Prosiect Cymunedau a Natur (CAN)

Ewrop & Chymru: Buddsoddi yn eich dyfodol logoMae cyfleusterau o ansawdd uchel yn hanfodol i ddenu rhagor o ymwelwyr i ardaloedd gwledig trwy gydol y flwyddyn ac yn darparu swyddi gwerthfawr, cynaliadwy mewn cymunedau lle mae'r angen mwyaf amdanynt.

Roedd y Cynllun Busnes yn gosod tri nod bras ar gyfer y prosiect Cymunedau a Natur:

  • hyrwyddo buddiannau economaidd cyfalaf naturiol trwy gynyddu nifer, hyd a gwerth ymweliadau i gefn gwlad, a thrwy greu swyddi a mentrau
  • sicrhau bod manteision gweithgareddau a gynhaliwyd trwy Cymunedau a Natur yn cael eu rhannu â grwpiau dan anfantais trwy gyfrwng swyddi, hyfforddiant, a chyfleoedd i wirfoddoli
  • gwella datblygiad cynaliadwy yng Nghymru trwy ddarparu cyfleoedd hamdden lleol o ansawdd uchel a gwella atyniad pob ardal cynllun gofodol

Sut y cafodd y prosiect ei gyllido a'i reoli

Roedd Cymunedau a Natur yn brosiect £14.5 miliwn, a gyllidwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Cafodd ei arwain a'i reoli gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, tra bo Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn gweithredu fel noddwr ar y cyd ar gyfer y prosiect Pysgota Gwyllt Cymru.

Roedd y prosiect yn weithredol yn yr Ardal Gydgyfeirio gyfan, ac eithrio ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd, ac roedd yn gweithio'n agos gyda nifer o brosiectau eraill a gyllidwyd trwy'r Thema Amgylchedd ar gyfer Twf.

Gweler y llawlyfr Cymunedau a Natur a Gwerthusiadau Wavehill ac Ysgol Fusnes Caerdydd am ragor o fanylion o ran sut cafodd y prosiect ei reoli, ei ariannu a’i gyflawni.

Cynnyrch a chyflawniadau Cymunedau a Natur

  • 33.5 swydd (cyfwerth ag amser llawn)
  • 12 menter
  • 454 cilometr o fynediad
  • 1,798,147 ymweliad â'r amgylchedd naturiol

Dulliau blaengar

Defnyddiodd Cymunedau a Natur ddulliau blaengar er mwyn sicrhau bod pob menter yn glynu wrth egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol ac yn sicrhau buddion i ymwelwyr, yn ogystal ag i gymunedau o dan anfantais. Rhoddwyd pwyslais ar:

  • Sicrhau bod y cyflenwad o seilwaith newydd, er enghraifft atyniadau i ymwelwyr, yn cyd-fynd â galw newydd trwy gynyddu gwaith marchnata a hyrwyddo
  • Datblygu dulliau monitro sŵn a gwerthuso, a hynny ar lefel ceisiadau ac ar gyfer gweithgarwch Cymunedau a Natur yn ei gyfanrwydd
  • Meithrin arloesedd ar bob lefel
  • Cynyddu capasiti mewn cymunedau

Llawlyfr Cymunedau a Natur

Bwriedir i Llawlyfr Cymunedau a Natur fod yn ganllaw arfer da ar gyfer mentrau Cymunedau a Natur. Mae iddo 12 pennod a phum atodiad.

Mae gan bob menter Cymunedau a Natur ei gofynion ei hun, felly os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth y mae arnoch ei hangen yn y llawlyfr, anfonwch e-bost at can@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Enghreifftiau o brosiectau a gyllidwyd gan y prosiect

Gallwch weld ein Fideo CAN ar YouTube er mwyn clywed gan rai o'n partneriaid a fu'n rhan o'r prosiectau.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf