Gwybodaeth am waith coedwig Sirhywi

Y diweddaraf am y coronafeirws

Rydym yn parhau â'n gwaith cynaeafu er mwyn helpu i gyflenwi cynnyrch coed. Mae hyn yn helpu i gynnal gwasanaethau hanfodol yn y sectorau iechyd, bwyd ac ynni.

Mae ein holl safleoedd coedwigaeth yn cael eu gwirio'n llym er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu’n unol â chanllawiau llywodraethol cyfredol o ran y coronafeirws a mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Rydym yn cadw mewn cysylltiad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a byddwn yn adolygu ein gweithdrefnau yn ddyddiol er mwyn cadw ein staff, ein contractwyr, ein cwsmeriaid a'n partneriaid yn ddiogel.

Canfyddwch ragor am ein hymateb i bandemig y coronafeirws.

Cael gwared ar goed llarwydd

Ym mis Ebrill y llynedd, cychwynnodd gwaith i gael gwared ar oddeutu 70 o hectarau o goed llarwydd heintiedig o Ddyffryn Sirhywi, oedd wedi’u heintio â phytophthora ramorum, a elwir fel arfer yn glefyd llarwydd.

Bellach mae’r gwaith hwn wedi ei gwblhau ac mae gwaith wedi dechrau i ailosod y llwybrau cerdded.

Hoffem ddiolch i aelodau’r gymuned leol am eu hamynedd tra’r oeddem yn cyflawni’r gwaith pwysig hwn.

Clefyd llarwydd

Mae clefyd y llarwydd, neu phytophthora ramorum, yn glefyd sy’n debyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau ymysg amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd llarwydd yn ymledu â sborau drwy’r awyr, o goeden i goeden. Nid yw’n fygythiad i iechyd dynol nac i iechyd anifeiliaid.

Er na allwn atal clefyd coed llarwydd rhag ymledu, gallwn gymryd camau i’w arafu.

Yn 2013, canfu arolygon fod clefyd llarwydd yn ymledu’n gyflym ar draws coedwigoedd yng Nghymru, gan sbarduno strategaeth genedlaethol i gael gwared ar goed heintiedig er mwyn atal y clefyd rhag ymledu ymhellach.

Mae’r clefyd wedi heintio oddeutu 6.7 miliwn o goed llarwydd ledled Cymru gyfan ac mae wedi cael effaith enfawr ar ein coedwigoedd.

Mae gofyniad cyfreithiol arnom i gael gwared ar goed llarwydd heintiedig o dan yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol – Symud, a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru.

Mynediad i goedwigoedd

Pan ddechreuodd y gwaith hwn y llynedd, yn anffodus bu’n rhaid inni gau’r coedwig i’r cyhoedd. 

Nid ydym yn hoffi cau ein coedwigoedd, y mae cynifer yn eu mwynhau, ond dyma'r ffordd fwyaf diogel o drefnu i'r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.

Bellach mae rhan helaeth o’r goedwig wedi ailagor i ymwelwyr, ond bydd mân gyfyngiadau a gwyriadau mewn grym tra bydd y gwaith ailosod yn mynd rhagddo a thra bydd y broses o ailstocio yn dechrau.

Dylech barhau i ufuddhau i’r arwyddion diogelwch a’r gwyriadau o fewn y goedwig.

Enillion o werthu’r pren

Gall hyd yn oed pren o goed llarwydd heintiedig gael ei brosesu a'i ddefnyddio. Ar ôl ei brosesu, gellir ei ddefnyddio i greu nifer o gynhyrchion pren, gan gynnwys deunyddiau adeiladu, paledi, ffensys a phelenni tanwydd coed.

Mae’r holl incwm o werthu pren yn mynd tuag at y costau gweithredu sy’n dod i’n rhan drwy reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Mae ein costau’n fwy na’r refeniw a gynhyrchir o werthu pren, ac felly rydym hefyd yn cael cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn ein galluogi i barhau i ddarparu llawer o gyfleusterau yn ddi-dâl ledled Cymru er budd cymunedau lleol ac ymwelwyr.

Tymor nythu adar

Cyn i'r gwaith ddechrau, buom yn gweithio'n agos ag arolygwr adar i arolygu'r safle’n drylwyr i ganfod unrhyw adar oedd yn nythu yno. Gosodwyd parth gwahardd  o amgylch unrhyw nythod a ganfyddwyd a bu’r timau yn gweithio o amgylch yr ardal nes oedd yr adar wedi gorffen bridio ac wedi gadael y nyth.

Darllenwch ragor am gwympo coed yn ystod y tymor nythu adar.

Cadw coed llydanddail brodorol

Er ein bod yn ceisio cadw cymaint o goed llydanddail ag sydd bosibl pan fyddwn yn cynaeafu, weithiau gall coed ddod yn ansefydlog ar ôl cael gwared o’r coed llarwydd a gallant fod yn beryglus.

Ar ôl cael gwared o’r llarwydd, darganfu ein hymchwiliadau diogelwch fod rhai coed llydanddail ar ochr y ffordd wedi dod yn ansefydlog a’u bod mewn perygl o syrthio. Yn anffodus, bu’n rhaid cael gwared o’r rhain er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Ailblannu

Draft restocking plan

Byddwn yn ailblannu dros y tri thymor plannu nesaf, sef rhwng mis Tachwedd a mis Ebrill. Rydym yn plannu yn y gaeaf gan fod arnom angen i’r coed fod ynghwsg cyn y gall y feithrinfa godi’r coed a’u cludo er mwyn inni eu plannu yn ein coetiroedd.

Mae Dyffryn Sirhywi yn Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol (PAWS) a byddwn yn ei ailblannu â choed llydanddail brodorol sy’n fwy gwydn ac yn helpu i sicrhau’r safle ar gyfer y dyfodol. Gallwch ddarllen rhagor am ein gwaith ailstocio yn yr adran newyddion.

Mae Planhigfeydd ar Safle Coetir Hynafol yn safleoedd y credir iddynt fod wedi’u gorchuddio â choed ers dros 400 mlynedd yn ddi-dor ac sydd â brigdwf y mae dros 50 y cant ohono’n rhywogaethau coed conwydd anfrodorol ar hyn o bryd. Ers 2011, mae 5,000ha o Goetir Hynafol wedi’i nodi ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, yr ydym yn ei rheoli.

Adborth

Rydym yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr y safle fel y gallwn leihau anghyfleustra ac i wella ein gwaith.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb yma neu os hoffech roi adborth inni ynglŷn â’n dulliau cyfathrebu, cysylltwch â ni:

Ymholiadau cyffredinol: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ffôn: 0300 065 3000 (Llun-Gwe, 9am - 5pm) Gwasanaeth Minicom: 03702 422 549**

Diweddarwyd ddiwethaf