Perchnogion eiddo ar lan afon - gwybod eich hawliau a'ch cyfrifoldebau

Diffinio cwrs dŵr

Mae cwrs dŵr yn golygu unrhyw sianel naturiol neu artiffisial y mae dŵr yn llifo drwyddo fe, megis afon, ac mae’n cynnwys lle mae afon yn llifo drwy gwlfer, nant neu ffrwd melin.  Os ydych chi'n berchen ar eiddo wrth ymyl cwrs dŵr, rydych chi’n ‘berchennog glan yr afon'.

Eich cyfrifoldebau chi

Dyma rai o’ch cyfrifoldebau chi:

  • cynnal a chadw gwely a glannau’r afon
  • caniatáu i’r dŵr lifo yn ddirwystr
  • rheoli rhywogaethau estron goresgynnol megis clymog Siapan

Dysgwch fwy am eich hawliau a chyfrifoldebau fel perchnogion glannau afonydd yng Nghymru

Pwy syn rheolir risg i eiddo ar lan afon?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith cynnal a chadw, gwella neu adeiladu ar brif afonydd yng Nghymru er mwyn rheoli perygl llifogydd.

Gelwir pob cwrs dŵr agored arall yng Nghymru yn 'gwrs dŵr cyffredin' (mae’r ddolen ar gael yn Saesneg yn unig). Mae eich awdurdod lleol (sef yr awdurdod llifogydd lleol arweiniol) neu Cyfoeth Naturiol Cymru (sef y bwrdd draenio mewnol) yn gwneud gwaith cynnal a chadw, gwella neu adeiladu ar gyrsiau dŵr cyffredin yng Nghymru i reoli draenio tir. 

Os ydych yn berchen ar dir neu eiddo wrth ochr unrhyw afon, bydd gennych gyfrifoldebau fel perchennog eiddo ar lan afon. 

Mordwyo

Mae hawliau mordwyo cyhoeddus yn bodoli ar ddyfroedd llanw llawer o afonydd, lle mae’r môr yn llifo i mewn ac allan o’r aber.  Mae'n bosibl y bydd gan awdurdodau harbwr rywfaint o gyfrifoldeb am y dyfroedd hyn.  Dim ond mewn rhai dyfrffyrdd mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru reolaeth dros fordwyo.  Ni fydd CNC yn ymwneud ag unrhyw anghydfod nac yn rhoi cyngor cyfreithiol ynglŷn â mordwyo ar unrhyw ddyfrffyrdd eraill.

Rôl yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol

Mae gan awdurdodau lleol unedol Cymru bwerau i reoli perygl llifogydd yn lleol, fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. 

 phwy i gysylltu i gael help

Os oes gennych chi gwestiwn ynglŷn â’r ddeddfwriaeth, rôl awdurdodau rheoli risg, neu eich hawliau a’ch cyfrifoldebau chi fel perchennog eiddo ar lan afon, cysylltwch â ni neu anfonwch neges e-bost atom ni yn enquiries@naturalresourceswales.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf