar rywogaeth Atodlen 5. Os felly, bydd angen rhoi sylw i hyn yn wrth asesu'r effaith amgylcheddol.

Morwedd a thirwedd

Amlinellir pwysigrwydd morwedd a thirwedd ym Mholisi Cynllunio Cymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Mae angen i benderfynwyr roi ystyriaeth i'r dogfennau hyn.

Mae cylch gwaith ein swyddogaeth gynghorol yn canolbwyntio ar dirweddau dynodedig. Dyma'r Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bydd ein cyngor yn canolbwyntio ar effeithiau ar yr ardaloedd hyn.

Efallai y bydd buddion tirwedd eraill yn berthnasol i'ch asesiadau, megis tirweddau lleol a hanesyddol. Gall awdurdodau cynllunio lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gynghori ar nodweddion tirwedd sydd o bwys yn lleol. Gall Cadw ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru gynghori ar dirweddau hanesyddol.

Bydd yr angen am gwblhau Asesiad Morwedd a Thirwedd ac Effaith Weledol (SLVIA) yn dibynnu ar leoliad a dyluniad y datblygiad.

Efallai mai effaith gyfyngedig iawn a gaiff rhai datblygiadau morol ar y morwedd, fel dyfais ynni llanwol sydd o dan y dŵr yn llwyr, na fydd angen sylw pellach wrth asesu'r effaith amgylcheddol o bosib.

Dylech nodi a allai'r datblygiad gael effaith sylweddol ar y morwedd a'r dirwedd. Os felly, bydd angen rhoi sylw i hyn wrth asesu'r effaith amgylcheddol.

Argymhellwn yn gryf eich bod yn ceisio cyngor o safbwynt a yw morwedd a thirwedd yn debygol o fod yn broblem cyn penderfynu ar y lleoliad a dyluniad terfynol.

Mwy o wybodaeth am forweddau a thirwedd.

Rydym wedi darparu gwybodaeth a chanllawiau ar asesu cymeriad morwedd a thirwedd. Mae hyn yn cynnwys Ardaloedd Cymeriad Morol Cenedlaethol a LANDMAP.

Adroddiadau tystiolaeth ar forwedd a'i sensitifrwydd gweledol i ffermydd gwynt ar y môr (Adroddiadau 315, 330 a 331).

Mynediad i'r Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru.

Ansawdd dŵr

Gall datblygiadau morol gael effaith ar elfennau o ansawdd dŵr. Mae'r rhain yn gallu cynnwys:

  • Claerder dŵr
  • Tymheredd
  • Lefelau ocsigen
  • Maethynnau
  • Patrymau microbig
  • Halwynedd/dargludedd
  • pH
  • Cemegion

Mae ansawdd dŵr wedi'i warchod dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a'r Gyfarwyddeb Safonau Ansawdd Amgylcheddol yn bennaf.

Gall effeithiau godi o ganlyniad i waith o fewn yr amgylchedd morol neu waith daearol. Dylid hefyd ystyried yr halogyddion a ellir eu rhyddhau o waddodion, yn unol â chanllawiau OSPAR ar reoli deunydd sydd wedi'i garthu.

Dylech nodi a allai eich datblygiad gael effaith ar ansawdd dŵr. Os felly, bydd angen rhoi sylw i hyn wrth asesu'r effaith amgylcheddol.

Gall gwaith modelu hydrolegol helpu wrth asesu effaith ar ansawdd dŵr. Argymhellwn yn gryf eich bod yn cysylltu â ni cyn cynnal gwaith modelu fel y gallwn eich cynghori ar y math mwyaf addas ar gyfer y datblygiad.

Yn eich asesiad, bydd angen i chi ystyried effeithiau sy'n berthnasol i’r newid yn yr hinsawdd, fel effaith cynnydd yn nhymheredd wyneb y môr ar ffrydiau thermol, effaith codiad yn lefel y môr ar bwyntiau gollwng, y posibilrwydd o asidedd cefnforol, a newidiadau mewn lefelau ocsigen. Gall hyn helpu datblygiadau i fod yn fwy gwydn yn wyneb newid yn yr hinsawdd, a lleihau a lliniaru effeithiau.

Efallai y bydd angen hefyd ystyried newidiadau i ansawdd dŵr, prosesau ffisegol a bioamrywiaeth mewn asesiadau cydymffurfiaeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA).

Asesiad cydymffurfiaeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yw'r broses ar gyfer cyfrifo effaith bosibl datblygiad newydd ar gorff dŵr y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr neu amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae asesiad cydymffurfiaeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn ofyniad sy'n ychwanegol i'r broses o asesu'r effaith amgylcheddol, ond dylid eu cydlynu lle bo hynny'n bosibl.

Bydd angen i asesiad cydymffurfiaeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ddisgrifio'r canlynol:

effaith y prosiect datblygu ar statws y cyrff dŵr. Cewch wybodaeth ar Arsylwi Dyfroedd Cymru

o ran p'un a yw'r prosiect datblygu'n cydymffurfio â'r Cynllun Rheoli Basn Afon (RBMP) perthnasol a'i amcanion

Mae ein harweiniad ar gyfer asesu gweithgareddau a phrosiectau o safbwynt cydymffurfiaeth â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gael ar gais.

Gwybodaeth am drwyddedu morol a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Canllawiau ar gynnal asesiad cydymffurfiaeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar wefan gov.uk.

Ar gyfer datblygiadau sy'n cynnwys pwynt gollwng, dylech ddilyn y canllawiau ar gynnal asesiad risg ar gyfer llygredd dŵr wyneb.

Canllawiau ar fodelu rhifol i gefnogi asesiad ansawdd dŵr.

Llifogydd

Gall gwaith datblygu mewn lleoliadau arbennig gynyddu'r perygl llifogydd. Gall hyn gael canlyniadau difrifol ar bobl a'r amgylchedd. Os yw'r datblygiad mewn ardal sydd mewn perygl rhag llifogydd, bydd angen i chi ddangos bod y perygl llifogydd, a'r canlyniadau, yn dderbyniol.

Datblygiadau arfordirol sydd fwyaf tebygol o ddioddef effeithiau llifogydd, ond efallai bydd angen i ddatblygiadau ar y môr ystyried llifogydd os bydd newidiadau i brosesau ffisegol neu elfennau ar y tir.

Dylech nodi a allai'r datblygiad gynyddu'r perygl llifogydd. Os felly, bydd angen rhoi sylw i hynny wrth asesu'r effaith amgylcheddol.

Gallwn hysbysu a fydd angen cynnal asesiad canlyniadau llifogydd (FCA), a'r hyn y dylai gynnwys. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio'r map cyngor datblygu ar gyfer lefel y perygl llifogydd. Dylech hefyd ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y perygl llifogydd.

Canllawiau ar gwblhau asesiad canlyniadau llifogydd yn Nodyn Cyngor Technegol 15 ar Ddatblygu a Pherygl Llifogydd.

Ansawdd tir

Gall datblygiadau morol gael effaith ar ansawdd tir a gwaddodion, yn arbennig yn ystod gwaith adeiladu a datgomisiynu.

Mae’r egwyddorion arweiniol ar gyfer halogiad tir yn amlinellu hyd a lled y wybodaeth gychwynnol sydd ei hangen ar gyfer cynnal ymarfer cwmpasu ar ansawdd tir, sy'n dibynnu ar y math o weithgaredd, sensitifrwydd y safle a'r defnyddiau blaenorol. Gall cynnal ymarfer cwmpasu helpu i nodi a fydd angen archwiliad o'r safle, cynnal asesiadau risg neu waith adfer.

Efallai y bydd gwneud gwaith samplu a dadansoddi gwaddodion yn ofynnol os yw deunydd yn cael ei garthu neu ei waredu yn y môr, yn unol â chanllawiau OSPAR ar gyfer rheoli deunydd sydd wedi’i garthu.

Dylech nodi a yw'r datblygiad yn debygol o gael effaith ar ansawdd y tir a gwaddodion, neu eu halogi. Os felly, bydd angen rhoi sylw i hynny wrth asesu'r effaith amgylcheddol.

Mae ein cyngor ar halogiad tir ond yn ymdrin â'r effaith ar ddyfroedd a reolir. Mae'r rhain yn cynnwys dyfroedd daearol, arfordirol, mewndirol a dŵr daear. Gall awdurdodau lleol ddarparu cyngor ar effaith halogi tir ar iechyd dynol.

Ansawdd aer

Bydd effaith datblygiad ar yr ansawdd aer yn dibynnu ar natur y datblygiad a'i leoliad. Gall datblygiadau gael effaith uniongyrchol ar ansawdd aer, fel tarddleoedd penodol newydd ar gyfer llygredd aer, neu anuniongyrchol, fel arwain at gynnydd mewn allyriadau gan gerbydau neu gychod.

Mae amcanion ansawdd aer yn gosod sawl trothwy yr ystyrir bod mynd uwchlaw iddynt yn achosi perygl annerbyniol i iechyd a'r amgylchedd. Gosodir ardaloedd rheoli ansawdd aer gan awdurdodau lleol ar gyfer gwaith rheoli ar raddfa leol, ac maent yn nodi ardaloedd lle ceir ansawdd aer gwael.

Dylech nodi a yw'r datblygiad yn debygol o gael effaith ar ansawdd aer, yn arbennig ardaloedd lle ceir ansawdd aer gwael ar hyn o bryd. Os felly, bydd angen rhoi sylw i hynny wrth asesu'r effaith amgylcheddol.

Gwybodaeth ynglŷn â sut rydym yn darparu gwasanaethau cynghori ar aer, gwaith modelu a chynnal asesiad risg.

Gwybodaeth, adroddiadau a setiau data ansawdd aer gan Ansawdd Aer Cymru.

Newid yn yr hinsawdd

Mae newid yn yr hinsawdd yn fater byd-eang. Mae cynnydd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr gan weithgareddau dynol yn cael effaith weithredol ar newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn golygu bod effaith ddifrifol na ellir ei gwrthdroi, ar bobl a'r amgylchedd, yn fwy tebygol.

Mae'r Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol bellach yn ei gwneud hi'n ofynnol rhoi disgrifiad o effaith sylweddol debygol y prosiect ar newid yn yr hinsawdd.

Dylech nodi effaith sylweddol debygol y prosiect ar newid yn yr hinsawdd ac i ba raddau y mae eich datblygiad mewn perygl rhag newid yn yr hinsawdd, ac asesu hynny ymhellach wrth asesu'r effaith amgylcheddol. Er enghraifft:

  • Yr effaith ar y newid yn yr hinsawdd: cynnydd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o lwyfan olew
  • Perygl rhag newid yn yr hinsawdd: asesu digwyddiadau tywydd difrifol ar gyfer gorsafoedd pŵer niwclear arfordirol
  • Canlyniadau newid yn yr hinsawdd: gall adeiladu amddiffynfeydd rhag y môr achosi gwasgfa arfordirol o ganlyniad i godiad yn lefel y môr yn y dyfodol.

Y wyddoniaeth ddiweddaraf mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Effeithiau cronnus a chyfunol

Effeithiau cronnus yw'r rheiny nad ydynt yn sylweddol ar eu pennau eu hunain ond sy'n gallu dod yn sylweddol pan maent yn cyd-ddigwydd â newidiadau eraill dros amser neu mewn un lleoliad. Effeithiau cyfunol yw'r rheiny sy'n deillio o ryngweithiadau rhwng prosiect a gweithgareddau.

Gall datblygiadau neu lefel weithgarwch o unrhyw faint achosi'r effeithiau hyn, nid rhai mawr yn unig.

Gall rhywogaethau symudol, fel mamaliaid morol, adar a physgod, a phrosesau ffisegol, fod yn weithredol dros ardal ddaearyddol eang. Mae hyn yn golygu efallai y caiff prosiect datblygu effaith gronnus bosibl gydag effeithiau eraill o leoliad sy'n bell i ffwrdd.

Dylech nodi'r prosiectau datblygu neu weithgareddau eraill y rhoddir sylw iddynt, o safbwynt effeithiau cronnus a chyfunol posibl, wrth asesu'r effaith amgylcheddol.

Gwybodaeth am asesu effeithiau cronnus a phroses yr Arolygiaeth Gynllunio.

Gwybodaeth am ganllawiau ar asesu effeithiau cyfunol ar gyfer Asesiad o'r Effaith Ecolegol gan y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM).

Mesurau osgoi, lliniaru, digolledu a gwella

Gellir cynnwys mesurau ar gyfer osgoi effeithiau amgylcheddol mewn gwaith dylunio a chynllunio datblygiadau da. Dyma'r cam cyntaf wrth ddilyn hierarchaeth liniaru.

Nid yw bob amser yn bosibl osgoi pob effaith, felly efallai y bydd angen mesurau lliniaru er mwyn lleihau effeithiau.

Dylid ond ystyried digolledu neu wrthbwyso colledion fel opsiynau pan na ellir osgoi neu liniaru effeithiau.

Ar y cam cwmpasu asesiad o’r effaith amgylcheddol, fel arfer dim ond ystyriaeth gyffredinol o fesurau lliniaru sy'n bosibl. Fodd bynnag, mae ystyried mesurau lliniaru yn gynnar yn golygu y gallant gael eu hymgorffori i gynllun y prosiect weithiau. Er enghraifft, gellir newid lleoliad neu faint y datblygiad, neu gellir manylu ar wahanol ddulliau gosod mewn Cynllun Rheoli'r Amgylchedd Adeiladu. Gall y rhain leihau risg effeithiau posibl a lleihau'r angen o bosibl am fwy o wybodaeth yn ystod y cam cydsynio.

Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn annog prosiectau i adfer a gwella'r amgylchedd morol. Lle bo hynny'n bosibl, dylid integreiddio'r mesurau hyn yn nyluniad y datblygiad.

Byddwn yn falch o gynghori'n fanwl ar opsiynau lliniaru a gwella wrth i'r datblygiad fynd rhagddo drwy'r broses o asesu'r effaith amgylcheddol. Mae'r gost o newid dyluniad prosiect yn golygu ei bod yn well ystyried hyn yn gynnar yn y gwaith cynllunio.

Monitro

Efallai y bydd angen cyflawni gwaith monitro am sawl rheswm gwahanol, fel casglu gwybodaeth amgylcheddol er mwyn llywio'r broses o asesu'r effaith amgylcheddol, a gwaith monitro ar ôl derbyn caniatâd er mwyn dilysu rhagfynegiadau'r asesiad o'r effaith amgylcheddol. Dylid ystyried y rhain yn gynnar yn y broses o asesu'r effaith amgylcheddol.

Dylech nodi unrhyw waith monitro y bydd ei angen er mwyn helpu i lywio'r asesiad. Er enghraifft, monitro helaethrwydd a dosbarthiad derbynyddion er mwyn penderfynu a ydynt yn agored i niwed gan weithgareddau'r datblygiad.

Efallai y bydd angen monitro ar ôl i rai gweithgareddau datblygu ddigwydd, neu wrth iddynt ddigwydd, er mwyn gwirio nad yw effeithiau arbennig yn codi lle ceir unrhyw ansicrwydd ynghylch y perygl i'r amgylchedd.

Lle ceir ansicrwydd ynghylch effeithiolrwydd mesurau lliniaru, efallai y bydd angen cynnwys gwaith monitro er mwyn gwirio p'un a ydynt wedi bod yn effeithiol.

Y peth gorau yw cynnwys y gofynion monitro ar ôl derbyn caniatâd yn gynnar yn y broses o asesu fel y gellir eu halinio'n briodol â'r gwaith monitro y bydd ei angen er mwyn llywio'r asesiad. Bydd hyn yn golygu y gellir canfod unrhyw effeithiau drwy ddefnyddio cymhariaeth ‘cyn ac ar ôl’. Gellir ymgorffori rhywfaint o waith monitro yn nyluniad y prosiect datblygu hyd yn oed. Er enghraifft, camerâu olrhain ar dyrbinau gwynt ar y môr er mwyn monitro rhyngweithiadau ag adar.

Mae'r agwedd o fonitro'n enwedig o bwysig mewn unrhyw ddull addasol a gyflwynir er mwyn rheoli effeithiau lle ceir ansicrwydd penodol.

Gwybodaeth am ddefnyddio dull rheoli addasol ar gyfer datblygiadau morol.

Trwyddedu morol

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r penderfynwr ar gyfer y broses o asesu'r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol sydd angen trwydded forol yng Nghymru. Mwy ynglŷn â gwneud cais am drwydded forol, gan gynnwys cynnal ymarfer cwmpasu a'r broses o asesu'r effaith amgylcheddol.

Adrannau eraill y canllaw hwn

Y broses o asesu’r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol

Yr hyn y mae cynnal ymarfer cwmpasu ar gyfer asesu effaith amgylcheddol datblygiadau morol yn ei olygu

Deddfwriaeth, polisi a gwybodaeth ar gyfer asesu effaith amgylcheddol datblygiad morol

Diweddarwyd ddiwethaf