Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris yn cynnwys cadwyn o fynyddoedd yn ne Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae canolfan ymwelwyr a thŷ te ym mharcdir Dôl Idris ar odre Cadair Idris.

Mae llwybrau hygyrch o gwmpas parcdir Dôl Idris a dau lwybr serth byr ag arwyddbyst o’r ganolfan ymwelwyr i mewn i’r warchodfa.

Mae Llwybr Minffordd sy’n mynd at gopa Cadair Idris hefyd yn cychwyn o’r ganolfan ymwelwyr.

Gallwch gyrraedd Dôl Idris a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris o faes parcio sydd ychydig oddi ar yr A487.

Llwybrau cerdded

Mae Llwybr Llyn Dôl Idris a Chylchdaith y Ddôl yn dilyn llwybrau gwastad ag arwyddbyst yn y parcdir.

Mae’r Taith y Ceunant a Pont Nant Cadair yn dringo’n serth o’r ganolfan ymwelwyr ar ran o lwybr Minffordd i fyny i’r Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae arwyddbyst ar y pedwar llwybr cerdded hwn o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llyn Dôl Idris

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ⅓ mile/0.6 kilometres
  • Amser: 15 i 20 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: 1.7 metr o led ag wyneb da o amgylch y llyn. Mae mannau gorffwys bob 150 metr ac nid oes unrhyw risiau na chamfeydd ar y llwybr. Ceir byrddau picnic ger y llyn.

Mae’r llwybr cylchol hwn yn dechrau o’r maes parcio ac mae’n mynd yr holl ffordd o gwmpas y llyn yn y parcdir.

Edrychwch am adar fel bronwen y dŵr a’r siglen lwyd, sy’n magu ar lan y llyn, a’r ysgol bysgod ger y bompren, sy’n helpu eogiaid i gyrraedd y nentydd.

Menyw yn edrych ar lyn

Cylchdaith y Ddôl

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: ½ milltir/0.9 cilomedr
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr 1.4 metr o led ag wyneb da sy'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a sgwteri symudedd oddi ar y ffordd. Mae gwaith dringo graddol o 16% drwy'r coed y tu hwnt i'r llyn, cyn mynd heibio'r ganolfan ymwelwyr a dychwelyd ar hyd llwybr garw tir fferm i'r maes parcio. Mae mannau gorffwys bob 300 metr ac nid oes unrhyw risiau na chamfeydd ar y llwybr.

Mae’r llwybr cylchol hwn yn mynd drwy’r parcdir gyda’i goed sbesimen egsotig ac yna’n gyfochr â’r ganolfan ymwelwyr.

Edrychwch am yr adfail lle cynhyrchwyd dŵr mwynol a chwrw sinsir Idris am y tro cyntaf a blychau ystlumod y ganolfan ymwelwyr.

Menyw ar lwybr

Taith y Ceunant

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 980 troedfedd/300 metr (yna ac yn ôl)
  • Amser: 30 munud i 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae sawl cyfres o risiau carreg a phren ar y ddringfa i fyny ac i lawr. Mae’r llwybr yn dychwelyd yr un ffordd. Mae’n dilyn rhan o Lwybr Minffordd.

Dilynwch y symbolau browngoch o ychydig heibio’r ganolfan ymwelwyr i fyny’r ceunant serth at fainc sydd â golygfeydd draw am y rhaeadr.

Mae’r llwybr yn mynd drwy’r ‘Goedwig Law Geltaidd’ gyda’i hamrywiaeth o fwsoglau sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.

Menyw ar Lwybr Minffordd

Pont Nant Cadair

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: ⅔ miltir/1.2 cilometr (yna ac yn ôl)
  • Amser: 1½ i 2 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae sawl cyfres o risiau carreg a phren ar y ddringfa i fyny ac i lawr. Mae’r llwybr yn dychwelyd yr un ffordd. Mae’n dilyn yr un llwybr â Thaith y Ceunant ar ran o Lwybr Minffordd.

Dilynwch y symbolau oren o ychydig heibio’r ganolfan ymwelwyr ar ddringfa hir, serth i fyny’r ceunant.

Mae’r llwybr yn mynd heibio’r rhaeadrau, lle mae mainc i chi gael eich gwynt atoch.

Yna, mae’n parhau allan ar lethrau isaf y mynydd agored at bont lechi Nant Cadair.

Menyw ar bont

Cerdded i'r copa

Mae rhwydwaith o lwybrau’n arwain i fyny ac o gwmpas Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, gan gyfarfod ar y copa ym Mhenygadair.

Mae’r llwybrau wedi eu diffinio’n dda gan amlaf ac yn hawdd i’w dilyn ond gall droi’n niwlog yn sydyn iawn a’r cyngor yw cario map a chwmpawd bob amser.

Mae lloches ar ben y Gadair os yw'r tywydd yn troi'n ddrwg.

Hyd yn oed yn yr haf gall y tymheredd ar y copa fod sawl gradd yn is nag yn y maes parcio islaw. Mae cymylau isel yn aml yn gorchuddio’r copa felly gall fod yn llaith ac yn oer.

Llwybr Minffordd

Mae llwybr yn 6 milltir i’r copa ac yn ôl.

Y llwybr byrraf i fyny Cadair Idris yw’r serthaf hefyd.

Nid oes arwyddbyst ar y ddringfa egnïol iawn hon ac mae’n dechrau heibio i’r ganolfan ymwelwyr ar gyfres hir o risiau caregog a serth iawn.

Nid oes arwyddbyst a bydd arnoch angen map, sgiliau llywio a lefel dda o ffitrwydd i roi cynnig ar y llwybr hwn.

Sylwch:

  • Mae gan bob llwybr rannau serth sy’n aml yn llithrig, gyda cherrig rhydd a siâl ar y wyneb
  • Mae gatiau a chamfeydd ar bob llwybr
  • Cymrwch ofal yn y mannau gwlyb a chorsiog
  • Gwisgwch esgidiau cerdded da
  • Ewch â dillad addas gyda chi
  • Ewch â dŵr a bwyd gyda chi

Canolfan ymwelwyr ac ystafell de

Mae Canolfan Ymwelwyr Cadair Idris 300 metr o’r maes parcio ar lwybr gwastad.

Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys arddangosfa o fywyd gwyllt, daeareg a'r chwedlau am Gadair Idris.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys:

  • ffilm am greu’r mynydd
  • ffilm am y gwaith gwarchod natur a wneir gan Gyfoeth Naturiol Cymru yma
  • cartwn yn adrodd chwedlau Idris Gawr
  • lluniau isgoch byw o’r ystlumod pedol lleiaf sydd byw yn y to
  • gemau rhyngweithiol

Mae Tŷ Te Cadair yn yr un adeilad â’r ganolfan ymwelwyr.

Mae’r ganolfan ymwelwyr a'r ystafell de ar agor yn dymhorol – mae’r amseroedd agor i’w gweld isod neu ewch i dudalen Facebook Tŷ Te Cadair.

""

Amseroedd agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Y ganolfan ymwelwyr a'r ystafell de

Rhwng Dydd Gwener y Groglith a 16 Medi, mae'r ganolfan ymwelwyr a'r ystafell de fel arfer ar agor bob dydd rhwng 10am a 5pm.

Ond weithiau, bydd y ganolfan ymwelwyr a'r ystafell de yn cau yn ystod yr wythnos oherwydd tywydd gwael.

Ewch i edrych ar dudalen Facebook Tŷ Te Cadair neu ffoniwch 01654 761505 cyn teithio am ddiweddariadau i amseroedd agor.

Toiledau

Mae’r toiledau yn y ganolfan ymwelwyr ar agor pan fydd y ganolfan ar agor.

Mae’r toiledau yn y maes parcio’n cael eu rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac ar agor bob dydd (nid 24 awr).

Maes parcio

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n rheoli’r maes parcio a’r toiledau yn y maes parcio.

Ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gwybodaeth am hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • parcio Bathodyn Glas (wedi’i redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)
  • llwybr hygyrch i'r ganolfan ymwelwyr
  • mynediad cadair olwyn i’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi
  • lifft i’r arddangosfa ar lawr cyntaf y ganolfan ymwelwyr
  • toiledau hygyrch

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae taith trwy’r Warchodfa Natur Genedleathol Cadair Idris fel dringo o ris i ris, o gynefin i gynefin.

O ddyffryn ffrwythlon i gopa creigiog un o fynyddoedd uchaf Cymru.

O ddyffryn Tal-y-llyn, a’i siâp U clasurol, byddwch yn cerdded trwy geunant serth, coediog, i ddyffryn crog a chwm rhewlifol.

Uwchlaw, mae clogwyni Craig Cau a chopa Penygadair, a’u creigiau garw, moel.

""

Beth sydd i’w weld yn y gwanwyn

Os ydych yn lwcus, efallai y gwelwch hebogiaid tramor yn hela uwchben y clogwyni, neu gael cip ar fwyalchen y mynydd yn yr hafnau creigiog.

Mae tinwennod y garn yn dychwelyd i’r mynydd hefyd, a gellir clywed siff-siaffod a thelorion yr helyg yn canu o amgylch y ganolfan ymwelwyr wrth droed y warchodfa. Mae nifer o blanhigion y goedwig -fel y briallu a blodyn y gwynt- yn blodeuo, a'r blagur yn ysu i agor ar y coed derw.

Beth sydd i’w weld yn yr haf

Yn ystod yr haf mae tri o adar nodweddiadol ein coedydd derw yn dychwelyd: y gwybedog brith, telor y coed a’r tingoch, yn ogystal â gwenoliaid a gwenoliaid y bondo sy’n nythu weithiau dan fondo'r ganolfan ymwelwyr.

Ar y clogwyni yn gynnar yn yr haf, mae’r planhigion arctig-alpaidd ar eu gorau. Nid yw rhai o’r rhain i’w gweld yn unlle arall ymhellach i’r de yng Nghymru.

Mae cornfanadl blewog, sy’n brin yn lleol, yn eu blodau hefyd. Cadair Idris yw ei leoliad mwyaf gogleddol!

Yn nes ymlaen caiff rhai llethrau eu gorchuddio gan rug porffor, gyda fflachiadau o flodau melyn eithin mân i’w gweld yma ac acw. Mae’r corsydd yn disgleirio gyda gwlithlys gludiog, ynghyd â llafn y bladur a thegeirianau brych y rhos, tra mae gweision y neidr yn cadw llygad barcud ar eu plwyf.

Mae ystlumod pedol lleiaf yn dychwelyd i’w clwydfan yn nho'r ganolfan ymwelwyr. Caiff lluniau byw o’r ystlumod prin yma eu dangos yn yr arddangosfa, a gwelir hwy'n magu eu rhai bach yn ystod mis Gorffennaf.

Beth sydd i’w weld yn yr hydref

Mae canopi trwchus y goedwig law Geltaidd yn gwisgo’i liwiau tymhorol trawiadol ac mae toreth o ffyngau’n ymddangos ar lawr y goedwig.

Wrth i'r glaw chwyddo Nant Cadair mae'r lleithder yn cynyddu yn y ceunant dan gysgod y coed gan gynnig amodau delfrydol i amrywiaeth o fwsoglau a llysiau’r afu hynod brin.

Gyda llai o ymwelwyr ar y mynydd, mae’n gyfle da i archwilio’r Warchodfa Natur Genedlaethol.

Chwiliwch am flodau cain y clychlys dail eiddew a’r teim gwyllt. O dro i dro mae brain coesgoch yn ymweld â’r llethrau glaswelltog i chwilio am bryetach gyda’u pigau crwm coch trawiadol.

Mae rhai glöynnod byw fel y mantell paun, yn dal i fentro allan ar ddiwrnodau braf, ynghyd ag ambell gacynen lus Bombus monticola, sy'n rywogaeth mynyddig gweddol brin, efo pen ôl coch llachar!

Beth sydd i’w weld yn y gaeaf

 Mae’r gaeaf yn amser da i werthfawrogi daeareg drawiadol Cadair Idris.

Mae Cwm Cau yn nodweddiadol o’r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr oes iâ diwethaf. Mae Llyn Cau - un o lynnoedd naturiol dyfnaf Cymru - wedi'i amgylchynu bron, gyda chlogwyni serth, mil o droedfeddi o uchder mewn un man. Dywedir ei fod yn ddiwaelod a bod anghenfil yn llechu ynddo’n rhywle! Efallai na welwch chi byth mo’r creadur dirgel hwn, ond os byddwch yn lwcus iawn efallai y gwelwch garlwm yn ei gôt aeaf wen yn hela’i brae ynghanol y sgri.

Mewn mannau eraill ar y Warchodfa, gallwch weld cliwiau eraill yn ymwneud â gorffennol daearegol y safle, fel lafa clustog ac wynebau creigiau llyfn, wedi’u herydu gan y llif rhew araf ei symudiad.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Chwedlau Cadair Idris

Yn ôl llên gwerin, cawr oedd Idris; a Chadair Idris oedd lle’r arferai wylio’r sêr.

Tybir mai rwbel o’r adeg pan arferai Idris a’r cewri eraill frwydro a thaflu cerrig at ei gilydd yw’r clogfeini anferth ar lethrau isa’r mynydd.

Yn ôl y sôn os ydych yn ddigon ffodus i fod dal yn fyw ar ôl treulio noson ar y copa, bydd y profiad naill ai’n eich troi’n wallgof neu’n fardd.

Gwyliwch ein ffilm am chwedlau Cadair Idris

Mae'r ffilm yn ddwyieithog.  Mae’r fersiwn Gymraeg yn dod yn gyntaf ac mae’r fersiwn Saesneg yn dilyn ar ôl 7 munud.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Cadair Idris 10 milltir i’r de o Ddolgellau. 

Mae yn Sir Gwynedd.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris ar fap Explorer OL 23 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SH 732 115.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch ffordd A487 o Ddolgellau i gyfeiriad Machynlleth a throwch i’r dde i’r B4405.

Mae’r fynedfa i faes parcio Dôl Idris yn syth ar y dde.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Tywyn.

Mae gwasanaethau bysiau yn rhedeg o Dywyn.

Mae bysys hefyd yn rhedeg ar yr A487 ac yn stopio wrth y gyffordd â’r B4405 ger y maes parcio.

Er mwyn cael manylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru

Maes parcio

Y prif fynediad i Gadair Idris yw drwy faes parcio Dôl Idris.

Mae’r maes parcio hwn ar y B4405, oddi ar yr A487 rhwng Dolgellau a Machynlleth.

Mae’r maes parcio’n cael ei redeg gan Barc Cenedlaethol Eryri.

Rhaid talu am barcio.

Ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Manylion cyswllt

Cyfoeth Naturiol Cymru

0300 065 3000

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Tŷ Te Cadair

01654 761505

Tudalen Facebook Tŷ Te Cadair

 

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf