Ymchwil Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol

Llifogydd yw un o'r peryglon naturiol mwyaf sy'n effeithio ar ddiogelwch a chynaliadwyedd cymunedau ledled Cymru.

Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd y newidiadau yn ein hinsawdd yn arwain at law trymach a mwy rheolaidd, tywydd mwy stormus ac y bydd lefelau'r môr yn codi. Mae'r ffactorau hyn yn debygol o gynyddu effaith ac amlder llifogydd ac mae angen i ni fod yn barod. Mae angen i ni sicrhau bod ein penderfyniadau, ein gweithrediadau a’n cyngor i’r Llywodraeth yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth gadarn, o ansawdd sicr.

Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol

Er mwyn ein helpu i ddiwallu’n hanghenion gwyddoniaeth a thystiolaeth, rydym yn cydweithio â  Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra ar y Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y rhaglen.

Nod y rhaglen, sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr, yw diwallu anghenion pob awdurdod llifogydd ac arfordir gweithredol drwy ddarparu tystiolaeth allweddol er mwyn:

  • llywio'r gwaith o ddatblygu polisi a strategaeth
  • deall ac asesu peryglon arfordirol a llifogydd
  • rheoli asedau llifogydd ac erydiad arfordirol mewn ffordd gynaliadwy
  • paratoi ar gyfer llifogydd a’u rheoli yn effeithiol 

Prosiectau cyfredol

Mae prosiectau cyfredol y rhaglen sy'n cefnogi’n hanghenion tystiolaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd cenedlaethol yn cynnwys:

Dulliau ymarferol o drosglwyddo neu ddatgomisiynu asedau – Cynhyrchu canllaw ymarferol ar gyfer y bobl sy'n ymwneud â'r gwaith o drosglwyddo neu ddatgomisiynu asedau. 

Fframwaith Hydroleg Llifogydd – Bydd y map trywydd hydroleg yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer hydroleg llifogydd ar gyfer y 25 mlynedd nesaf. Bydd yn cyd-fynd â chynllun cyflenwi sy'n manylu camau penodol i'w cyflawni gan y gymuned hydroleg llifogydd o fewn y saith mlynedd gyntaf.

Gweithio gyda’n gilydd i ymaddasu i hinsawdd sy’n newid – llifogydd a'r arfordir – Datblygu ymgysylltiad â chymunedau lle mae'r dyfodol hirdymor o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ansicr oherwydd effaith y newid yn yr hinsawdd. (yn gysylltiedig â’r prosiect gorffenedig Fframwaith Ymchwil a Datblygu ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol:  gweithio gyda chymunedau)

Deall gwaith llywodraethu perygl llifogydd ac erydu arfordirol effeithiol yng Nghymru a Lloegr – Nod y prosiect hwn yw archwilio a gwerthuso gwaith llywodraethu perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Bydd y prosiect yn defnyddio'r gwersi a ddysgwyd o ystyried dulliau lleol a chenedlaethol o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Llawlyfr Rheoli Llifogydd yn Naturiol – Gwaith datblygu llawlyfr Rheoli Llifogydd yn Naturiol newydd a fydd yn darparu arweiniad ar gynllunio a rheoli i helpu ymarferwyr gyda rheoli llifogydd yn naturiol.

Prosiectau gorffenedig

Mae prosiectau’r rhaglen a gwblhawyd yn ddiweddar sy'n cefnogi’n hanghenion tystiolaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn naturiol yn cynnwys y canlynol:

Cyfleu effeithiau mewn rhybuddion a rhagolygon llifogydd – Gwnaeth y prosiect hwn ddatblygu a phrofi dulliau arloesol o ddarparu gwybodaeth am effaith a chyd-destun mewn rhybuddion a rhagolygon llifogydd.  Mae'r adroddiad yn amlinellu dull arfer gorau i'r cynnwys a'r gwaith o gyflawni pob math o rybuddion a rhagolygon llifogydd.

Fframwaith ymchwil a datblygu ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol: gweithio gyda chymunedau –  Datblygodd y prosiect hwn fframwaith i benderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol o ran sut i weithio gyda chymunedau i reoli'r perygl sy'n gysylltiedig â llifogydd ac erydu arfordirol.

Beth yw cywasgu arfordirol?– Gwnaeth y prosiect hwn ailddiffinio’r hyn sy'n achosi ‘cywasgu arfordirol’ ac asesodd y ffordd orau o reoli'i effeithiau yn y gorffennol a'r dyfodol.

Datblygu canllawiau cenedlaethol dros dro ar amcangyfrif amlder llifogydd afonol ansefydlog  – Mae'r prosiect hwn wedi datblygu offerynnau a thechnegau newydd i'n helpu i ganfod ac ystyried ansefydlogrwydd wrth amcangyfrif amlder llifogydd ar gyfer arfarnu cynlluniau llifogydd.

Cymhwyso dull sy'n seiliedig ar risg a gwella'r sail dystiolaeth mewn perthynas â chyforgronfeydd dŵr bach – Mae'r prosiect hwn yn cyflwyno adolygiad o reoliadau cronfeydd dŵr a gyflwynwyd yn 2013 a'r ddarpariaeth ar gyfer gweithredu deddfwriaeth newydd ar gyfer cyforgronfeydd dŵr bach, h.y., Llynnoedd/pyllau storio dŵr sy'n llai na'r maint lleiaf y bwriedir eu cynnwys yn y safonau rheoleiddio.

Cyfleoedd ymchwil eraill

Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i chwilio am ragor o gyfleoedd i lenwi bylchau mewn gwybodaeth a thystiolaeth, er enghraifft trwy grantiau’r cynghorau ymchwil neu drwy weithio gyda phrifysgolion gan gysylltu gweithgareddau ymchwil â rhaglenni gwaith CNC.

Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys prosiectau a ariennir gan  Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC),:

Rhaglen ymchwil rheoli llifogydd yn naturiol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol – Deall effeithiolrwydd rheoli llifogydd yn naturiol (reading.ac.uk)

Rhaglen o wyddor yr amgylchedd newydd i wella dealltwriaeth o wahanol fesurau rheoli llifogydd yn naturiol ar gyfer amrywiaeth o senarios perygl llifogydd.  Mae'r rhaglen yn cynnwys tri phrosiect gwahanol, sy'n cynnwys astudiaethau achos, casglu tystiolaeth a modelu.  Ceir gwybodaeth bellach ar ein gwefan.

 

Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid

0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm)

Cyfeiriad e-bost

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyfeiriad post

Cyfoeth Naturiol Cymru
d/o Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria 29
Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Diweddarwyd ddiwethaf