Fforwm Seilwaith Gwyrdd Cymru

Ynglyn â’r Fforwm

Mae’r Fforwm Seilwaith Gwyrdd yn rhwydwaith o weithwyr proffesiynol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n amcanu i hyrwyddo mabwysiadiad cyffredinol seilwaith gwyrdd o amgylch trefi a dinasoedd Cymru.

Mae’r Fforwm yn amcanu i roi i’w haelodau yr ysbrydoliaeth, yr wybodaeth a’r cysylltiadau i ddefnyddio dulliau naturiol i sicrhau fod y mannau lle’r ydym yn byw yn well i bobl ac i natur.

Ynghylch Seilwaith Gwyrdd

Mae seilwaith gwyrdd yn cyfeirio at yr holl nodweddion naturiol sy’n gwneud bywyd yn ein trefi a’n dinasoedd yn bosibl.

Mae seilwaith gwyrdd yn cynnwys nodweddion fel:

  • Coed
  • Coed ar strydoedd
  • Pyllau, afonydd, llynnoedd a gwlypdiroedd;
  • Dolydd a gwelltiroedd;
  • Lleiniau ymyl ffordd;
  • Parciau a gerddi;
  • Ardaloedd agored oedd unwaith yn cynnwys adeiladau (a elwir weithiau yn safleoedd tir llwyd)
  • Tiroedd wedi eu tirlunio o amgylch swyddfeydd a ffatrïoedd;
  • Toeau gwyrdd a muriau gwyrdd; ac
  • Unrhyw nodweddion lle ceir planhigion neu ddŵr

Yn wahanol i seilwaith tir llwyd hen ffasiwn (fel peipiau draenio) sydd ag un swyddogaeth (i gludo dwr glaw), mae gan bob rhan o seilwaith gwyrdd (fel pant gwelltog) nifer o swyddogaethau (i gludo dwr glaw, caniatau dwr i suddo i’r ddaear, i dynnu llygredd dwr, i ddarparu cartrefi i fywyd gwyllt, i ddarparu blodau i wenyn a pheillwyr eraill, i helpu i gadw’r ddinas yn oer).

Yn ddelfrydol, dylai seilwaith gwyrdd fod yn rhwydwaith strategol o fannau gwyrdd o ansawdd uchel a nodweddion naturiol eraill, wedi eu cynllunio a’u rheoli i gyflawni’r gwasanaethau ecolegol a manteision ansawdd bywyd sydd ei angen ar gymunedau nawr, ac yn y dyfodol. Mae Seilwaith Gwyrdd yn cynnwys mannau gwyrdd sefydliedig a safleoedd newydd a dylent dreiddio drwy’r amgylchedd adeiledig a’i hamgylchynnu a chysylltu’r ardal drefol â’i chyrion gwledig ehanach.

Sut mae’r Fforwm yn gweithio?

Mae’r Fforwm yn gweithredu’n bennaf fel rhwydwaith e-bost i’w haelodau er mwyn gallu rhannu gwybodaeth a chyfleoedd cysylltiedig â seilwaith gwyrdd. Ceir cyfarfod blynyddol lle mae siaradwyr yn cyflwyno eu gwaith i’r Fforwm ac mae’r aelodau’n cael y cyfle i ddysgu mwy am y gwaith hwnnw mwen grwpiau trafod bychain. O bryd i’w gilydd bydd y Fforwm yn cynnal cyfarfodydd ar y cyd â chyrff eraill, ac yn trefnu cyfarfodydd ar bynciau penodol megis defnyddio dolydd bloau ar welltiroedd trefol.

Pwy yw’r aelodau a sut ydw i’n ymuno?

Mae’r Fforwm yn agored i unrhyw un sy’n weithredol yng Nghymru a chanddo ddiddordeb neu arbenigedd proffesiynol ym maes seilwaith gwyrdd mewn trefi a dinasoedd ac o’u cwmpas. Mae aelodau cyfredol yn gweithio i gwmnïau preifat; Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill; sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol; a grwpiau cymunedol lleol. Os hoffech ymuno â’r Fforwm, anfonwch e-bost yn gyntaf gyda manylion cryno (un paragraff) o’ch diddordeb a’ch arbenigedd ym maes seilwaith gwrydd i Peter Frost (peter.frost@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk).

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf