Mae yna lwybrau cerdded yn llawer o'r coetiroedd a'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r llwybrau cerdded hyn wedi'u harwyddo o'r dechrau i'r diwedd ac wedi’u graddio i roi syniad o’u hanhawster.
Mae'r llwybrau hygyrch yn addas i bawb gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn a bygis, ac mae gan lawer ohonynt feinciau neu fannau gorffwys eraill ar hyd y llwybr.
Mae'r llwybray cerdded fel arfer yn cychwyn o faes parcio lle mae panel gwybodaeth am y llwybr.
Mae'r panel yn nodi pa arwyddion (saeth wedi’i lliwio neu symbol arall) i'w dilyn ac mae ganddo wybodaeth am radd y llwybr, faint o amser y gall ei gymryd i'w gwblhau a beth i gadw golwg amdano ar hyd y llwybr.
Weithiau mae angen i ni gau neu ddargyfeirio llwybr wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau eraill - dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Graddau llwybrau cerdded
Caiff pob llwybr cerdded ei raddio i roi syniad o'i anhawster.
Rhoddir graddau llwybrau ar y wefan hon ac ar y panel gwybodaeth ar ddechrau'r llwybr.
Gallwch gerdded ar unrhyw dir sydd wedi'i ddynodi'n dir mynediad agored.
Mae'r rhan fwyaf o'r coetiroedd a rhai o'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u dynodi'n diroedd mynediad agored.
Dangosir tir mynediad agored ar fapiau Explorer yr Arolwg Ordnans.