Asesu gweithgareddau dyframaethu Cymru
Ynglŷn â’r prosiect
Mae prosiect asesu gweithgareddau dyframaethu Cymru wedi’i sefydlu i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a rheoli adnoddau dyframaethu’n gynaliadwy.
Bydd y prosiect yn asesu ac yn mapio sensitifrwydd cynefinoedd a rhywogaethau morol i effeithiau amrywiaeth o weithgareddau dyframaethu, gan nodi'r cyfleoedd mwyaf amgylcheddol gynaliadwy ar gyfer datblygu dyframaeth ac i'r gwrthwyneb yn nodi meysydd lle ceir cyfyngiadau posibl.
Bydd y prosiect yn cefnogi cynlluniau morol yng Nghymru drwy ddarparu cyfres o adnoddau cyffredin, tryloyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer datblygwyr, rheoleiddwyr a chynghorwyr.
Adnoddau’r prosiect
- Cronfa ddata o dystiolaeth ar effeithiau gweithgareddau dyframaethu;
- Taenlen rhyngweithiadau sy'n dangos sensitifrwydd cynefinoedd a rhywogaethau i wahanol weithgareddau dyframaethu;
- Asesiadau o weithgareddau dyframaethu sy’n seiliedig ar dystiolaeth; a
- Mapiau’n nodi sensitifrwydd biotopau cynefinoedd a rhywogaethau i weithgareddau dyframaethu.
Cyllid y prosiect
Cefnogir y prosiect gan yr UE drwy Weinidogion Cymru ac mae'n cael ei ariannu'n llawn gan Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop.
Cwmpas daearyddol y prosiect
Cwmpas daearyddol y prosiect yw 'Parth Cymru', a ddiffinnir fel y rhan honno o'r môr sydd o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain sy’n gyfagos i Gymru.
Ffigur 1: cwmpas daearyddol y prosiect
Cynefinoedd a rhywogaethau a ystyrir yn y prosiect
Bydd y prosiect yn cynnwys cynefinoedd rhynglanwol ac islanwol y gwyddys eu bod yn bresennol yn nyfroedd Cymru. Ni fydd cynefinoedd arfordirol a'u rhywogaethau cydrannol yn cael eu hystyried yn y prosiect.
Efallai y bydd rhai cynefinoedd a rhywogaethau yn cael eu hepgor o gwmpas y prosiect os ystyrir bod gweithgareddau dyframaethu yng Nghymru yn annhebygol o ryngweithio â'r nodweddion hyn nawr ac yn y dyfodol.
Bydd y cynefinoedd a'r rhywogaethau morol a ystyrir gan y prosiect yn cynnwys y rhai y cyfeirir atynt o dan ddeddfwriaeth amrywiol megis
- Y Gyfarwyddeb Cynefinoedd
- Y Gyfarwyddeb Adar
- Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009
- Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
Cyflawni’r prosiect
Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni gan ABPmer Ltd. ar ran CNC. Dechreuodd y prosiect ym mis Rhagfyr 2021 a bydd yn cwblhau'r holl dasgau erbyn mis Mehefin 2023. Amlinellir y dull o gyflawni'r tasgau cydgysylltiol hyn, ynghyd â'r rhaglen waith gysylltiedig, yn yr adroddiad cychwynnol hwn.
Tasgau’r prosiect
Tasgau |
Dyddiad (diwedd y mis) |
---|---|
Adroddiad cychwynnol |
Ionawr 2022 |
Cwblhau’r gronfa ddata o dystiolaeth a sgorio o ran sensitifrwydd |
Gorffennaf 2022 |
Cwblhau’r profforma asesu a’r daenlen rhyngweithiadau y cytunwyd arnynt |
Medi 2022 |
Cwblhau’r asesiadau o weithgareddau dyframaethu |
Chwefror 2023 |
Cwblhau’r mapiau sensitifrwydd |
Ebrill 2023 |
Cyhoeddi’r adroddiad terfynol |
Mehefin 2023 |
Adroddiad cychwynnol y prosiect
Mae adroddiad cychwynnol y prosiect yn cyflwyno gwybodaeth am gwmpas ac amcanion prosiect asesu gweithgareddau dyframaethu Cymru ac yn rhoi disgrifiad lefel uchel o'r dull ar gyfer pob un o'r tasgau a sut y caiff yr amcanion eu cyflawni. Darperir tybiaethau allweddol lle y bo'n briodol.
Asesu gweithgareddau dyframaethu Cymru adroddiad cychwynnol
Diweddariadau rheolaidd ar y prosiect
Bydd diweddariadau ysgrifenedig ar y prosiect yn cael eu cynhyrchu bob dau fis, gan ddechrau ym mis Chwefror 2022 a pharhau drwy gydol y prosiect hyd nes y bydd wedi’i gwblhau. Bydd y diweddariadau hyn yn cael eu rhannu ar e-bost i grŵp o randdeiliaid. Os hoffech dderbyn y diweddariadau ysgrifenedig, cysylltwch â colin.charman@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Adroddiad terfynol y prosiect a chanllawiau i ddefnyddwyr
Bydd yna adroddiad terfynol yn crynhoi allbynnau'r prosiect ac yn rhoi arweiniad ar gyfer cymhwyso'r adnoddau a gynhyrchir, gan dynnu sylw'n glir at y ffaith bod yr allbynnau generig yn fan cychwyn i ffermwyr, rheoleiddwyr a chynghorwyr dyframaethu ystyried eu cynigion penodol. Tynnir sylw at unrhyw fylchau yn y dystiolaeth, cyfyngiadau, rhagdybiaethau, cyffredinoliadau a'r gwersi a ddysgwyd.