Bob mis mae ein timau’n ysgrifennu blog am y llefydd arbennig maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Yma, Kevin Dupé, Rheolwr Gwarchodfa Natur, sy’n sôn am aderyn y bwn prin sy’n atsain yn ystod côr hudolus y bore bach yng Ngwlyptiroedd Casnewydd.

Mae gan Warchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd dros 58 hectar o wely cyrs sy’n gynefin prin iawn ond pwysig. Fe gawson nhw eu creu ar hen lagwnau llwch wedi ei falu’n fân o’r gorsafoedd pŵer glo cyfagos 20 mlynedd yn ôl gyda’r nod o ddarparu cynefin i adar y bwn fridio ynddo.

Mae adar y bwn yn fath prin o grëyr sy’n byw mewn gwelyau cors yn unig ac mae eu gallu cuddio’n anhygoel. Maen nhw’n hela pysgod, amffibiaid a mamaliaid bach ar hyd ymyl y cyrs – po fwyaf o ‘ymyl’ sydd i’r gwely cyrs, y mwyaf o gynefin sydd i adar y bwn hela ynddo.

Mae’r gwelyau cors i’w gweld 5m yn uwch na gweddill Gwastadeddau Gwent a does dim dŵr yn llifo i mewn iddyn nhw. Yr unig gyflenwad dŵr yw glaw ac rydyn ni’n cael digon o hwnnw, diolch byth!

Pan grëwyd y gwelyau cors doedden nhw ddim yn cynnwys pysgod o gwbl ond bydd crethyll yn canfod eu ffordd i unrhyw ddŵr yn go gyflym - dywed rhai bod eu hwyau’n glynu at draed hwyaid!

Mae llyswennod yn gallu teithio pellter byr ar y tir ac yn sicr fe allen nhw ganfod ffordd i fyny’r gollyngfeydd o’r gwely cyrs. I wneud pethau’n haws iddyn nhw fe osodon ni “ysgolion llyswennod ifanc” sef pibelli gyda rhaff a rhwyd y tu mewn iddyn nhw a diferion cyson o ddŵr.

Tua 8 mlynedd yn ôl fe gyflwynon ni dros 4,000 o bysgod rhudd bach. Mae’r rhain yn ysglyfaeth ddelfrydol i adar y bwn gan eu bod yn bwydo ger yr wyneb. Fe dyfon nhw’n gyflym a dechrau magu, gan ddarparu bwyd gwych hefyd i fulfrain, gwyachod a dyfrgwn.

Fe ddechreuon ni dorri pyllau a sianeli yn y gwelyau cors i helpu i greu mwy o ‘ymyl’ iddyn nhw.

Fe wnaethon ni hyn â llaw i ddechrau drwy ddefnyddio peiriant torri gwair y mae angen cerdded y tu ôl iddo a chribinio’r cyrs, ond nawr mae gennym ni beiriant torri cyrs amffibiaidd o’r enw Truxor sy’n gallu torri’r cyrs a’u cribinio. Rydym yn ei ddefnyddio ar ein safleoedd ledled Cymru.

Bob mis Chwefror dwi’n treulio tua phythefnos yn defnyddio’r Truxor yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Mae’n waith pleserus, er ei bod hi’n gallu mynd yn oer iawn wrth eistedd mewn cab agored am 7 awr y dydd ym mhob tywydd.

Roedd hi’n eithaf sych a mwyn iawn eleni. Fe gymerais tua 5 diwrnod i dorri pobman oedd angen ei dorri - ar hyd y sianeli dŵr dwfn i atal y cyrs rhag tyfu drosodd, ar hyd y sianeli i’r cyrs ac o amgylch ymyl y pyllau.

Do’n i heb weld aderyn bwn o gwbl ond wrth i mi orffen y gwaith torri a ‘hwylio’ i fyny’r sianel ddofn i fynd allan o’r gwely cyrs, daliodd rhywbeth fy llygaid.

Ai aderyn y bwn oedd yno yn sefyll ar ymyl y cyrs ro’n i newydd eu torri?

Roedd yn sefyll tua 60m o’m mlaen i a doedd gen i ddim sbienddrych, ond fel ro’n i’n nesáu ro’n i’n siŵr mai aderyn y bwn oedd o.

Diffoddais injan y Truxor a symudodd yn dawel yn agosach ac agosach. Tynnais luniau gyda’r camera ar fy ffôn. Roedd yn cuddio mor dda fel ei bod hi’n amhosib ei weld yn y lluniau! Fe ddes i o fewn 20 meter cyn iddo hedfan i ffwrdd.

Ro’n i wedi bod yn gweithio yn y rhan honno o’r gwely cyrs am 2 awr ac wedi pasio’r rhan honno o leiaf 3 gwaith. Mae’n rhaid bod yr aderyn newydd hedfan i mewn ar ôl i mi basio y tro olaf a drannoeth roedd i’w glywed yn atseinio o’r un rhan o’r gwely cyrs - mae’n rhaid ei fod yn gwerthfawrogi fy ngwaith i!

Ond faint o adar y bwn soniarus sydd yno?

Bob blwyddyn rydym ni’n cynnal arolwg gan ddefnyddio’r arolwg safonol sy’n rhaid ei gynnal 2 awr cyn y wawr. Mae hyn yn golygu cerdded ar hyd llinell syth gyda sawl pwynt gwrando bob 200m lle byddwch yn stopio a gwrando am 10 munud ac mae angen digon o bwyntiau i glywed yr atsain unrhyw le yn y gwely cyrs.

Cyn cychwyn allan i wneud arolwg eleni gosodais y cloc larwm ar 4.45am ond fe ddeffrais a’i ddiffodd ychydig eiliadau cyn iddo ganu!!

Mae côr bore bach Gwlyptiroedd Casnewydd yn anhygoel a’r awr cyn y wawr yw amser mwyaf hudol y dydd.

Roedd rhegennod y dŵr yn gwichian fel moch o’m cwmpas, clywais ditw barfog yn tincian fel cloch fach cyn ei weld yn hedfan dros y cyrs. Hwyliodd boda’r gwerni uwch fy mhen, tra bod y gwyachod yn “swnian” fel merlod.

Yna, clywais un atsain gwan yn dod o gyfeiriad nad oedd yn bell o’r lleoliad lle ro’n i wedi gweld aderyn y bwn bythefnos ynghynt. Roedd y sŵn fel petai rhywun yn chwythu ar draws pen potel laeth wydr (gwrandewch ar fy fideo’n ofalus gyda’r sain i fyny ac fe allwch ei glywed). Cafwyd rhagor o sŵn 2 funud yn ddiweddarach yna 10 munud wedyn gwelais aderyn y bwn yn hedfan allan o’r cyrs tua’r gorllewin.

Ddwy funud wedyn clywais 5 o synau cryf iawn, ond i’r dwyrain – felly roedd yna 2 wryw soniarus. Canodd yr aderyn mwyaf swnllyd 9 gwaith arall – 5 gwaith bob tro yn y 30 munud nesaf.

Yna, daeth y wawr a thawelodd y sŵn. Roedd hi wir yn werth codi cyn y wawr.

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru