Parc Coedwig Coed y Brenin - Gardd y Goedwig, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Mae gardd y goedwig o fewn Parc Coedwig Coed y Brenin.

Mae’n gartref i goed o bob rhan o’r byd. Ceir yna ffeithiau diddorol am rai o’r coed hyn ar arwyddion arbennig yn yr ardd.

Ceir maes parcio bach ychwanegol at ddefnydd ymwelwyr anabl gyda mynediad i’r llwybr hygyrch.

Llwybrau cerdded

Mae’r llwybr cerdded hawdd ag arwyddion o brif faes parcio.

Mae’r llwybr hygyrch ag arwyddion o faes parcio at ddefnydd ymwelwyr anabl.

Llwybr Darganfod Gardd y Goedwig

  • Uchafbwyntiau: Dewch i brofi coed o bob cwr o’r byd a darganfod ffeithiau diddorol amdanynt.
  • Pellter: ½ milltir 0.6 cilomeder
  • Gradd: Hawdd
  • Disgrifiad y llwybr: O brif faes parcio dilynwch yr arwyddbyst gwyrdd i lawr i’r bont dros Afon Babi.

Ymwelwch â’r olygfan ac yna ewch ling-di-long ar hyd cyfres o lwybrau anffurfiol gan gadw llygad am y pyst gwybodaeth am y coed a’r storfeydd sain chwedloniaeth.

Croesir yr ardd blith draphlith â chyfres o lwybrau ffurfiol ac anffurfiol 1m o led, rhai’n serth ac anwastad.

Nid oes dim grisiau na chamfeydd.

Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr, pyst gwybodaeth am y coed a straeon sain (offer weindio)

Llwybr Hygyrch Gardd y Goedwig

  • Uchafbwyntiau: Dewch i brofi coed o bob cwr o’r byd a darganfod ffeithiau diddorol amdanynt.
  • Pellter: ¼ milltir, 300m
  • Gradd: Hygyrch
  • Disgrifiad y llwybr: Ar gyfer y llwybr hygyrch, dilynwch yr arwyddbyst glas o faes parcio hygyrch dros y bont a thrwy ran isaf gardd y goedwig.

Yn yr olygfan, sy’n edrych dros y rhaeadr, gwrandewch ar stori Pont Llam yr Ewig.

Mae’r daith hygyrch yn llwybr gwastad 2m o led ag arwyneb da sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn gyda mannau gorffwys o leiaf bob 100m.

Nid oes dim grisiau na chamfeydd.

Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr, pyst gwybodaeth am y coed a straeon sain (offer weindio)

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae maes parcio at ddefnydd ymwelwyr anabl yn unig.

Mae llwybr hygyrch Gardd y Goedwig yn cychwyn o faes parcio at ddefnydd ymwelwyr anabl.

Darganfod Parc Coedwig Coed y Brenin

Mae Parc Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.

Yn ogystal â'r llwybrau cerdded sy'n dechrau yma yng Ngardd y Goedwig, dyma feysydd parcio gyda chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ym Mharc Coed y Brenin:

  • Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin - y porth i barc y goedwig a'r man cychwyn ar gyfer amrywiaeth o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd. Hefyd ceir caffi a siop feiciau
  • Pont Cae’n y Coed – dechrau'r Llwybr Llosfygynydd garw
  • Tyddyn Gwladys – safle picnic wrth afon droellog Mawddach a phorth i'r llwybr Rhaeadrau a Gwaith Aur
  • Glasdir  - safle picnic gyda llwybr cerdded drwy’r hen gloddfa gopr a llwybr hygyrch i olygfan uwchben y gweithfeydd
  • Tŷ'n y Groes– ardal bicnic glan-yr-afon a'r porth i lwybr glan-yr-afon pob gallu a llwybr mynydd garw â golygfeydd gwych dros Eryri

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae meysydd parcio Gardd y Goedwig oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.

Mae yn Sir Gwynedd.

Cyfeirnod grid mesydd parico yr AO yw SH 744 225.

Cyfarwyddiadau i meysydd parcio 

O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes. Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr. Wrth groesffordd ychydig ar ôl maes parcio Glasdir trowch i'r chwith i fyny'r rhiw. Trowch i'r dde wrth y groesffordd nesaf a chroeswch bont fechan (Pont Llam yr Ewig). Mae maes parcio ymwelwyr anabl ar y chwith, ac mae prif faes parcio tua 150 metr i fyny’r rhiw, ar y chwith.

O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de tuag at Ddolgellau.  Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes. Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr. Wrth groesffordd ychydig ar ôl maes parcio Glasdir trowch i'r chwith i fyny'r rhiw. Trowch i'r dde wrth y groesffordd nesaf a chroeswch bont fechan (Pont Llam yr Ewig).Mae maes parcio ymwelwyr anabl ar y chwith, ac mae prif faes parcio tua 150 metr i fyny’r rhiw, ar y chwith.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae'r maes parcio am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin

01341 440747

coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf