Drwy’r rhaglen dysgwyd llawer o bethau pwysig ar gyfer mentrau yn y dyfodol sy’n dymuno mynd i’r afael ag anweithgaredd a gwella iechyd, lles a chyflogadwyedd y rhai sydd fwyaf ei angen. Derbyniodd y rhaglen gyllid o £1.1m gan y Loteri Fawr (53%), Llywodraeth Cymru (19%) a Cyfoeth Naturiol Cymru (28%).

Darllenwch Prif Ganlyniadau a Dysgu Allweddol Allan â Ni! a 12 o astudiaethu achos i weld yr hyn a gyflawnwyd ac a ddysgwyd gennym dros dair blynedd a mwy. Mae'r Crynodeb Gweithredol a’r Adroddiad Gwerthuso llawn  ac appendices (a luniwyd gan yr ymgynghorwyr Trilein Ltd a Shepherd and Moyes Ltd) i'w cael yma.

Ymdrin â’r sialens

Mae gweithgareddau awyr agored o fudd i iechyd y meddwl a’r corff, hyder, hunan-barch a chyflogadwyedd. Fodd bynnag, nid yw 70% o drigolion Cymru yn gwneud digon o weithgareddau o’r fath i lwyr elwa ar y manteision hyn. Er bod Cymru yn cynnig sawl cyfle ar gyfer gwneud gweithgareddau awyr agored, mae nifer o bobl angen cymorth penodol er mwyn eu galluogi i oresgyn llu o rwystrau sy’n eu hwynebu cyn y gallant fynd i’r awyr agored a mwynhau’r manteision.

Chwalu’r rhwystrau

Nod dull arloesol Allan â Ni! oedd paru diddordebau a dyheadau pobl â gweithgareddau awyr agored cyffrous a chofiadwy, gan eu galluogi i oresgyn rhwystrau personol a rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o wneud gweithgareddau egnïol.

Llwyddodd Allan â Ni! i alluogi’r rhai a all elwa fwyaf o weithgaredda awyr agored, i fod yn fwy egnïol, ac yn hanfodol i gynnal eu hymgysylltiad, drwy:

 

  • dysgu am natur, awyr y nos, hanes a diwylliant yr ardal, ac archwilio ar droed, ar feic, trwy badlo a thrwy ddefnyddio technoleg newydd
  • datblygu sgiliau awyr agored ‘byw yn y gwyllt’, gwella cynefinoedd, pysgota, adnabod bywyd gwyllt, gwaith coed gwyrdd, creu cerddoriaeth awyr agored a ffotograffiaeth, a datblygu’r sgiliau a’r hyder i arwain eraill yn y gweithgareddau hyn
  • hwyl a gemau awyr agored, gan ddod â chymunedau a theuluoedd yn nes at ei gilydd ac yn nes at natur

Sut yr aethom ati

Llwyddodd Allan â Ni! i gyrraedd y rheini a chanddynt fywydau segur, sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig, trwy dargedu’r sefydliadau cymorth sy’n gweithio gyda hwy, yn y gymuned, pobl ifanc a sectorau gofal iechyd a chymdeithasol. Cafodd y gweithwyr cymorth eu hysbrydoli a’u cymell i ymuno â darparwyr awyr agored lleol a chawsant feithrin y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio gweithgareddau awyr agored mewn gwyrddfannau lleol, fel rhan o’u darpariaeth gwasanaethau.

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am y llu o weithgareddau y mae mwy nag 80 o grwpiau’n cymryd rhan ynddynt, edrychwch ar y Diweddariadau Rhaglen isod, ar gyfer Mai 2014 i Dachwedd 2015.

Mae’r ddogfen Prif Ganlyniadau a Dysgu Allweddol yn grynodeb dwy dudalen o’r Adroddiad Gwerthuso terfynol. Hefyd gweler isod Grynodeb Gweithredol o'r adroddiad terfynol.

Isod gellir lawrlwytho 12 o astudiaethau  sy’n cynrychioli hyd a lled y rhaglen a’r effaith a gafodd ar sefydliadau ac unigolion.

Er mwyn galluogi grwpiau cymunedol a darparwyr gwasanaethau i feddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer bod yn gyfrifol amdanynt eu hunain a’u grwpiau mewn gweithgareddau awyr agored lefel isel, rydym wedi datblygu Rhaglen Ddysgu Gweithgareddau Awyr Agored Allan â Ni!. Mae’r rhaglen wedi’i hachredu gydag Agored Cymru.

I gysylltu, anfonwch e-bost at: juliet.michael@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf