Anghenion tystiolaeth
Dyma restr fer o'r hyn y credwn sydd ei angen arnom i asesu rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol – rhywbeth y credwn nad oes gennym ar hyn o bryd.
Os credwch y gallwch ein helpu gyda'r rhain, neu os gallwch ein cyfeirio at wybodaeth sy'n bodoli eisoes, cysylltwch â ni sonarr@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
| Lefel o flaenoriaeth | Y dystiolaeth sydd ei hangen |
|---|---|
| Uchaf | (Presennol) Maint, cyflwr ac amrywiaeth y cynefinoedd mewn ACA, AGA, SoDdGA a'r amgylchedd ehangach |
| Dealltwriaeth o anghenion defnydd dŵr aml-sector | |
| Dealltwriaeth o bwyntiau di-droi’n-ôl yng Nghymru | |
| Deall y risgiau i iechyd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd (e.e. ansawdd dwr gwael, clefydau a gludir mewn bwyd, pathogenau a gludir gan fector) | |
| Cymedrol | Gorlifdir gweithredol o fewn tir a reolir ar gyfer buddion eraill |
| Manteision coetiroedd a choed-gwasanaethau ecosystem | |
| Newidiadau o ran maint cynefinoedd ymylon arfordirol | |
| Mapiau cysylltedd yn dangos rhwydweithiau cynefin, nodweddion llinellol a cherrig camu ar gyfer pob cynefin | |
| Gwelliannau wrth ddatrys mapiau pridd er mwyn amcangyfrif stociau carbon y pridd yn gywir | |
| Data ynghylch stoc pysgodfeydd môr 12 milltir forol | |
| Dulliau o fesur llygredd o ffynonellau amaethyddol fel amonia | |
| Effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd ar ryngweithiadau'r pridd - hinsawdd - cnydau, ynghyd â’r effeithiau dilynol ar gynhyrchu cnydau a da byw | |
| Gwybodaeth feintiol am sut mae INNS yn effeithio'n andwyol ar bobl | |
| Deall ymatebion ac adferiad traethlin in sgil effeithio'n andwyol at bobl | |
| Gwell data ar dosrannu tarddiad llygredd gwasgaredig i'r aer, dŵr a thir | |
| Deall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ddŵr a bregusrwydd ecosystemau, cynefinoedd sy'n dibynnu ar ddwr a rhywogaethau | |
| Isaf | Tystiolaeth ymddygiadol a chymdeithasol ar gamau gweithredu ac agweddau'r cyhoedd/ rheolwr y tir |
| Manteision coetiroedd-economaidd | |
| Capasiti tir yng Nghymru i ddefnyddio gwastraff er mwyn ei ddefnyddio'n fuddiol | |
| Cyfraddau dal a storio carbon mewn gwahanol rywogaethau o goed | |
| Gwybodaeth am gyflwr ar safleoedd geoamrywiaeth anstatudol (RIGS) | |
| Data cyson ledled Cymru ar leoliad a chyflwr Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SPGN) | |
| Cyflwr presennol a thueddiadau priddoedd yng Nghymru a'r graddau y meant yn agored i niwed gan y defnydd o dir a'u gallu i'w wrthsefyll, rheoli tir, a hinsawdd a phatrymau tywydd cyfnewidiol | |
| Data mater gronynnol cydraniad uwch ar gyfer mapio cyfleoedd mewn ardaloedd trefol | |
| Gwella dealltwriaeth o gydnerthedd ecosystemau (gan gynnwys deall y cysylltiadau rhwng cydnerthedd ecosystemau a'r buddion y maent yn eu darparu) | |
| Gwella ein dealltwriaeth o'r modd y mae'r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar grynodiadau NOx | |
| Gwybodaeth am ddosbarthiad plau chlefydau | |
| Asesiad yn seiliedig ar le o newidiadau posibl, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, i 'gyfanswm yr effaith ar iechyd ' (meddyliol, corfforol a lles) sy'n deillio o opsiynau rheoli tir yn y dyfodol | |
| Maint, oed a chyflwr coed stryd mewn ardaloedd trefol | |
| Map llonyddwch Cymru | |
| Ffurfiant y pridd a chyfraddau colli | |
| Dealltwriaeth o ba mor agored i niwed a gwydn yw ein hymylon arfordirol o ran ffactorau newid yn yr hinsawdd e.e. mwy o stormydd a chynnydd yn lefel y môr newid yn y glawiad a thymheredd |
Darllenwch fwy o fanylion y tu ôl i'r rhestr o anghenion tystiolaeth (saesneg in unig)
Archwilio mwy
Diweddarwyd ddiwethaf