Llwybrau rhedeg yn ein coetiroedd

Mae ein llwybrau rhedeg yn cynnig cyfle i redeg ar lwybrau diogel sydd oddi ar y ffordd ac yn ddi-draffig mewn lleoliadau coedwig hardd.

Mae arwyddbyst ar y llwybrau er mwyn i chi allu teimlo’n hyderus wrth ddilyn y ffordd ac mae’r olygfa’n well o lawer nag ydyw yn y gampfa!

Cofiwch y bydd arnoch angen esgidiau a dillad sy’n addas ar gyfer yr amodau - mae rhai rhannau o’r llwybrau hirach yn dilyn llwybrau mwdlyd lle byddai’n gall gwisgo esgidiau rhedeg llwybrau priodol. 

Rhedeg yng Nghoedwig Niwbwrch, Ynys Môn

Yn 2011, daeth Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd a Phellter Eitha’r Gymanwlad i Ogledd Cymru a gallwch redeg rhan o lwybr y ras swyddogol.

  • Llwybr Rhedeg y Gymanwlad (dechrau: Maes parcio’r Traeth, pellter: 6¾ milltir/11 cilomedr).

Darganfod mwy am redeg yng Nghoedwig Niwbwrch

Rhedeg ym Mharc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau

Mae pimp llwybr ag arwyddbyst sy’n addas ar gyfer rhedwyr yn cychwyn o Ganolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.

  • Maen nhw’n amrywio o ran hyd o ychydig filltiroedd i hanner marathon llawn, ac maen nhw wedi cael eu cynllunio ar gyfer dechreuwyr hyd at redwyr mwy profiadol.
  • Mae’r llwybrau’n cynnwys cyfuniad diddorol o ffyrdd coedwig a hawliau tramwy cyhoeddus anwastad heb eu tarmacio, sydd â gwreiddiau, mwd a chreigiau yma ac acw arnyn nhw. Mae yna elltydd serth hefyd, ar i fyny ac ar i lawr, ond mae yna ambell ddarn o ffordd sydd wedi’i tharmacio.

Darganfod mwy am redeg ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.

Rhedeg yng Nghoedwig Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Mae dau lwybr rhedeg sydd wedi’u nodi ag arwyddbyst yn cychwyn o Ganolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nantyrarian.

  • Mae un llwybr rhedeg yn bum cilometr o hyd ac mae’r llall yn 10 cilometr.
  • Mae’r ddau lwybr yn cynnwys rhannau gwastad, dringfeydd ac arwynebau amrywiol.

Darganfod mwy am redeg ym Mharc Coedwig Bwlch Nant yr Arian.

Rheded yng Nghoetir Ysbryd Llynfi, ger Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r tri llwybr rhedeg byr ag arwyddbyst sydd yma yn gyflwyniad gwych i redeg llwybrau.

  • Maent ar gymysgedd o ffyrdd coedwig, arwynebau wedi’u tarmacio, a darn byr o ffordd un trac, gydag ambell i ddarn lle mae mwd a chreigiau.
  • Yn dibynnu ar lefel anhawster y llwybr, mae esgyniadau a disgyniadau serth a darnau pantiog.
  • Mae lefel resymol o ffitrwydd yn ofynnol ar gyfer y llwybrau oren a phorffor. Mae’r llwybr coch yn fwy addas ar gyfer rhedwyr profiadol a chanddynt lefel uwch o ffitrwydd. 

Darganfod mwy am redeg yng Coetir Ysbryd Llynfi

Cau a dargyfeirio llwybrau rhedeg

Weithiau mae’n rhaid cau neu ddargyfeirio llwybrau wrth inni wneud gwaith cynnal a chadw neu waith coedwig neu am resymau eraill fel tywydd gwael.

Rydyn ni’n rhoi manylion am gau a dargyfeirio llwybrau beicio mynydd ar wefannau’r coetiroedd neu’r canolfannau ymwelwyr perthnasol.

Rydyn ni hefyd yn gosod arwyddion sy’n sôn am gau neu ddargyfeirio ar ddechrau pob llwybr.

Gofynnwn yn garedig i chi ddilyn yr holl arwyddion dargyfeirio a chyfarwyddiadau gan ein staff ar y safle er eich diogelwch eich hun.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf