Mae rhai o'r gwasanaethau y gallwch eu defnyddio ar-lein gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cynnal ar wefannau ar wahân i'r prif safle, cyfoethnaturiol.cymru.
Rydyn ni wedi blaenoriaethu’r gwaith o adolygu a datrys problemau hygyrchedd ar ein gwefannau sydd â’r nifer uchaf o bobl yn eu defnyddio ar gyfer y gwasanaethau mwyaf hanfodol.
Gweler ein prif ddatganiad hygyrchedd ar gyfer cyfoethnaturiol.cymru am adborth, llywodraethu cydymffurfiaeth a manylion cyswllt gorfodi.
Mapiau perygl llifogydd hirdymor
Parth: https://maps.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Nid yw'r map yn cydymffurfio â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau isod.
- Nid yw'r mapiau’n hygyrch, ac er eu bod wedi'u heithrio o'r gofynion presennol, nid oes ganddynt ddewis o destun arall.
Rydyn ni wrthi’n adolygu ein gwasanaeth perygl llifogydd hirdymor, a byddwn yn ceisio ei wneud yn fwy hygyrch fel rhan o'n map.
Y Gofrestr Gyhoeddus
Parth: https://publicregister.naturalresources.wales/
Beth allwch chi ei wneud
Mae'r wefan hon wedi'i hadeiladu mewn trefn resymegol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr bysellfwrdd yn unig wneud hynny'n effeithiol, ac mae'n rhoi ffocws gweladwy i ddefnyddwyr golwg gwan. Ychwanegwyd dolen ‘neidio cynnwys’ sy'n helpu'r defnyddiwr ymhellach i gyrraedd prif gynnwys tudalen yn effeithlon.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth ac eithriadau isod:
- problemau cyferbyniad isel e.e. botwm chwilio’r hafan
- Labeli ar goll ar feysydd chwilio e.e. offeryn adborth trydydd parti Hotjar
- Botymau gwag e.e. offeryn adborth trydydd parti Hotjar
- 'testun amgen' coll
- problemau lleoliad y brif 'ddolen neidio cynnwys’
- ffocws anghywir wrth ddefnyddio'r ddolen 'Top'
- nid yw darllenwyr sgrin yn gallu ffocysu ar ganlyniadau'r chwiliad a'u darllen
- mae nifer fawr o ddogfennau hanesyddol nad ydynt yn hygyrch
Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd digidol i'w hadolygu.
Rhybuddion a hysbysiadau llifogydd
Mae nifer o broblemau hygyrchedd gan y gwasanaeth gwirio rhybudd llifogydd presennol. Bydd hwn yn cael ei ddiffodd ym mis Tachwedd 2020.
Mae’r gwasanaeth rhybudd llifogydd newydd wedi cael ei brofi ar gyfer hygyrchedd.
Gweler y datganiad hygyrchedd ar gyfer rhybuddion llifogydd a’r gwasanaeth perygl llifogydd 5 diwrnod
Lefelau afonydd
Mae nifer o broblemau hygyrchedd gan y gwasanaeth gwirio lefelau afonydd presennol. Bydd hwn yn cael ei ddiffodd ym mis Tachwedd 2020.
Mae’r gwasanaeth rhybudd llifogydd newydd wedi cael ei brofi ar gyfer hygyrchedd.
Gweler y datganiad hygyrchedd ar gyfer gwasanaeth lefelau afonydd
Hwb Ymgynghori (Citizen space)
Parth: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/
Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei hadolygu a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn bo hir.
Porth Fy Nghyfrif CNC a chofrestru Cludwyr Gwastraff
Parth: https://account.naturalresources.wales/ a https://wastecarrier.naturalresources.wales
Beth allwch chi ei wneud
Mae gan y wefan hon rywfaint o gydymffurfiaeth naturiol â hygyrchedd oherwydd rhagosodiadau'r porwr.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau oherwydd y problemau canlynol:
- dim dolen ‘neidio cynnwys’
- nid oes unrhyw gymorth ffocws gweladwy ar gael
- nid yw trefn ffocws mewn tudalennau wedi eu steilio a heb eu steilio yn gywir
- cyferbyniad isel ar fotymau
- mae rhywfaint o’r testun yn amhriodol o fach
- labeli Aria wedi eu defnyddio’n anghywir
- dolenni diangen
- awtogwblhau coll
- mae defnyddio darllenydd sgrin yn anos nag y dylai fod
- mae nifer o broblemau ychwanegol wrth ddefnyddio darllenydd sgrin JAWs
Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd i'w hadolygu.
Gwasanaeth cyflwyno gwybodaeth am dynnu dŵr
Parth: https://abstractionreturns.naturalresources.wales/
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, a hynny oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a’r eithriad a nodir isod:
- Wrth ddefnyddio iOS Voiceover nid yw trefn y tabiau’n rhesymegol a gall ffocws elfennau’r penawdau hefyd fod allan o drefn
Nodwyd y materion hyn fel rhan o brofion hygyrchedd ffurfiol.
Porth Rheoleiddiol CNC
Defnyddir ar gyfer: gwneud cais am esemptiadau gwastraff a dŵr, gwastraff peryglus, trwyddedu amgylcheddol a dibenion eraill.
Parth: https://nrwregulatory.naturalresources.wales/cy
Beth allwch chi ei wneud
Mae'r wefan hon yn cynnig rhywfaint o drefn ffocws a ffocws gweladwy i ddefnyddwyr golwg gwan ac mae'n cynnig rhywfaint o allu hygyrchedd naturiol yn seiliedig ar osodiadau diofyn y porwr.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau canlynol:
- ffocws gweladwy nad yw'n cyd-fynd â safon newydd CNC
- nifer o broblemau cyferbyniad ar logo, dolenni, newidydd iaith, chwilio a chanlyniadau chwilio
- dim dolen ‘neidio cynnwys’
- colli priodoledd iaith ar y newidydd iaith
- strwythur pennawd anghywir
- botymau amddifad niferus
- nid yw trefn ffocws wedi ei sefydlu'n briodol ar gyfer darllenwyr sgrin, yn enwedig ar gyfer tablau
Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd digidol i'w hadolygu.
Porth API CNC
Parth: https://api-portal.naturalresources.wales/
Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei hadolygu a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn bo hir.
Catalog Llyfrgell CNC
Parth: https://catllyfr.cyfoethnaturiol.cymru/
Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei hadolygu a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn bo hir.
Prosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn (safle prosiect CCW wedi ei archifo)
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Mae'r data yn y safle hwn wedi cael ei drosglwyddo i CNC ac mae'r wefan yn cael ei hadolygu er mwyn ei chau.
Beth allwch chi ei wneud
Mae'r wefan hon yn cynnig rhywfaint o allu hygyrchedd naturiol yn seiliedig ar osodiadau diofyn y porwr.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau canlynol:
- ffocws gweladwy nad yw'n cyd-fynd â safon newydd Cyfoeth Naturiol Cymru
- dim tirnodau yn y safle cyfan
- teitlau segur ar nifer o ddelweddau
- dim dolen ‘neidio cynnwys’
- colli priodoledd iaith ar y newidydd iaith
- dolenni niferus i PDFs nad ydynt yn barod am hygyrchedd
Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol.
Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru
Parth: https://www.outdoorlearningwales.org/home/?lang=cy
Beth allwch chi ei wneud
Mae'r wefan hon yn cynnig rhywfaint o allu hygyrchedd naturiol yn seiliedig ar osodiadau diofyn y porwr
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau canlynol:
- ffocws gweladwy ar goll
- problemau cyferbynnu niferus
- dim dolen ‘neidio cynnwys’
- labeli coll a botymau gwag
- dolenni diangen
- strwythur pennawd anghywir
- togl iaith coll
- dim rheolaethau carwsél
- awtogwblhau coll ar feysydd mewnbwn
- calendr ddim yn hygyrch i ddarllenwyr sgrin
Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd digidol i'w hadolygu.
E-Werthiannau Pren (Timber e-sales)
Parth: https://esales.naturalresources.wales/
Beth allwch chi ei wneud
Mae'r wefan hon yn cynnig rhywfaint o allu hygyrchedd naturiol yn seiliedig ar osodiadau diofyn y porwr
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau canlynol:
- ffocws gweladwy ar goll
- trefn tabio afresymegol
- problemau cyferbynnu niferus
- dim dolen ‘neidio cynnwys’
- rhybuddion dolen amheus a achoswyd gan ddiffyg manylder
- testun amgen ar goll ar gyfer rhai delweddau
- dolenni wedi torri
- nid yw rhai elfennau testun a chynllun yn newid maint yn briodol
- teitl coll a phriodoledd iaith ar goll ar y togl iaith
- rhai labeli coll
Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd digidol i'w hadolygu.
Chwiliwr data dŵr ymdrochi
Parth: https://environment.data.gov.uk/wales/bathing-waters/profiles/?lang=cy
Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei hadolygu a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn bo hir.
Arsylwi Dyfroedd Cymru
Parth: https://waterwatchwales.naturalresourceswales.gov.uk/
Beth allwch chi ei wneud
Mae'r wefan hon yn cynnig rhywfaint o allu hygyrchedd naturiol yn seiliedig ar osodiadau diofyn y porwr
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau canlynol:
- ffocws gweladwy nad yw'n gyson nac yn cyd-fynd â safon CNC
- problemau cyferbynnu niferus
- dim dolen ‘neidio cynnwys’
- rhybuddion dolenni amheus a achoswyd gan ddiffyg manylder
- defnyddio darllenydd sgrin yn anodd wrth lywio dewislenni
- anallu i ryngweithio â phob elfen gan ddefnyddio darllenydd sgrin
- dolenni dewislen i ddogfennau nad ydynt yn hygyrch
Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd digidol i'w hadolygu.
Taclo Tipio Cymru
Parth: https://www.flytippingactionwales.org/cy
Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei hadolygu a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn bo hir.
Llwybr Arfordir Cymru
Parth: https://www.walescoastpath.gov.uk/accessibility-standards/?lang=cy
Gweler datganiad hygyrchedd Llwybr Arfordir Cymru
Ein harfordir a'n moroedd
Parth: https://cy.www.ourcoastandseas.wales
Cysylltu
Gallwch weld ein map trywydd ar gyfer gwelliannau hygyrchedd ar ein prif ddatganiad hygyrchedd ar gyfer cyfoethnaturiol.cymru yn ogystal â manylion am bwy i gysylltu â nhw ynghylch adborth, llywodraethu cydymffurfiaeth a manylion cyswllt gorfodi ar gyfer unrhyw un o safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru.