Gwella hygyrchedd

Rydym yn ceisio gwella hygyrchedd ein safle yn barhaus. Bydd y gwaith a wnawn i drwsio materion hygyrchedd yn cael ei restru ar y dudalen hon.

2021

Gorffennaf

  • bellach mae gennym ffordd hygyrch i wirio' risg llifogydd, i gael gafael ar wybodaeth a oedd ar gael> yn flaenorol yn y map perygl llifogydd yn unig.

Mehefin

Mai

Ebrill

Mawrth

Chwefror

Ionawr

2020

Rhagfyr

Tachwedd

  • gwelliannau wedi'u wneud i'r tabl cludydd gwastraff

Hydref

Medi

wedi trosi pob ffurflen ar y tudalennau canlynol o Microsoft Word i system ffurflenni ar-lein hygyrch: 

Awst

  • wedi defnyddio nodwedd ‘ffocws ar’ weladwy ar draws y safle. Mae hyn yn cefnogi’r broses o lywio ein tudalennau gwe ac elfennau o'r wefan (ac eithrio mapiau)
  • wedi tynnu penawdau dyblyg o bob rhan o'r safle
  • wedi edrych ar ba asedau graffigol a delweddau nad oeddent yn addurniadol ac wedi codio’n briodol
  • wedi tynnu 28 o ddogfennau PDF o'r safle a throi'r rhain yn gynnwys HTML
  • wedi codio’r swyddogaeth chwilio’n gywir i gynorthwyo hygyrchedd
  • bellach mae gan opsiynau dewis iaith y rhagdudalen labeli testun
  • wedi codio’r faner cwcis i helpu defnyddwyr sy’n defnyddio darllenydd sgrin
  • mae strwythur penawdau ffurflenni bellach mewn trefn resymegol
  • wedi rhoi teitl unigryw i fframiau’r mapiau wedi'u mewnblannu
  • wedi tynnu meysydd ychwanegol o'n ffurflenni ar-lein pan nad oes arddull i'r dudalen

Gorffennaf

  • wedi galluogi defnyddwyr i lywio o amgylch y wefan mewn trefn resymegol gan ddefnyddio bysellfwrdd
  • wedi trwsio rhai materion cyferbyniad lliw
  • wedi parhau i nodi materion hygyrchedd. Rhestrwyd y rhain gennym yn ein datganiad hygyrchedd
  • wedi tynnu 15 o ddogfennau PDF o'r safle a throi'r rhain yn gynnwys HTML
  • wedi creu templedi Word hygyrch a chanllawiau i staff ar greu dogfennau hygyrch, fel adroddiadau tystiolaeth
  • wedi parhau i wella'r cynnwys ar draws y safle gan ei wneud yn fwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio
  • wedi ychwanegu nodwedd awtogwblhau at yr ategyn ar gyfer cofrestru i gael cylchlythyrau
  • mae safleoedd penodedig bellach yn rhoi adborth statws i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin
  • wedi ychwanegu testun at y rhagolwg llifogydd 5 diwrnod, gan ddileu gwybodaeth a ddarperir yn ôl lliw yn unig
  • wedi ychwanegu setiau a labeli meysydd at yr ategyn cofrestru ar gyfer cylchlythyrau
  • wedi ychwanegu label ARIA at y faner cwcis
  • wedi cyflwyno cyfleuster argraffu tudalen i gwsmeriaid sydd am argraffu cynnwys y we
  • mae strwythur penawdau ar elfennau tudalen bellach mewn trefn resymegol
  • wedi ychwanegu priodoledd iaith at yr ategyn rhybuddion llifogydd
  • wedi ychwanegu labeli at nodwedd chwilio’r safle
  • wedi cyfuno delweddau a dolenni cyfagos i helpu meddalwedd darllen sgrin

Mehefin

  • gall defnyddwyr bellach chwyddo’r dudalen hyd at 200% heb i'r testun oferu oddi ar y sgrin
  • wedi cynnal gweithdai i helpu golygyddion cynnwys i wella hygyrchedd dogfennau PDF
  • wedi tynnu'r nodwedd llywio â dewislen gynhwysfawr (‘mega navigation’) a'i wneud yn hygyrch i bawb, mae gennym bellach drefn llywio syml (‘flat navigation’), sy'n gyson ar draws y safle
  • wedi tynnu 5 dogfen PDF o'r safle a throi'r rhain yn gynnwys HTML
  • wedi ychwanegu meysydd awtogwblhau at ffurflenni adborth
  • wedi ychwanegu neges adborth briodol at y swyddogaeth chwilio ar gyfer chwiliadau heb ganlyniadau
  • wedi ychwanegu set maes at ffurflenni adborth

Mai

  • wedi trwsio problemau a nodwyd yn yr archwiliad hygyrchedd cyntaf
  • wedi cael ail archwiliad hygyrchedd o'n gwefan gan Zoonou - cwmni hygyrchedd
  • wedi cynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth i staff ar bwysigrwydd hygyrchedd
  • wedi parhau i nodi materion hygyrchedd a dechrau gweithio ar ein datganiad hygyrchedd
  • wedi parhau i wella'r cynnwys ar draws y safle gan ei wneud yn fwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio

Ebrill

  • wedi cynnal cyrsiau hyfforddi staff i godi ymwybyddiaeth o broblemau hygyrchedd ar draws y safle
  • wedi cynnal ein harchwiliad hygyrchedd cyntaf o'r wefan
  • wedi parhau i wella'r cynnwys ar draws y safle gan ei wneud yn fwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio
  • wedi cyhoeddi cofrestr gyhoeddus o gludwyr gwastraff hygyrch

Mawrth

  • wedi parhau i wella'r cynnwys ar draws y safle gan ei wneud yn fwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio

Chwefror

  • wedi cynnal sesiwn ymwybyddiaeth hygyrchedd mewn sesiwn ymsefydlu staff newydd
  • wedi cynnal sesiwn cinio a dysgu i roi cyflwyniad i hygyrchedd
  • wedi parhau i wella'r cynnwys ar draws y safle gan ei wneud yn fwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio

Ionawr

  • wedi archwilio dogfennau ar y brif wefan i helpu’r broses o flaenoriaethu gwaith hygyrchedd, gwnaethom seilio hyn ar ddefnydd cwsmeriaid
  • wedi parhau i wella'r cynnwys ar draws y safle gan ei wneud yn fwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio
Diweddarwyd ddiwethaf