Cynlluniau Rheoli'r Traethlin
Beth ydy Cynlluniau Rheoli'r Traethlin?
Mae Cynlluniau Rheoli'r Traethlin yn gosod y dull strategol ar y cyd ar gyfer rheoli'r arfordir yn erbyn risgiau llifogydd o'r môr ac erydu.
Y bwriad yw lleihau'r risgiau i bobl, a'r amgylchfyd naturiol, hanesyddol a'r un sy' wedi'i adeiladu dros y ganrif nesaf. Mae perspectif tymor hir yn hanfodol i Gynlluniau Rheoli'r Traethlin er mwyn nodi goblygiadau newid arfordirol.
Mewn rhai ardaloedd mae angen parhau ag amddiffyn yr arfordir rhag llifogydd ac erydu. Mewn ardaloedd eraill, bydd rhannau o'r arfordir yn cael eu gadael i ddatblygu'n naturiol i addasu i amodau amgylcheddol newidiol.
Datblygu Cynlluniau Rheoli'r Traethlin
Mae Cynlluniau Rheoli'r Traethlin wedi cael eu datblygu gan Grwpiau Arfordirol, sy'n cynnwys aelodau o:
- Cyfoeth Naturiol CYmru
- awdurdodau lleol lan y môr
- cyrff llywodraeth
- rhanddeiliaid eraill gyda chyfrifoldeb neu ddiddordeb mewn rheoli'r arfordir
Mae'r Cynlluniau wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid ac ymgynghoriad cyhoeddus. Wedyn cytunodd y Grwpiau Arfordirol y Cynlluniau, cyn i bwyllgorau cynghorau lleol eu cymeradwyo. Wedyn cawson nhw eu hawdurdodi gan Lywodraeth Cymru.
Dim dogfennau ystadudol ydy Cynlluniau Rheoli'r Traethlin. Ond mae Llywodraeth Cymru eisiau iddyn nhw gael eu hystyried mewn penderfyniadau a chynlluniau strategol, megis Cynlluniau Datblygu Lleol a Strategaethau Rheoli Risg Llifogydd Lleol.
Dewis polisi Cynlluniau Rheoli'r Traethlin
Mae'r dewis polisi Cynlluniau Rheoli'r Traethlin ar gyfer rhan o'r arfordir yn dod o adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael ac asesu:
- prosesau arfordirol
- risgiau llifogydd o'r môr ac erydu
- cyflwr amddiffynfeydd arfordirol
- profi a gwerthuso datblygiad polisi
- effeithiau amgylcheddol, wedi'u hysbysu gan Asesiadau Rheoleiddiadau Cynefin, Asesiadau Amgylcheddol Strategol, Asesiadau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
- ffactorau cymdeithasol
- gwerthusiad economaidd
- newid hinsawdd
- ffactorau lleol
- rhyngweithiadau gydag ardaloedd cyfagos
Rheoli rhannau o'r arfordir
Mae Cynlluniau Rheoli'r Traethlin yn rhannu'r arfordir yn rhannau bach (o'r enw unedau polisi) ac yn disgrifio sut y bydd y rhannau'n cael eu rheoli dros y:
- tymor byr (2005-2025)
- tymor canolig (2025-2055)
- tymor hir (2055-2105)
Mae pedwar dull sydd ar gael i bob uned polisi, ar gyfer pob cyfnod o amser, sef:
- Cynnal y llinell (CYLl) drwy gynnal neu newid y safon amddiffyn presennol
- Symud y llinell (SYLl) drwy adeiladu amddiffynfeydd newydd ar ochr y môr i amddiffynfeydd gwreiddiol (does dim un yng Nghymru)
- Adlinio a reolir (AAR) sy'n gadael i'r traethlin symud nôl ac ymlaen, gan reoli neu gyfyngu'r symudiad
- Dim ymyrraeth weithredol (DYW) lle does dim buddsoddi mewn amddiffynfeydd arfordirol ac rydym yn gadael i brosesau naturiol barhau i greu arfordir sy'n esblygu
Gweld y dull ar gyfer eich ardal
Defnyddiwch y map isod i weld dull Cynlluniau Rheoli'r Traethlin ar gyfer unrhyw ardal arfordirol yng Nghymru:
Gweld y Cynlluniau Rheoli'r Traethlin llawn
Mae pedwar Cynllun Rheoli'r Traethlin sy'n ymestyn ar hyd arfordir Cymru. Mae dau o'r rhain yn croesi'r ffin gyda Lloegr. Gallwch weld y Cynllun ar gyfer eich ardal yn y dolenni isod:
- Grŵp Arfordirol Aber Hafren (Cynllun Rheoli'r Traethlin 19 – Anchor Head i Drwyn Larnog)
- Grŵp Arfordirol De Cymru (Cynllun Rheoli'r Traethlin 1 20 – Trwyn Larnog i Benrhyn Santes Ann)
- Grŵp Arfordirol Gorllewin Cymru (Cynllun Rheoli'r Traethlin 1 21 – Penrhyn Santes Ann i'r Gogarth)
- Grŵp Arfordirol Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (Cynllun Rheoli'r Traethlin 22 – y Gogarth)
Mae'r dolenni isod yn cynnig:
- gwybodaeth gefndirol ar ddatblygu'r cynllun
- datganiadau polisi ar gyfer pob uned polisi, sy'n amlinellu manylion y polisi ar gyfer pob cyfnod amser
- asesiadau cefnogol
- cynlluniau gweithredu ar gyfer rhoi'r Cynllun ar waith
- cofnod o sut mae rhanddeiliaid wedi cael eu cynnwys trwy gydol datblygu'r Cynlluniau
Dulliau gwahanol dros amser
Mewn rhai lleoliadau bydd y dull tuag at reoli'r traethlin yn newid dros amser, er enghraifft o Gynnal y llinell i Adlinio a reolir neu Dim ymyrraeth weithredol.
Gall hyn fod oherwydd ei bod yn anghynaladwy i amddiffyn rhan o'r arfordil yn y tymor canolig i dymor hirach.
Lle bydd rhannau o'r arfordir yn newid i Ddim ymyrraeth weithredol, mi gollant unrhyw amddiffyn sydd ganddynt ar hyn o bryd, wrth i'r amddiffynfeydd ddirywio yn raddol.
Lle mae'r newid i Adlinio a reolir, bydd angen cynllunio mwy manwl ar gyfer addasu'r arfordir.
Gweithredu'r Cynlluniau Rheoli'r Traethlin
Mae'r Grwpiau Arfordirol yn gyfrifol am gynhyrchu a rheoli'r Cynlluniau Rheoli'r Traethlin.
Mae aelodau'n gweithio gyda'i gilydd, ar lefel Grwpiau Arfordirol, neu'n fwy lleol, i gyfathrebu a gweithredu'r Cynlluniau. Gall hyn gynnwys datblygu cynlluniau addasu'r arfordir, lle bo angen.
Bydd rhai o hyblygrwydd yn yr amserlenni tymor byr, canolig, a hir uchod. Bydd y penderfyniadau am amseru gweithredu'r dull polisi ar sail ffactorau sy'n cynnwys:
- pa mor gyflym mae lefel y môr yn newid mewn ardal
- astudiaethau lleol manwl
- ffactorau cymdeithasol a llesiant
- cyfleoedd amgylcheddol
Gall aelodau'r Grwpiau Arfordirol a rhanddeiliaid eraill ddefnyddio lefelau sbardun i nodi'r amser priodol i drosglwyddo o un dull polisi i'r llall.
Mae cynlluniau gweithredu wedi cael eu datblygu ar gyfer pob Cynllun Rheoli'r Traethlin. Mae'r rhain yn nodi gweithredoedd strategol penodol gan y Grwpiau Arfordirol a'u haelodau i weithredu'r polisiau.
Mae'r cynlluniau'n canolbwyntio ar weithredoedd y tymor presennol ond maen nhw hefyd yn nodi gweithredoeddtymor canolig i dymor hirach. Gall rhai gweithredoedd gynnwys ystod ehangach o randdeiliaid, sy'n cydnabod cymhlethdod y diddordebau wrth reoli'r arfordir.
Atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli'r arfordir
Lle bydd amddiffynfeydd yn cael eu cynnal, fel mewn lleoliadau mwyaf poblog, mae gennym ddewisiadau ynglŷn â sut caiff hyn ei gyflawni.
Gallwn ddewis mathau o amddiffynfeydd y gorffennol, fel morgloddiau ac argorau (a elwir weithiau yn seilwaith 'caled' neu 'lwyd'). Neu, gallwn edrych ar ddefnyddio 'seilwaith gwyrdd', a adnabyddir hefyd fel 'atebion sy'n seiliedig ar natur'.
Neu, gallwn edrych ar ddefnyddio 'atebion sy'n seiliedig ar natur', sy'n ceisio gweithio gyda phrosesau naturiol a gwella adgyfnerthedd y sustemau amgylcheddol tra'n lleihau risgiau llifogydd ac erydu arfordiol.
Mwy o wybodaeth am atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol
Diweddaru'r Cynlluniau Rheoli'r Traethlin
Mae'r Cynlluniau Rheoli'r Traethlin yn ddogfennau byw. Byddant yn cael eu hadolygu a diweddaru pryd bydd gwybodaeth newydd, fel amcangyfrifon newid hinsawdd, ar gael.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Grwpiau Arfordirol wedi cwblhau prosiect i adnewyddu Cynlluniau Rheoli'r Traethlin.
Mae'r prosiect wedi adolygu:
- sut mae'r Cynlluniau wedi cael eu gweithredu hyd at hyn
- yr hyn sydd wedi newid ers iddyn nhw gael eu diweddaru, fel polisiau neu dystiolaeth newydd
- p'un ai ydy newidiadau yn golygu heriau i weithredu polisiau Cynlluniau Rheoli'r Traethlin
Mae'r prosiect yn rhoi arweiniad clir i'r Grwpiau Arfordiol ynglŷn â'r camau nesaf i gynllunio ar gyfer trosglwyddo o'r dull polisi tymor byr i dymor canolig.
Bydd hyn yn helpu cyflawni'r cynllun tymor hirach ar gyfer traethlin sy'n fwy cynaladwy. Mae hefyd yn bwriadu sicrhau bod Cynlluniau Rheoli'r Traethlin yn parhau'n gyfredol, dibynnol a gweladwy.
Fel yn rhan o'r prosiect, rydym wedi cynhyrchu Canllaw Atodol ar gyfer Cynlluniau Rheoli'r Traethlin.
Mae hwn yn cefnogi cynnal a gweithredu'r Cynlluniau yng Nghymru ac yn cyd-fynd â'r canllaw presennol o 2006. Bydd y canllaw newydd yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod egwyddorion allweddol yn cael eu gweithredu'n gyson ar draws Cynlluniau Rheoli'r Traethlin.