Gwneud yn siŵr bod Llyn Tegid yn parhau i fod yn ddiogel yn y tymor hir

 

Gwaith Diogelwch ar Gronfa Ddwˆ r Llyn Tegid - Cau Llwybrau 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal gwaith mawr drwy gydol 2022 i sicrhau bod llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid yn y Bala, yn parhau i fod yn ddiogel yn y tymor hir.

Er bod Llyn Tegid yn llyn naturiol, mae angen ei reoli o dan ddeddfwriaeth cronfeydd dŵr gan fod argloddiau'r llyn yn rhoi amddiffynfa rhag llifogydd i dref y Bala. Gwelwyd hyn yn fwyaf diweddar yn sgil glaw trwm Tachwedd 2020 (gweler lluniau o'r digwyddiad hwn a sut roedd y Bala yn arfer cael ei effeithio cyn i amddiffynfeydd y 1950au gael eu hadeiladu).

Mae'r llyn hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth arafu llifoedd a rheoli llifogydd yn Nyffryn Dyfrdwy.

Yn ystod arolygiad gan y Peiriannydd o’r Panel Pob Cronfa Ddŵr (ARPE), codwyd rhai materion ynghylch gallu’r argloddiau i wrthsefyll digwyddiadau eithafol yn y tymor hir, er nad oes pryderon ar hyn o bryd.

Mae’r gwaith ar y gweill ac yn cynnwys cryfhau'r argloddiau ac adnewyddu amddiffyniad carreg glan y llyn yn ei gyfanrwydd. Mae hyn yn rhan o'n gwaith i reoleiddio Llyn Tegid o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac mae'n rhan o raglen barhaus ehangach o waith diogelwch cronfeydd dŵr ledled Cymru.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 19 Mai 2021 a dechreuodd y gwaith ar y safle ar 15 Tachwedd 2021.

Ers 2017, cafwyd sawl trafodaeth werthfawr gyda phobl leol yn archwilio syniadau ar gyfer cyfleoedd cymunedol ehangach fel rhan o'r cynllun. Bydd y rhain hefyd yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r gwaith diogelwch ger llyn, ac yn cynnwys:

  • Gwella llwybrau troed ar gyfer pobl o bob gallu;
  • Creu ardaloedd eistedd newydd;
  • Adfer cynefinoedd gan gynnwys gwelliannau i faes parcio'r llyn;
  • Creu dolydd blodau gwyllt;
  • Cynhyrchu adnoddau i ysgolion lleol eu defnyddio ar gyfer addysg amgylcheddol.

Mae'n drueni fod y gwaith yn golygu torri coed sydd wedi hunan-hadu - ynn yn bennaf - sy'n tyfu yn yr argloddiau ac yn eu gwanhau. Nid oes modd osgoi torri’r coed er mwyn cryfhau'r argloddiau. Ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gadw coed aeddfed lle bynnag y bo modd a byddwn yn plannu tair gwaith yn fwy o goed yn lleol nag y mae'n rhaid i ni eu torri.

Bydd rhaid cau llwybrau troed drwy gydol 2022 a byddwn yn parhau i weithio'n agos â'r gymuned i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosib.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yn nhymor Hydref 2021 a bydd yn parhau tan Wanwyn 2023.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cyfeiriwch y rhain at llyntegid@cyfoethnaturiol.cymru  neu cysylltwch ag Andrew Basford, Rheolwr Prosiect (sy’n dysgu Cymraeg) ar: 03000 653846 neu Sharon Parry, Swyddog Cymorth y Prosiect (sy’n siarad Cymraeg) ar 03000 655264.

Gallwch ddarganfod mwy am y gwaith trwy ddarllen einhatebion i gwestiynau cyffredin.

Diweddarwyd ddiwethaf