Gwybodaeth am waith coedwig Cefn Coed Pwll Du (Caerffili)
**Diweddariad**
Sylwch fod gwaith i gael gwared ar goed llarwydd heintiedig wedi'i ohirio yn y coetir hwn oherwydd adar sy'n nythu a chyfyngiadau yn ymwneud â phathewod.
Nid ydym yn disgwyl i waith ailddechrau tan fis Medi 2021.
13 Ionawr 2021
Cael gwared ar goed llarwydd
Rydym yn torri coed er mwyn cydymffurfio â Hysbysiad Iechyd Planhigion a gyhoeddwyd ar gyfer coed llarwydd yn y goedwig. Mae’r llarwydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum (clefyd llarwydd).
Disgwylir cwblhau’r gwaith erbyn mis Mai 2021.
Clefyd llarwydd
Mae clefyd y llarwydd, neu phytophthora ramorum, yn glefyd sy’n debyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau ymysg amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd llarwydd yn ymledu â sborau drwy’r awyr, o goeden i goeden. Nid yw’n fygythiad i iechyd dynol nac i iechyd anifeiliaid.
Er na allwn atal clefyd coed llarwydd rhag ymledu, gallwn gymryd camau i’w arafu.
Yn 2013, canfu arolygon fod clefyd llarwydd yn ymledu’n gyflym ar draws coedwigoedd yng Nghymru, gan sbarduno strategaeth genedlaethol i gael gwared ar goed heintiedig er mwyn atal y clefyd rhag ymledu ymhellach.
Mae’r clefyd wedi heintio oddeutu 6.7 miliwn o goed llarwydd ledled Cymru gyfan ac mae wedi cael effaith enfawr ar ein coedwigoedd.
Mae gofyniad cyfreithiol arnom i gael gwared ar goed llarwydd heintiedig o dan yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol – Symud, a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru.
Mynediad i goedwigoedd
Bydd y goedwig yn dal ar agor, ond er diogelwch ymwelwyr fe gyfyngir ar y mannau y mae’r clefyd wedi effeithio arnynt.
Bydd y maes parcio ar gau tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo fel bod cerbydau cludo coed yn medru mynd a dod, ac er diogelwch pawb sy’n defnyddio’r goedwig.
Diogelwch
Ufuddhewch yr holl arwyddion yn y goedwig, er eich diogelwch eich hun a’n gweithwyr, a chadwch mewn cof y bydd wagenni’n mynd a dod ar hyd y ffyrdd yn y goedwig. Camwch o’r neilltu i adael iddynt fynd heibio.
Ailblannu
Mae CNC yn rheoli ei goetiroedd yn gynaliadwy ac wedi’i ardystio o dan Gynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Gyfunol.
Sefydlir coed newydd yn lle’r rhai y byddwn yn eu torri.
Mae’r goedwig hon wedi’i dynodi yn Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol.
Polisi Llywodraeth Cymru yw adfer y safleoedd hyn ac felly coed llydanddail brodorol fydd y rhai newydd.
Caiff y safleoedd dan sylw eu hail-goedio drwy gyfuniad o blannu ac adfywiad naturiol. Bydd hynny’n sicrhau dwysedd priodol yn y goedwig ac yn golygu bod y coed yn addasu’n dda i’w hamgylchedd a thyfu’n gryf yn y dyfodol.
Cyflwr y tir
Oherwydd y dull cynaeafu, bydd rhai tocion yn cael eu gadael ar y safle.
Bydd mwyafrif y coed yn yr ardal dorri yn cael eu winsio i beiriant prosesu sydd uwchben yr ardal dorri. Mae hyn yn tueddu i arwain at safle gweddol glir gan fod y tocion yn cael eu gadael ar frig y safle. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar ansawdd y pren, mae’n bosibl y bydd malurion yn cael eu gadael ar y safle. Os yw'r pren wedi'i heintio â chlefyd y llarwydd ers peth amser, gall canghennau/coesynnau fod yn fregus a thorri yn ystod y broses winsio.
Os oes ardaloedd gwastad, bydd y rhain yn cael eu cynaeafu â pheiriant. Bydd y tocion yn cael eu gosod o flaen y peiriant i leihau’r difrod i’r ddaear drwy gywasgiad. Bydd rhesi o docion wedyn ar draws y safle lle gyrrwyd y peiriant.
Bydd perygl tân y safle yn cael ei asesu yn ystod y gwaith ac ar ôl ei gwblhau.
Tymor nythu adar
Cyn i'r gwaith ddechrau, buom yn gweithio'n agos gydag arolygwr adar i arolygu'r safle’n drylwyr i ganfod unrhyw adar sy'n nythu. Bydd parth gwahardd yn cael ei osod o amgylch unrhyw nythod a ganfyddir a bydd y timau'n gweithio o amgylch yr ardal nes bod yr adar wedi gorffen bridio ac wedi gadael y nyth.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar ein gwefan.
Adborth
Rydym yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr y safle fel y gallwn leihau anghyfleustra ac i wella ein gwaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb yma neu os hoffech roi adborth inni ynglŷn â’n dulliau cyfathrebu, cysylltwch â ni:
Ymholiadau cyffredinol: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ffôn: 0300 065 3000 (Llun-Gwe, 9am - 5pm) Gwasanaeth Minicom: 03702 422 549**