Mannau Gleision Lleol
Mannau gleision
Mae 'mannau gleision' yn ffordd gryno o gyfeirio at dir â llystyfiant ‒ parciau, gerddi cymunedol, coed, coetiroedd a pherthi, mannau anffurfiol, rhandiroedd a safleoedd tyfu bwyd ‒ a hefyd ardaloedd lle mae dŵr, megis afonydd, camlesi, llynnoedd a phyllau. Mae'r diffiniad hefyd yn cynnwys glan y môr, sy'n cael ei gynnal er mwyn hamdden a mwynhad cymunedau yn ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd. Mae 'seilwaith gwyrdd' yn disgrifio'r rhwydwaith sy'n cael ei greu gan yr holl fannau hyn.
Mae pob rhan o'r seilwaith gwyrdd yn darparu manteision niferus, a gallan nhw hefyd arbed arian inni trwy:
- Amsugno dŵr glaw a lleihau'r perygl o lifogydd (gweler Systemau Draenio Cynaliadwy Cymru)
- Cadw tai a dinasoedd yn oer yn ystod tywydd poeth (gweler Ynys Wres Drefol)
- Hidlo llygredd o'r aer (BBC Trust Me I’m a Doctor)
- Tawelu llygredd sŵn (gweler 'Sŵn amgylcheddol' ar wefan Llywodraeth Cymru)
- Lleihau straen a hyrwyddo lles meddyliol (gweler yr erthygl ganlynol gan y BBC: 'Mae gan fannau gleision effaith gadarnhaol barhaus ar les'
- Darparu mannau deniadol i ni ar gyfer cadw'n heini
- Ysgogi ein plant i wneud yn well yn yr ysgol (gweler y Rhwydwaith Plant a Natur)
- Cefnogi pob math o fywyd gwyllt, yn cynnwys gwenyn a pheillwyr eraill (gweler y Prosiect Peillio Dinesig)
Mannau gleision mewn trefi a dinasoedd
Hyd yn oed mewn gwlad fel Cymru sy'n wledig ac yn werdd i raddau helaeth, mannau gleision mewn trefi a dinasoedd yw'r unig ffordd i'r rhan fwyaf ohonom brofi manteision yr awyr agored o ran iechyd a lles. Gall diffyg amser, arian neu drafnidiaeth ein rhwystro rhag teithio'n bell o'n cartrefi neu'n gweithleoedd er mwyn mwynhau'r awyr agored. Golyga hyn fod darparu mannau gleision lleol, hygyrch ac o ansawdd uchel yn allweddol i wella ein hiechyd fel cenedl.
Helpu ein partneriaid
Mae gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru ar fannau gwyrdd lleol yn ymwneud â helpu partneriaid, megis awdurdodau lleol, i gynllunio, darparu a gwella eu seilwaith gwyrdd. Rydyn ni'n gwneud hyn yn y ffyrdd canlynol:
- Mae ein Cyfarpar Man Glas yn helpu awdurdodau lleol i gynllunio a gwella mannau gleision naturiol ar gyfer pobl mewn trefi a dinasoedd. Mae Safonau Man Glas Naturiol Hygyrch y Cyfarpar yn galluogi awdurdodau lleol i benderfynu a oes digon o'r math cywir o fannau gleision yn y lleoedd cywir er mwyn cadw eu dinasyddion yn iach
- Un o'r ffyrdd y byddwn yn gwneud hyn yw drwy gynhyrchu map sy'n dangos mannau gwyrdd lleol e.e. Parciau Gwledig a Gwarchodfeydd Natur Lleol, ac sy’n rhoi gwybodaeth am ba mor hygyrch yw'r lleoedd hyn i bobl, gan gynnwys teuluoedd ac ymwelwyr llai abl. Mae CNC yn casglu'r wybodaeth ar gyfer y map hwnnw ac yn gobeithio sicrhau y bydd ar gael i awdurdodau lleol a chyrff eraill erbyn 2020
- Rydyn ni'n cefnogi Gwobrau'r Faner Werdd, sy'n annog y rheolaeth orau posibl ar fannau gleision lleol, ac yn asesu'n annibynnol pa mor dda y gofalir amdanynt
Darganfyddwch lle mae eich gwarchodfeydd natur lleol
Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru, mewn ardaloedd trefol a gwledig, wedi sefydlu Gwarchodfeydd Natur Lleol. Mae cyfanswm o 62 o'r rhain i'w cael ledled y wlad, ac mae gan bob un ohonynt nodweddion naturiol sydd o ddiddordeb arbennig i'r ardal leol. Mae gwarchodfeydd natur lleol yn cynnwys chwareli y rhoddwyd y gorau iddynt, camlesi diangen neu gilffyrdd rheilffordd segur, yn ogystal â choetiroedd, gwlyptiroedd, rhostiroedd ac arfordiroedd. Maen nhw'n cynnig cyfleoedd ar gyfer cadwraeth ac addysg, ac yn lleoedd i'r cyhoedd gael mwynhad tawel a gwerthfawrogi natur.
Diogelu cynefinoedd a rhywogaethau
Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn helpu i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau, ac yn helpu i ffurfio partneriaethau ag awdurdodau lleol, sefydliadau cadwraeth natur a chymunedau lleol. Maen nhw hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt lleol, ac yn fannau delfrydol i blant ddysgu am natur.
Beth yw'r meini prawf ar gyfer dynodi rhywle yn Warchodfa Natur Leol?
- O dan y gyfraith, dim ond awdurdod lleol a all sefydlu Gwarchodfa Natur Leol
- Rhaid i'r safle fod o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw
- Rhaid bod gan yr awdurdod naill ai ddiddordeb cyfreithiol yn y tir, neu dylai fod wedi cytuno â'r perchennog i'r tir gael ei reoli fel gwarchodfa
Dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol, neu fynd ar ei wefan, er mwyn gweld lle mae eich gwarchodfa natur leol agosaf.