Ymgyrch plannu newydd Glastir

Digwyddiadau ymwybyddiaeth y cyhoedd Cyswllt Ffermio mis Medi


Agorwyd trydydd cyfnod Mynegiant Diddordeb ar gyfer Creu Coetir Glastir ar 30ain o Awst 2016 a bydd yn cau ar 14eg o Hydref 2016 am hanner nos.

Gwahoddir chi i ymuno â ni i ddysgu mwy am fenter Creu Coetir Glastir a’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael ar gyfer gwaith plannu newydd.

  • Y mathau o dir, pridd a phlannu’r goeden gywir yn y man cywir.
  • Dyluniad plannu ar gyfer lleiniau cysgod a sefydlu coetir.
  • Gwybodaeth ar sut gall plannu coed fod o fantais ac o gymorth i gynhyrchu ffrwd incwm i’r busnes.
  • Cod carbon - cyfleoedd i greu ffrwd incwm ychwanegol - ffeithiau a ffigyrau.

Dyddiad / Amser

Lleoliad

20 Medi 2016   19.00 - 21.00

Coleg Glynllifon College, Ffordd Clynnog, Caernarfon, LL54 5DU

21 Medi 2016   19.00 - 21.00

The Livestock Market, Warren Road, Aberhonddu , LD3 8EX

27 Medi 2016  19.00 - 21.00

Coed Cymru, Tregynon, Y Drenewydd , Powys, SY16 3PL



Am fwy o wybodaeth, neu i archebu lle, cysylltwch â Geraint Jones - 07398178698 / geraint.jones@menterabusnes.co.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru