SoNaRR2020: Trawsnewid y system drafnidiaeth
Mae'r ffordd y caiff pobl a nwyddau eu cludo yn creu effeithiau negyddol sylweddol ar ecosystemau ac iechyd pobl. Mae trafnidiaeth drefol yn cyfrannu at allyriadau carbon, llygredd aer, dŵr a sŵn. Mae hefyd yn arwain at yr effeithiau cymdeithasol ac economaidd sy'n gysylltiedig â thagfeydd a diffyg cyfleoedd trafnidiaeth.
Mae twf mewn trafnidiaeth, gan gynnwys cyfraddau perchnogaeth ceir cynyddol a'r rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n tyfu, wedi arwain at effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol. Mae'r rhain yn amrywio o'r effeithiau uniongyrchol ar yr hinsawdd ac ar ansawdd aer, llygredd sŵn a cholli bioamrywiaeth, i effeithiau mwy anuniongyrchol megis ar ansawdd bywyd a rhywogaethau estron goresgynnol sy'n dod i mewn yn nŵr balast llongau.
Trafnidiaeth yw'r drydedd ffynhonnell fwyaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru (Greenhouse Gas Inventories for England, Scotland, Wales and Northern Ireland: 1990-2018). Mae trafnidiaeth ffyrdd yn creu llygredd aer ar ffurf deunydd gronynnol ac ocsidiau nitrogen sy'n fygythiad mawr i iechyd pobl mewn ardaloedd trefol (Air Pollution in Wales 2018).
Hefyd, mae trafnidiaeth yn creu effeithiau anuniongyrchol drwy greu galw mewn amrywiaeth o sectorau economaidd eraill, gan gynnwys echdynnu deunyddiau crai, cynhyrchu seilwaith a cherbydau, cynhyrchu trydan, puro petrolewm, ac ailgylchu a gwaredu deunyddiau (The European environment – state and outlook 2020).
Maes yr ecosystemau
Mae trafnidiaeth yn cynrychioli bron i 80% o'r galw am ynni yn y DU, cyfran sylweddol fwy nag yn 1990 (UK Energy in Brief Sector 2019).
Yn ogystal â chynhyrchu carbon deuocsid, trafnidiaeth ffyrdd yw prif ffynhonnell ocsid nitraidd. Mae'r llygredd aer hwn yn cyfrannu'n sylweddol at ddyddodiad nitrogen ym mhob ecosystem, yn enwedig yn ucheldir Cymru lle mae effeithiau allyriadau diwydiannol a thrafnidiaeth yn aml yn bell iawn o ffynonellau llygredd.
Gall llygredd o drafnidiaeth adweithio â llygryddion eraill ym mhresenoldeb golau'r haul i ffurfio osôn, a all effeithio ymhellach ar yr amgylchedd drwy ddifrod i lystyfiant, gan gynnwys cnydau. Mae'r llygredd hwn yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd pobl, gan achosi effeithiau anadlol a chardiofasgwlaidd.
Gan fod y rhan fwyaf o allyriadau trafnidiaeth yn cael eu rhyddhau ar lefel y stryd, yn aml o fewn dinasoedd poblog, gall gwelliannau mewn effeithlonrwydd trafnidiaeth gael effaith sylweddol ar lygredd aer ac ar iechyd pobl. Gellir cymryd camau i reoleiddio trafnidiaeth o fewn y maes economaidd.
Y maes economaidd
Mae gan Gymru gyfraddau uchel o ddefnydd ceir ar gyfer cymudo a dim ond gostyngiad bach a welsai mewn allyriadau carbon o drafnidiaeth ers 1990 (Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel). Mae trydaneiddio trenau a thrafnidiaeth ffyrdd yn dechrau lleihau allyriadau, yn ogystal â chynnydd mewn dulliau teithio llesol fel cerdded neu feicio i'r gwaith. Gallai trafnidiaeth gyhoeddus ddisodli ceir preifat mewn ardaloedd trefol os gellir ei wneud yn fwy deniadol a chyfleus.
Dylai cynyddu'r defnydd o Gerbydau Allyriadau Isel Iawn, a defnyddio technolegau carbon isel, helpu i sicrhau gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau trafnidiaeth yn ystod y degawd nesaf.
Gallai technoleg ddigidol arwain at newidiadau radical mewn trafnidiaeth ffyrdd. Bydd y nifer sy'n manteisio ar symudedd awtomataidd, cysylltiedig, trydanol a symudedd a rennir yn chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol trafnidiaeth. Gallai cysylltedd byd-eang a thechnolegau awtomeiddio drawsnewid yn sylfaenol sut mae pobl a nwyddau'n cael eu symud. Mae'r newidiadau hyn yn debygol o arwain at drafnidiaeth yn cael effaith amgylcheddol is.
Ond mae'n amlwg na fydd datblygiadau technolegol arloesol yn unig, fel y rhai uchod, yn sicrhau cyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen i fynd i'r afael ag effeithiau'r system drafnidiaeth ar yr amgylchedd ac iechyd pobl. Ar gyfer hynny mae angen inni edrych i'r maes cymdeithasol.
Y maes cymdeithasol
Nid yw trosi'r dulliau presennol o deithio i ddefnyddio tanwydd carbon isel yn ateb cynaliadwy. Mae angen newid systemig i sut a pham mae pobl yn teithio a beth sy'n cael ei gludo. Fel gyda'r dull o leihau'r defnydd o ynni mewn adeiladau, mae polisi Cymru yn chwilio am ffyrdd o leihau'r galw am drafnidiaeth a'i datgarboneiddio.
Mae newid sylweddol eisoes yn cael ei geisio yng Nghymru i ddatgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy fuddsoddi mewn teithio llesol, cyflwyno bysiau trydan a strategaeth gwefru cerbydau trydan. Mae polisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei lunio o amgylch y cyfraniad y gall ei wneud i'r nodau llesiant.
Wrth edrych ar y maes cymdeithasol a sut rydym yn byw, mae'n cynnig mwy o gyfleoedd i ystyried mathau eraill o drafnidiaeth ac i leihau'r angen i deithio. Mae pandemig Covid-19 wedi dangos y gellir cyflawni newidiadau cymdeithasol mawr, nid yn unig o ran newid dulliau trafnidiaeth, ond mewn dewisiadau amgen i gymudo a'r ffordd rydym yn siopa.
Drwy ddechrau ar lefel gymunedol, mae'r maes cymdeithasol yn caniatáu i gymdeithas ddefnyddio prosesau cynllunio datblygu cenedlaethol a lleol i ailgynllunio gweithgareddau o ddydd i ddydd. Gellir defnyddio'r system gynllunio i newid y ffordd rydym yn meddwl am weithrediad 'ecosystemau trefol', gan gynllunio i ddiddymu goruchafiaeth y car a lleihau hyd teithiau, gan hefyd ystyried ffyrdd o fyw a'r economi leol.
Mae cysyniad y gymdogaeth 20 munud yn ymwneud â dylunio cymdeithas drefol yn y fath fodd fel y gall preswylwyr ddiwallu'r rhan fwyaf o'u hanghenion dyddiol o fewn taith gerdded fer o gartref. Mae opsiynau beicio diogel a thrafnidiaeth leol yn allweddol i hyn, yn ogystal â mannau cyhoeddus o ansawdd uchel, gwasanaethau cymunedol a dwyseddau tai sy'n gwneud darparu gwasanaethau lleol a thrafnidiaeth yn hyfyw. Cyflwynwyd y gymdogaeth 20 munud ym Melbourne, Awstralia fel ffordd o arwain datblygiad a thrawsnewid y ddinas hyd at 2050. Gwyliwch y ddolen Youtube i gael gwybod mwy.
Mewnosod Ffigur 7 Y Gymdogaeth 20 Munud (Llywodraeth Talaith Victoria)