SoNaRR2020: Trawsnewid y system fwyd
Drwy’r byd, mae IPBES wedi nodi mai defnydd tir yw un o’r prif elfennau sy’n sbarduno’r argyfwng natur (Adroddiad asesu byd-eang ynghylch gwasanaethau bioamrywiaeth ac ecosystemau’r Llwyfan Gwyddoniaeth-Polisi Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau).
Wrth fodloni anghenion maeth y gymdeithas, mae’r system fwyd yn gyfrifol am sawl effaith ar yr amgylchedd. Mae enghreifftiau’n cynnwys allyrru llygryddion, dihysbyddu adnoddau, colli bioamrywiaeth ac achosi dirywiad ecosystemau yng Nghymru a thu hwnt (Amgylchedd Ewrop – cyflwr a rhagolygon 2020).
O fewn maes yr ecosystemau a’r maes economaidd, cyfyngedig yw’r opsiynau ar gyfer gwneud y system fwyd bresennol yn fwy effeithlon. O fewn y maes cymdeithasol, gyda'r ystod eang o gamau y gall sefydliadau cymdeithas sifil eu cymryd, y mae gan Gymru'r mwyaf o gyfleoedd i drawsnewid ei system fwyd.
Maes yr ecosystemau
Y man cychwyn ar gyfer mynd i’r afael ag effaith amgylcheddol y system fwyd yw newid y ffordd y caiff y tir a’r môr eu rheoli, gan fabwysiadu arferion ffermio, arferion coedwigaeth ac arferion pysgota mwy cynaliadwy.
Mae ffermio manwl, systemau agroecolegol, agrogoedwigaeth, systemau coedamaeth bach eu heffaith a systemau garddwriaethol arloesol yn opsiynau sy'n cael eu hystyried er mwyn newid y ffordd y defnyddir tir.
Bydd hyrwyddo arferion amaethyddol ac agroecolegol cynaliadwy sy’n gweithio gyda natur yn lleihau mewnbynnau artiffisial, gan arwain at leihau llygredd. Er y bydd maint yr hyn a gynhyrchir hefyd yn lleihau o bosibl, yn aml bydd proffidioldeb i dirfeddianwyr yn gwella oherwydd lleihad mewn costau (Potensial economaidd ecoleg amaethyddol: tystiolaeth empirig o Ewrop. Journal of Rural Studies).
Mae arferion rheoli carbon isel yn cynnwys:
- Ffermio cnydau'n fanwl
- Atal pridd rhag cywasgu
- Taenu bio-olosg
- Treulio anaerobig
- Gwrteithiau sy’n rhyddhau maethynnau’n raddol i’r pridd
Bydd y rhain yn esgor ar ystod o fanteision, yn cynnwys gwella cynhyrchiant, gwella ansawdd yr aer, y dŵr a’r pridd, lleihau plâu a chlefydau, a gwella strwythur y pridd. Daw systemau cynhyrchu clyfar o ran dŵr ac ynni yn fwyfwy pwysig wrth i brinder dŵr gynyddu ac wrth i amaethyddiaeth chwilio am ffyrdd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae arferion rheoli sy’n fwy cydnaws â bioamrywiaeth yn cynnwys:
- Cyflwyno codlysiau blodeuol mewn glaswelltiroedd
- Gadael ymylon cnydau’n fraenar
- Plannu gwrychoedd
- Cadw a chynyddu ardaloedd o gynefin lled-naturiol o fewn, ac o amgylch, systemau cynhyrchu
Efallai y bydd y manteision sydd ynghlwm wrth wasanaethau ecosystemau gwell – fel goddefiant i sychder neu reoli plâu – yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar gynhyrchiant, neu efallai y byddant yn arwain at gydbwysedd mewn cynhyrchiant, yn dibynnu ar yr arfer amaethyddol arbennig.
Byddai system fwyd â ffocws newydd, a'r cyfleoedd i newid polisi amaethyddol ar ôl ymadael â'r UE, yn cynyddu bioamrywiaeth yn yr amgylchedd a ffermir ac yn rhyddhau tir fel y gellir ymestyn coetiroedd. Yn yr un modd, bydd defnyddio agrogoedwigaeth ac ymestyn gwrychoedd, trwy roi hwb i niferoedd coed a gwrychoedd, yn dal ac yn storio carbon ac yn cynyddu gwasanaethau ecosystemau, tra’n cynnal y prif ddiben o gynhyrchu bwyd.
Gall camau yn y maes economaidd, gan y sector preifat a'r sector cyhoeddus, helpu i gyflawni’r newid hwn, a gall newidiadau yn y maes cymdeithasol drawsnewid y cyd-destun y mae’r system fwyd yn gweithredu ynddo.
Y maes economaidd
Mae ystod o fentrau a dulliau rheoleiddio wedi cael eu defnyddio i lywio’r system fwyd er mwyn sicrhau ystod o amcanion polisi cyhoeddus – o gynlluniau amaeth-amgylcheddol i Asesu Effeithiau Amgylcheddol a chwotâu pysgod.
Mae dulliau ffermio cynaliadwy’n cynnig potensial a chyfleoedd enfawr i ffermwyr, ac fe allent gynnig sail i drawsnewid polisi amaethyddol. Mae dulliau cynaliadwy nid yn unig yn darparu bwyd iachach, ond hefyd maent yn arwain at gynnydd sylweddol yn incwm ffermwyr. Trwy Ewrop, dengys astudiaethau fod systemau sy’n defnyddio amrywiaeth o arferion ffermio cynaliadwy yn esgor ar gynnydd o rhwng 10 a 110% yn incwm ffermydd (Van der Ploeg ac eraill, 2019).
Mae angen canolbwyntio ar wella’r ffordd y mesurir adnoddau naturiol a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Gall hyn helpu i gael cydbwysedd gwell o ran cyfoethogi iechyd ecosystemau ochr yn ochr â darparu bwyd, ffeibr a buddion cyhoeddus. Rhaid pennu, monitro a modelu’r hyn a ystyrir yn gyflwr ‘da’ ar gyfer yr amgylchedd a ffermir.
Wrth i ddulliau o fodelu a monitro adnoddau naturiol ddatblygu mewn perthynas â dulliau o reoli tir, ac wrth i ymadael â’r UE esgor ar opsiynau newydd yn ymwneud â chymorth amaeth-amgylcheddol, bydd angen cael ffocws ehangach ar rannau eraill o’r system fwyd. Er mwyn trawsnewid y system fwyd yn llwyr, a gwneud hynny’n ddi-oed, mae angen ymdrech ddiwyro o fewn cymdeithas sifil a'r maes cymdeithasol.
Y maes cymdeithasol
Mae edrych ar y system fwyd o safbwynt y maes cymdeithasol yn annog cymdeithas sifil i ddechrau ymwneud ag ailgynllunio'r system fwyd. Mae'r olwg ehangach hon ar y system gynhyrchu a defnyddio yn ystyried opsiynau fel newidiadau dietegol a lleihau gwastraff bwyd (Amgylchedd Ewrop – cyflwr a rhagolygon 2020)
Ar hyn o bryd, caiff ffermwyr a defnyddwyr ledled Ewrop eu targedu gan lywodraethau a’u hasiantaethau er mwyn esgor ar newid. Byddai ffocws ehangach ar y maes cymdeithasol yn targedu elfennau eraill yn y diwydiant bwyd, fel cyflenwyr, manwerthwyr a’r sector dosbarthu. Gallai hyn helpu i gyflymu’r cynnydd tuag at gynaliadwyedd, oherwydd mae gan fanwerthwyr, fel archfarchnadoedd mawr, gryn ddylanwad ar y diwydiant bwyd (Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop, 2019).
Mae opsiynau a all esgor ar newid arferion defnydd tir, lliniaru newid hinsawdd a sicrhau mwy o goetiroedd a bioamrywiaeth, yn cynnwys:
- Newid deiet
- Lleihau gwastraff bwyd
- Cynhyrchu mwy o fwyd ar ddarn llai o dir
Fel cymdeithas, byddai bwyta llai o fwydydd drud-ar-garbon, megis bwyta llai o gig a chynhyrchion llaeth, yn cael effaith gadarnhaol ar y cydbwysedd carbon (Pwyllgor Newid Hinsawdd, dolen 2020-Saesneg yn unig). Gall cynhyrchu mwy o blanhigion esgor ar ryddhau tir y gellir plannu mwy o goed neu gnydau bio-ynni arno. Mae’r mesurau hyn yn awgrymu newid tuag at fodloni canllawiau bwyta’n iach, sef rhywbeth a fyddai hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd pobl. (Pwyllgor Newid Hinsawdd, dolen 2020-Saesneg yn unig)
Astudiaeth achos
Darllenwch nesaf
SoNaRR2020: Trawsnewid y system ynni
SoNaRR2020: Trawsnewid y system drafnidiaeth