Ysgrifennu dogfennau hygyrch

Mae hyn yn rhan o'r llawlyfr cynnwys a chyhoeddi

Yr hyn sy'n gwneud dogfen yn hygyrch

Mae gan ddogfen hygyrch y priodoleddau canlynol:

  • mae wedi'i hysgrifennu mewn Cymraeg clir ac ni ddefnyddir acronymau
  • mae trefn ddarllen y cynnwys yn glir ac yn rhesymegol ac yn hawdd ei dilyn
  • dim ond at ddiben gosod data y defnyddir tablau ac nid ar gyfer cynllun cyffredinol y dudalen
  • mae gan ddelweddau sy'n cyfleu gwybodaeth ddefnyddiol (nid delweddau addurniadol yn unig) ddewisiadau eraill o ran testun (neu 'destun amgen')
  • mae'n cynnwys elfennau strwythurol wedi'u fformatio'n gywir megis penawdau, tabl cynnwys, dolenni a nodau tudalen
  • mae testun wedi’i fformatio fel bod pobl â nam ar eu golwg neu anableddau gwybyddol (gan gynnwys dyslecsia) yn gallu ei ddarllen
  • mae cyferbyniad digonol rhwng lliwiau blaendir a chefndir​

Arddulliau a fformatio

Wrth gychwyn eich dogfen, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio templed dogfen hygyrch diweddaraf CNC, sydd wedi'i ymgorffori yn Microsoft Word. 

Yr arddull rhagosodedig ar gyfer pob dogfen yw fel a ganlyn:

  • ysgrifennu mewn un iaith
  • dylai testun y corff ddefnyddio ffont 'Arial', maint 12
  • rhaid i'r testun gael ei alinio i ochr chwith y dudalen
  • osgoi defnyddio fformatio ffont arbennig fel print trwm a llythrennau italig – dim ond ar gyfer teitlau cyhoeddiadau ac ar gyfer enwau Lladin neu wyddonol ar rywogaethau, planhigion neu anifeiliaid y dylid ei ddefnyddio
  • peidio â thanlinellu testun nad yw'n ddolen
  • peidio â defnyddio bylchau dwbl rhwng brawddegau
  • peidio â defnyddio’r swyddogaeth 'mewnosod siapiau' – er enghraifft, rhoi petryalau fel dalwyr ar gyfer penawdau ac is-benawdau

Pan fyddwch yn ysgrifennu yn Word, defnyddiwch fformatio strwythurol bob amser ar gyfer penawdau, testun corff, rhestrau bwled, rhestrau wedi'u rhifo ac ati.

Cymhwysir y rhain gan ddefnyddio'r panel 'Arddulliau a Fformatio'. 


Gosod teitl y ddogfen

Bydd angen i chi osod teitl y ddogfen.

Gwnewch hyn trwy fynd i 'Ffeil / File' ac yna 'Gwybodaeth / Info'. Ar yr ochr dde, dylech weld 'Priodweddau / Properties'. Yno gallwch olygu priodweddau'r ddogfen, gan gynnwys y 'Teitl / Title'. Newidiwch hwn i deitl y ddogfen rydych ei eisiau. 


Creu tudalen gynnwys

Bydd bron pob defnyddiwr yn elwa ar 'dabl cynnwys' wedi'i fformatio'n gywir sy'n darparu dolenni gweithredol i adrannau amrywiol dogfen, yn enwedig mewn dogfennau mawr.

Gallwch greu tabl cynnwys trwy glicio ar y tab 'Cyfeirnodau / References' ac yna ar 'Tabl Cynnwys / Table of Contents'.

Crëwch dabl cynnwys yn seiliedig ar strwythur penawdau’r ddogfen.


Penynnau a throedynnau

Ni ddylai penynnau a throedynnau gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i ddarllenwyr. Mae'r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o'r wybodaeth o fewn pennyn neu droedyn wedi'i chuddio rhag darllenwyr sgrin.

Logos o fewn penynnau

Caniateir logos ym mhenynnau tudalennau cyn belled â bod y canllawiau o ran graffigau a delweddau yn cael eu dilyn. Darllenwch Ychwanegu testun amgen at ddelweddau, graffiau, siartiau a graffigau.

Rhifau tudalennau o fewn troedynnau

Caniateir rhifau tudalennau o fewn troedynnau tudalennau cyn belled â bod y rhifau'n gyson drwy'r ddogfen gyfan. Dylech osgoi newid rhwng dau neu fwy o arddulliau rhifo gwahanol o fewn dogfen, h.y. rhifau a llythrennau, neu rifau a rhifolion Rhufeinig, ac ati.

Rhaid dilyn yr un arddull a fformatio trwy gyfeirio at Arddulliau a fformatio.


Lliw a chyferbyniad

Lliw yw un o'r agweddau mwyaf pwerus ar gyfathrebu gweledol ac un sy'n cael ei chamddefnyddio'n aml.

Nid yw'r ffaith bod eich dogfennau a'ch tudalennau gwe yn edrych yn un ffordd i chi pan fyddwch yn eu dylunio yn golygu y byddant yn edrych felly i'ch cynulleidfa.

Dilynwch y rheolau syml hyn:

  • peidiwch byth â defnyddio lliw fel yr unig ddull o gyfleu gwybodaeth
  • peidiwch byth â defnyddio lliw yn unig i ddangos pwyslais
  • gwnewch yn siŵr bod gan eich lliwiau gyferbyniadau cryf rhyngddynt

Yn lle hynny, dylech ddefnyddio lliw a phrint trwm, lliw a maint, lliw a phatrymau neu siapiau, neu liw ac uwcholeuo i ddangos pwyslais.

Gall y technegau syml hyn helpu i wella mynediad at wybodaeth i bobl mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau ac amodau:

  • dallineb lliw
  • golwg isel
  • materion golwg sy'n gysylltiedig ag oedran megis dirywiad macwlaidd
  • monitorau gyda dangosiad lliw anghywir neu amherffaith
  • pobl sy'n ceisio darllen eich deunyddiau ar eu ffôn wrth sefyll yng ngolau dydd

Penawdau

Mae defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn dibynnu ar benawdau ac is-benawdau i ddeall a llywio dogfennau. I wneud hyn, mae angen iddynt gael eu fformatio'n gywir.

I ddewis y testun pennawd priodol, mae angen i chi wneud y canlynol:

Mynd i'r adran 'Arddulliau / Styles', a dewis y pennawd rydych am ei ddefnyddio – er enghraifft, 'Pennawd 1 / Heading 1' neu 'Pennawd 2 / Heading 2'.

Ni ddylid defnyddio penawdau:

  • mewn tablau
  • mewn penawdau

Penawdau gwag

Mae penawdau gwag yn benawdau nad oes testun wedi'i neilltuo iddynt. Mae’n hawdd iawn eu colli wrth ysgrifennu dogfen ac mae yr un mor hawdd eu diwygio.

Mae dwy ffordd o ddod o hyd i benawdau gwag:

  1. Wrth hofran dros bennawd, bydd symbol triongl yn ymddangos ar ddechrau'r llinell. Os bydd triongl yn ymddangos wrth hofran dros linell wag, mae hyn yn dynodi pennawd gwag.

  1. Defnyddiwch y cwarel llywio i gael gwared ar bennawd gwag.

Gallwch wneud y canlynol:

  • ddileu'r llinell y mae'r pennawd gwag yn eistedd arni
  • de-glicio ar y pennawd gwag o fewn y cwarel llywio a chlicio ar 'Dileu / Delete'
  • gosod y cyrchwr ar yr un llinell â'r pennawd gwag a gosod yr arddull i 'Normal'

Penawdau a threfn penawdau anghywir

Penawdau anghywir, neu drefn penawdau anghywir, yw pan fo lefel y pennawd yn anghywir. Y drefn gywir yw: Pennawd 1, Pennawd 2, Pennawd 3, ac ati. Argymhellir peidio â mynd y tu hwnt i Bennawd 3 neu Bennawd 4.

Y ffordd ddiffiniol o benderfynu a yw trefn y penawdau yn anghywir yw edrych ar y tab 'Hafan / Home' o dan y golofn 'Arddulliau / Styles' tra bo testun y pennawd wedi'i ddewis gan y cyrchwr; bydd yr arddull a neilltuwyd yn dangos fel yr amlygwyd/dewiswyd.


Lluniau

Dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol y dylid cynnwys lluniau.

Os oes angen i chi gynnwys unrhyw luniau, dylent fod fel a ganlyn:

  • yn cael eu hychwanegu wrth i chi ysgrifennu'r testun – peidiwch ag ychwanegu'r lluniau i'r ddogfen unwaith y byddwch wedi gorffen ysgrifennu
  • wedi'u fformatio fel eu bod yn cyd-fynd â'r testun

Bydd hyn yn sicrhau bod darllenwyr sgrin yn eu darllen yn eu trefn resymegol.

Os ydych am ychwanegu ffigur, argymhellir gosod y rhain uwchben neu cyn eich graffigau/delweddau.

Bydd angen i chi hefyd ychwanegu testun amgen.

Ni ddylech grwpio lluniau gyda'ch gilydd oherwydd nad yw hyn yn hygyrch.

Delweddau haenog

Os ydych yn defnyddio sawl delwedd i gynrychioli'r cyfan, efallai y bydd yn edrych fel un ddelwedd i chi, ond bydd darllenwyr sgrin yn darllen pob delwedd ar wahân. Efallai na fydd hyn yn gweithio i'r darllenydd gan fod yr hyn yr oeddech am ei wneud oedd cyfleu un syniad yn unig.  

Bydd angen i chi grwpio'r delweddau.

Gallwch gymryd snip o'r ddelwedd, gan ei ludo i'ch dogfen fel delwedd ac ychwanegu testun amgen. Neu gallwch wneud fel a ganlyn:

  • pwyso a dal ‘Shift’ ac yna clicio ar bob delwedd
  • dewis 'Fformat / Format' > 'Grŵp / Group' > 'Grŵp / Group'
  • ychwanegu testun amgen i'r ddelwedd wedi'i grwpio

Siartiau a graffiau

Cyn defnyddio siartiau a graffiau, mae angen i chi benderfynu ai testun yw'r peth gorau i gyfleu’r hyn rydych yn ceisio'i gyfleu ynteu siart neu graff wedi'i ategu gan destun. Os gallwch gyfleu'r wybodaeth mewn ffordd gryno a chlir gyda thestun, yna mae'n debyg nad oes angen diagram arnoch chi.

Mae angen i unrhyw siartiau a graffiau fod yn glir ac yn hawdd eu deall. Defnyddiwch liwiau cyferbyniad uchel neu fonocrom (arlliwiau o un lliw). Ystyriwch ddefnyddio pwyntiau data â siâp neu linellau ar gyfer bariau. Bydd defnyddio technegau du a gwyn yn golygu na fydd angen i bobl ddefnyddio arlliwiau lliw. Gallwch ddarllen cyngor pellach a argymhellir ar dudalen Microsoft 'Change the shape fill, outline, or effects of chart elements'

Os oes angen i chi gynnwys unrhyw siartiau neu graffiau ac ati, mae'n hanfodol darparu testun amgen cynhwysfawr sy'n cyfleu'n llawn yr holl wybodaeth sydd yn y ddelwedd neu'n cael ei chyfleu ganddi.

Gwnewch yn siŵr bod eich siart neu graff wedi’i alinio gyda’r testun bob amser. Ewch i 'Cynllun / Layout', dewiswch 'Amlapio Testun / Wrap Text' ac yna 'Wedi’i Alinio gyda’r Testun / In Line with Text'.

Os ydych am ychwanegu allwedd, argymhellir gosod hon uwchben neu cyn eich siartiau a'ch graffiau.


Ychwanegu testun amgen at ddelweddau, graffiau, siartiau a graffigau

Dylid ychwanegu testun amgen at ddelweddau, graffiau, siartiau a graffigau. Mae hyn yn golygu y gall darllenwyr sgrin ddarllen y testun a disgrifio'r ddelwedd i'r defnyddwyr na allant weld y ddelwedd.

Nid oes angen i chi gynnwys testun amgen ar gyfer delweddau a graffigau sy’n addurniadol yn unig. Yn yr achos hwn, ticiwch y blwch 'Marcio fel addurniadol / Marked as decorative'.

Ni ddylai'r testun amgen fod yn ddisgrifiad o'r ddelwedd neu'r graffigwaith. Yn lle hynny, dylech ddisgrifio'r hyn y mae'r ddelwedd neu'r graffigwaith yn ei ddweud wrth y darllenydd. Pa wybodaeth ydych am i'r darllenydd ei chael o edrych ar y ddelwedd?

Ysgrifennwch mewn iaith syml, fanwl gywir, a chadwch yr esboniad yn gryno. Yn nodweddiadol, nid oes angen mwy nag ychydig eiriau.

Os yw'r testun amgen yn hwy nag 16 gair, dylid ei gynnwys yn nhestun y ddogfen.

I ychwanegu testun amgen at eich dogfen:

  • naill ai dewiswch ddelwedd a gwasgwch y botwm 'Testun Amgen / Alt Text' yn y tab rhuban ‘Fformat / Format’ (bydd yn rhaid i chi ychwanegu'r nodwedd hon os nad yw ar gael yn barod)
  • neu de-gliciwch ar ddelwedd a dewis 'Golygu Testun Amgen / Edit Alt Text'

Awgrym

Os nad ydych wedi defnyddio testun amgen o'r blaen, gallwch hefyd ddewis 'Cynhyrchu disgrifiad i mi / Generate a description for me' i gael gwasanaethau deallus Microsoft sy'n cael eu gyrru gan y cwmwl i greu disgrifiad i chi. Mae hyn yn cymryd eiliad, ac ar ôl hynny fe welwch y canlyniad yn y maes cofnodi testun. Cofiwch ddileu unrhyw sylwadau a ychwanegwyd yno gan Word – er enghraifft, ‘Disgrifiad wedi'i gynhyrchu'n hyderus iawn’.


Dolenni

Mae dolenni yn gymhorthion llywio defnyddiol. Gallwch wella defnyddioldeb a hygyrchedd hyperddolenni trwy eu hymgorffori mewn testun.

Mae defnyddwyr â golwg yn sganio tudalennau'n weledol am ddolenni i'w helpu i ddod o hyd i'r hyn y maent yn chwilio amdano. Gall pobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin lunio rhestr o'r holl ddolenni ar dudalen.

Dylai dolenni fynd â phobl i'r dudalen lanio gysylltiedig yn lle dogfen benodol. Mae hyn yn helpu i osgoi dolenni toredig rhwystrol.

Rhaid i'r dolenni esbonio i'r defnyddiwr beth sydd ynddynt. Nid yw defnyddio 'darllenwch fwy' neu 'cliciwch yma' yn gwneud synnwyr i'r defnyddiwr. Gall hefyd fod yn annifyr iawn i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin wrando ar restr o'r geiriau ‘i ddarllen mwy’.

Dylech fewnosod y ddolen yn eich testun. Peidiwch â thorri a gludo testun llawn dolen i ddogfen fel hon:

https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/water-abstraction-and-impoundment/apply-to-change-an-existing-abstraction-or-impoundment-licence/?lang=cy

Tynnwch sylw at y testun rydych yn am ei wneud yn ddolen a defnyddiwch 'Mewnosod / Insert – Dolen / Link’ yn y rhuban. Dylai edrych fel hyn:

Gwneud cais i newid trwydded tynnu neu gronni dŵr sy'n bodoli eisoes

Mae hwn yn disgrifio lle mae'r ddolen yn arwain. Ac ni fydd yn rhaid i ddefnyddwyr darllen sgrin wrando tra bo’u darllenydd sgrin yn darllen pob nod URL.

Byddwch yn gwella profiad eich holl ddarllenwyr pan fyddwch yn cymryd gofal i fewnosod testun sy'n esbonio'n glir pa wybodaeth y bydd eich darllenwyr yn dod o hyd iddi pan fyddant yn clicio ar hyperddolen. Mae 'newid trwydded tynnu dŵr sy’n bodoli eisoes' yn fwy disgrifiadol na 'thrwydded tynnu dŵr' yn unig. Peidiwch byth â gwneud i'r defnyddiwr glicio dolen dim ond i ddarganfod ble mae'n mynd.


Tablau

Dim ond i osod data y dylid defnyddio tablau ac nid ar gyfer cynllun cyffredinol y dudalen.

Mae'n bwysig sicrhau bod pob tabl yn hygyrch i'r rhai sy'n defnyddio darllenwyr sgrin. Mae hyn yn helpu darllenwyr sgrin i wneud synnwyr o'r data sydd mewn tabl.

Os ydych am ychwanegu allwedd, argymhellir gosod y rhain uwchben neu o flaen eich tablau.

Mae sawl rhan i’r broses o wneud tabl yn hygyrch:

  • gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys rhes pennyn a defnyddiwch benawdau colofn
  • dylai penawdau colofn ddisgrifio'n glir yr wybodaeth oddi tanynt
  • cadwch y tabl yn syml – osgowch dablau cymhleth sy'n cynnwys mwy nag un lefel o benawdau
  • torrwch dablau cymhleth yn dablau llai
  • cynhwyswch destun amgen i ddisgrifio cynnwys y tabl
  • osgowch dablau sy'n torri ar draws tudalennau – os na allwch wneud hynny, gwnewch yn siŵr bod penawdau colofn yn ailadrodd ar frig pob tudalen (dewiswch 'Tabl / Table' ac yna 'Priodweddau’r Tabl / Table Properties' ac, o dan y tab 'Rhes', ticiwch 'Ailadrodd ar ffurf rhes pennyn ar frig pob tudalen / Repeat as header row at the top of each page')
  • peidiwch byth â gadael i resi dorri ar draws tudalennau – dewiswch 'Tabl / Table' a 'Priodweddau’r Tabl / Table Properties' ac, o dan y tab 'Rhes', dad-diciwch yr opsiwn 'Caniatáu i res dorri ar draws tudalennau / Allow row to break across pages' ar gyfer y rhes honno

Creu rhes pennyn ar gyfer eich tabl

I greu rhes pennyn ar gyfer eich tabl, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • dewis rhes pennyn gyfan eich tabl
  • de-glicio yn y tabl, ac yna clicio ar 'Priodweddau’r Tabl / Table Properties'
  • yn y blwch deialog 'Priodweddau’r Tabl / Table Properties', clicio ar y tab 'Rhes / Row'
  • yn y grŵp 'Dewisiadau / Options', gwneud yn siŵr bod 'Ailadrodd ar ffurf rhes pennyn ar frig pob tudalen / Repeat as header row at the top of each page' wedi'i dicio
  • dad-dicio’r blwch wrth ymyl 'Caniatáu i res dorri ar draws tudalennau / Allow row to break across pages'
  • clicio ar 'Iawn / OK' i dderbyn y newidiadau

Teitlau tablau ac allweddi

Argymhellir bod teitlau tablau y tu allan i'r tabl y maent yn ei gynrychioli. Mae hyn fel y gellir neilltuo'r rhes gyntaf yn y tabl yn gywir fel penawdau'r colofnau a'r rhesi.

Ffigur 1. Enghraifft wael o leoliad teitl tabl

Teitl y Tabl
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
     
     


Ffigur 2. Enghraifft dda o leoliad teitl tabl:

Teitl y Tabl

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Rhes 1    
Rhes 2    
Rhes 3    

Dyluniad y tabl

Mae'r rhes a/neu'r golofn gyntaf un yn cael eu dyrannu fel penawdau’r tabl. Mae'r penawdau hyn yn diffinio'r wybodaeth o fewn corff y tabl. Defnyddiwch yr opsiynau arddull tabl i sicrhau bod y darllenydd sgrin yn gallu darllen y tabl yn gywir. 

I osod yr opsiynau arddull tabl yn gywir:

  • Gwnewch yn siŵr bod y tabl a ddymunir yn cael ei ddewis
  • Ewch i ‘Dyluniad y Tabl / Design’ o dan ‘Offer Tabl / Table Tools’ yn y rhuban ar frig y ddogfen
  • O dan ‘Dewisiadau Arddull y Tabl / Table Style Options’, ticiwch y blychau dymunol:
  • 'Rhes Pennyn / Header Row' fydd yn rhoi arddull i'r rhes gyntaf un

    • Bydd 'Colofn Gyntaf / First Column' yn rhoi arddull i'r golofn gyntaf un

    • 'Rhes Cyfanswm / Total Row' fydd yn rhoi arddull i'r rhes olaf un 
    • Bydd 'Colofn Olaf / Last Column' yn rhoi arddull i'r golofn olaf un 

Cynllun y tabl

Er mwyn sicrhau bod tabl yn cael ei ddarllen yn gywir, rhaid iddo fod wedi'i amlapio / ei alinio â'r testun a rhaid iddo ffitio i led y sgrin.
I amlapio'r tabl fel ei fod yn alinio gyda’r testun:

  • gwnewch yn siŵr bod y tabl yn cael ei ddewis
  • ewch i'r tab 'Cynllun / Layout', o dan 'Offer Tabl / Table Tools' yn y rhuban ar frig y dudalen
  • cliciwch ar 'Priodweddau / Properties' o dan 'Tabl / Table'
  • yn y tab wedi'i labelu 'Tabl / Table', dewiswch 'Dim / None' ar gyfer ‘Amlapio’r Testun / Text Wrapping’

Neu gallwch wneud y canlynol:

  • de-glicio ar y tabl
  • dewis 'Priodweddau’r Tabl / Table Properties'
  • yn y tab wedi'i labelu 'Tabl / Table', dewiswch 'Dim / None' ar gyfer ‘Amlapio’r Testun / Text Wrapping’

I ffitio'r tabl i led y sgrin:

  • gwnewch yn siŵr bod y tabl yn cael ei ddewis
  • ewch i'r tab 'Cynllun / Layout', o dan 'Offer Tabl / Table Tools'
  • yn y rhuban ar frig y dudalen, cliciwch 'Awto Ffitio / AutoFit' a dewiswch 'Awto Ffitio Ffenestr / AutoFit Window'

Celloedd wedi'u cyfuno

Nid ydym yn defnyddio celloedd sydd wedi’u cyfuno. Celloedd lluosog yw celloedd wedi’u cyfuno, o fewn rhes neu golofn, sydd wedi eu cyfuno yn un gell.


Rhestrau

Mae dau fath o restr ar gael: rhestrau bwled a rhestrau wedi'u rhifo.

Rhestrau cysylltiedig

Mae rhestrau cysylltiedig yn broblem gyffredin pan fo rhestrau drwy'r dudalen gyfan, wedi'u gwahanu'n gyffredin gan benawdau, yn gysylltiedig.

I benderfynu a yw eitemau ar restr yn gysylltiedig, cliciwch ar eitem o fewn y rhestr. Bydd yr holl eitemau rhestr cysylltiedig yn cael eu hamlygu mewn llwyd.

I drwsio'r broblem o restrau cysylltiedig gyda rhestrau wedi'u rhifo:

  • dewiswch yr eitem gyntaf o fewn y rhestr
  • cliciwch ar 'Ailgychwyn yn 1 / Restart at 1'

Neu

  • dewiswch yr adran gyfan o’r rhestr yr hoffech ei hailosod
  • cliciwch ar yr eicon 'Rhestr wedi'i rhifo / Numbered list'
  • dewiswch yr eitem a ddymunir o dan 'Llyfrgell Rhifo / Numbering Library' nid 'Fformatau Rhif a Ddefnyddiwyd yn Ddiweddar / Recently Used Number Formats'

I drwsio'r broblem o restrau cysylltiedig gyda rhestrau bwled:

  • dewiswch yr eitem gyntaf o fewn y rhestr
  • cliciwch ar 'Rhestr ar Wahân / Separate List'

neu

  • dewiswch yr adran gyfan o’r rhestr yr hoffech ei hailosod
  • cliciwch ar yr eicon 'Rhestr bwledi / Bullet list'
  • dewiswch yr eitem a ddymunir o dan 'Llyfrgell Fwledi / Bullet Library' nid 'Bwledi a Ddefnyddiwyd yn Ddiweddar / Recently Used Bullets'

Blychau testun

Ni ddylech ddefnyddio blychau testun, neu grwpio delweddau neu graffigau gyda'i gilydd, gan nad ydynt yn hygyrch.


Dogfennau wedi'u sganio

Ni ddylech gynnwys unrhyw ddogfennau wedi'u sganio gan eu bod yn tueddu i gael eu cadw fel delweddau.

Os byddwch yn sganio unrhyw ddogfennau, mae angen i chi sicrhau eu bod mewn ffeil Word ac nid ffeil delwedd. Bydd angen i chi gynnwys testun amgen hefyd. 

Colofnau

Dewiswch 'Cynllun / Layout' ac yna 'Colofnau / Columns' i osod testun mewn colofnau.

Peidiwch byth â defnyddio tablau i efelychu testun amlgolofn.


Gofod gwyn

I greu paragraff newydd, pwyswch y fysell dychwelyd unwaith ac unwaith yn unig. Mae hyn yn golygu na ddylech ychwanegu mwy na dau fwlch rhwng paragraffau.

Yn yr un modd, ni ddylid byth defnyddio'r fysell ‘Tab’ na'r bylchwr i leoli copi ar dudalen. Mae gwneud hynny yn debygol o wneud eich copi yn annealladwy pan gaiff ei ddarllen â darllenydd sgrin neu pan gaiff ei drosi’n fformat testun plaen.

Os byddwch yn gorffen eich testun ran o'r ffordd i lawr y dudalen ac eisiau symud ymlaen i'r dudalen nesaf, peidiwch â defnyddio'r fysell dychwelyd neu ‘Tab’ i symud i lawr y dudalen. Mae'n gwneud cyfres o flychau gwag ar y dudalen na allwch eu gweld ond bydd y darllenydd sgrin yn dal i'w darllen yn uchel fel 'GWAG’. Gwnewch doriad tudalen ar ddiwedd eich testun yn lle hynny.

Marciau paragraff

Dilynwch y camau isod i ddangos neu guddio'r marcwyr cynllun. Fel arall, gallwch hefyd ddefnyddio'r llwybr byr 'Alt, H, 8'.

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn y tab 'Hafan / Home' yn y ddogfen

  2. Yn y golofn â'r label 'Paragraff / Paragraph', cliciwch ar y botwm gyda'r symbol ¶


Mewnosod toriad tudalen

I fewnosod toriad tudalen:

  • ewch i'r tab 'Mewnosod / Insert' yn y rhuban ar frig y ddogfen
  • cliciwch ar 'Toriad Tudalen / Page Break' neu defnyddiwch y llwybr byr bysellfwrdd 'Alt, N, B'

neu:

  • ewch i'r tab 'Cynllun / Layout' yn y rhuban ar frig y ddogfen
  • cliciwch ar 'Toriadau / Breaks'
  • dewiswch 'Tudalen / Page' neu defnyddiwch y llwybr byr bysellfwrdd 'Alt, P, B, P'

Toriadau adran

Mae toriadau adran yn debyg i doriadau tudalen am eu bod yn caniatáu gwahanu'r wybodaeth a ddymunir. Defnyddiwch doriad adran os ydych am fformatio cynllun y dudalen ar wahân i weddill y ddogfen.


Troednodiadau

Ni ddylid defnyddio troednodiadau.

Mae atgyweirio ffeiliau PDF fel bod troednodiadau'n ymddangos yn y lle iawn yn y drefn ddarllen yn hanfodol er mwyn i'r cynnwys wneud synnwyr i ddefnyddiwr darllenydd sgrin. Fodd bynnag, mae'n cymryd llawer iawn o amser i'w wneud.

Mae troednodiadau yn gweithio hyd yn oed yn waeth ar sgriniau ffonau symudol nag y maent ar gyfrifiaduron personol, am resymau amlwg.

Dylech hefyd dynnu unrhyw ddolenni o'r troednodiadau.


Gwiriwch fod eich dogfen yn hygyrch

Yn yr adran hon, fe welwch rai offer defnyddiol i'ch helpu i wirio bod eich dogfen yn hygyrch.

Gwiriwr hygyrchedd integredig

Er nad yw'n gwbl angenrheidiol, gallai fod yn ddefnyddiol i unrhyw un. Dilynwch y camau isod i ddangos neu guddio'r gwiriwr hygyrchedd integredig. Fel arall, gallwch hefyd ddefnyddio'r llwybr byr 'Alt, R, A, 1'.

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn y tab 'Adolygu / Review' o'r ddogfen

  2. Yn y golofn 'Hygyrchedd / Accessibility', cliciwch ar y botwm wedi'i labelu 'Gwirio Hygyrchedd / Check Accessibility'

Cwarel llywio

Dilynwch y camau isod i ddangos neu guddio'r cwarel llywio. Fel arall, gallwch hefyd ddefnyddio'r llwybr byr 'Alt, W, K'.

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn y tab 'Gweld / View' yn y ddogfen

  2. Yn y golofn gyda'r label 'Dangos / Show', ticiwch y blwch gyda'r label 'Cwarel Llywio / Navigation Panel'

  3. Dylai'r cwarel llywio ymddangos


Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf