Asesu gweithgareddau pysgota Cymru

Ynglŷn â’r prosiect

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar brosiect i werthuso effaith pysgota ar nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru. 

Bydd yr allbynnau o Brosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru yn:  

  • Sicrhau ein bod yn diogelu ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru
  • Cyfrannu at ddefnyddio pysgod môr yn gynaliadwy
  • Sicrhau bod yr amgylchedd morol yn fwy sefydlog

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn cynnal nifer o asesiadau, gan ddechrau gyda’r hyn sydd â’r risg mwyaf, megis offer symudol ar gynefinoedd riff sensitif. Mae deugain o’r rhain sydd wedi eu hasesu’n ‘borffor’ bellach wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ac i’w gweld ar gwaelod y dudalen yma.

Bydd allbynnau’r Prosiect hwn yn cefnogi amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd drwy gyfrannu at y broses o reoli’r amgylchedd morol yn gynaliadwy.

Cewch wybod mwy o fanylion yn y dogfennau y byddwn yn eu defnyddio i lywio’r gwaith asesu:

Asesiadau Ystyrir yn 'Borffor'

Fe weithiodd CNC fel cynghorydd cadwraeth natur statudol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru fel rheoleiddiwr pysgodfeydd morol Cymru i gynhyrchu’r asesiadau canlynol ystyrir yn borffor. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r drysorfa dystiolaeth dryloyw hwn yn fel gwybodaeth ar gyfer reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn y dyfodol.

Roedd yr asesiadau i gyd wedi elwa o ymarfer sicrhau ansawdd allanol a mewnol.

Mae pob asesiad yn cynnwys y canlynol:

  • disgrifiad o’r nodwedd
  • disgrifiad o’r offer
  • asesiad o’r llwybrau effaith amrywiol rhwng yr offer a’r nodwedd
  • disgrifiad o ble mae’r nodweddion i’w gweld o fewn yr Ardal Forol Warchodedig
  • casgliad a chyfeiriadau

Maerl

Peat and clay exposures

Sabellaria spp. reef

Seagrass (SACs)

Submarine structures made by leaking gases

Subtidal bedrock reef

Subtidal boulder and cobble reef

Subtidal mussel bed on rock

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf