Prosiectau amddiffyn rhag llifogydd

Rydym ni’n dylunio, adeiladu a gofalu am strwythurau amddiffyn rhag llifogydd ledled Cymru. Mae strwythurau amddiffyn rhag llifogydd yn helpu i ddiogelu rhag llifogydd o afonydd neu’r môr. Maen nhw’n cynnwys: 

  • argloddiau
  • waliau
  • llifddorau
  • cwlferi
  • a sgriniau sbwriel (sy’n casglu malurion)

Cyllid

Rydym ni’n gwario oddeutu £17m y flwyddyn ar brosiectau amddiffyn rhag llifogydd, gan flaenoriaethu’r cymunedau hynny sydd fwyaf mewn perygl. Mae ein prosiectau’n cael eu hariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru.

Mae ein cyllid yn cael ei gadarnhau’n flynyddol. Mae’n cael ei asesu gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar y cynlluniau yr ydym yn cynnig eu datblygu ymhellach.

Pedwar cam ar gyfer pob prosiect

Mae angen i bob prosiect fynd drwy’r camau canlynol:

  1. Gwerthuso – rydym ni’n sicrhau bod y prosiect yn ymarferol o safbwynt technegol, amgylcheddol ac economaidd a’i fod yn gallu mynd yn ei flaen
  2. Dylunio – rydym ni’n edrych yn fanwl ar y dyluniad ac yn mireinio’r cynlluniau, y costau a’r manylebau gan sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei ddiogelu a’i well alle bynnag bo hynny’n bosibl.
  3. Adeiladu – mae’r gwaith yn cael ei wneud ar y safle
  4. Cau’r prosiect – pan fo’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau ac unrhyw gostau’n cael eu talu

Rhoddir dyddiad disgwyliedig ar gyfer cwblhau pob prosiect. Fel pob prosiect adeiladu sylweddol, gall y dyddiad disgwyliedig newid oherwydd yr adnoddau sydd ar gael i ni, newidiadau technegol, yr amodau ar y safle a newid yn ein blaenoriaethau.

Prosiectau mawr sydd ar waith ar hyn o bryd

Gweld pob prosiect amddiffyn rhag llifogydd

Diweddarwyd ddiwethaf