Y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ar ddiogelwch cronfeydd dŵr Gwydir

Diweddariad mis Tachwedd 2019

Ar ôl i gwmni adeiladu Dawnus Construction Cyf. ddod i ben ym mis Mawrth 2019, penododd CNC gontractwr newydd, sef William Hughes Civil Engineering Cyf., i gwblhau’r gwaith diogelwch cronfeydd dŵr yn Llyn Cyfty, Llyn Goddionduon a Llyn Sarnau.

Mae’r gwaith ym mhob un o’r tair cronfa ddŵr bron â gorffen ac mae’r contractwr yn bwriadu symud ei gabanau a’r ffensys yn Ne Cyfty oddi yno cyn y Nadolig. Bydd yr ardal ag arwyneb solet yn cael ei hadfer ond bydd yn cael ei hailddefnyddio yn y gwanwyn yn 2020 gan gontractwr newydd, a fydd yn gorffen y gwaith diogelwch yng nghyswllt Llyn Tynymynydd.

Yn y cyfamser, byddwn yn uwchraddio ffyrdd coedwig lleol ac yn ymgymryd â gwaith cynaeafu a gynlluniwyd o flaen llaw. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gynllunio a’i gyflawni heb darfu.

Disgwylir i’r gwaith yn Llyn Tynymynydd gychwyn yn y gwanwyn yn 2020 a bydd yn cynnwys atgyfnerthu argloddiau ac adeiladu gorlifan greigiau newydd ynghyd â mynediad gweithredol gwell. Disgwyliwn i’r gwaith hwn bara pum mis a byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ym mis Ionawr pan fydd ein contractwr newydd wedi’i benodi.

Ymholiadau

Byddwn yn parhau i reoli gwaith diogelwch er mwyn tarfu cyn lleied ag y bo modd ar dirfeddianwyr, pobl leol, ac ymwelwyr â’r goedwig. Dylid cyfeirio pob ymholiad at Andrew Basford, Rheolwr Prosiect CNC, drwy ffonio: 03000 65 3846 neu anfonwch e-bost at: gwydir.reservoirs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Darllenwch ragor am ein holl brosiectau diogelwch cronfeydd dŵr.

Diweddarwyd ddiwethaf