Planhigion cigysol yng Nghymru
Cors Fochno, ger Aberystwyth, yw un o’r enghreifftiau mwyaf a gorau sydd ar ôl o gyforgors fawn ym Mhrydain.
Mae llawer o rywogaethau prin ac anghyffredin yn byw yma yn cynnwys gwrid-y-gors a’r fursen fach goch. Mae’n gartref hefyd i blanhigion cigysol sy’n derbyn eu maetholion o bryfed yn hytrach nag o’r pridd.
Dyma Reolwr Gwarchodfa Dyfi Ynyslas, Justin Lyons, i ddweud mwy…
Mae angen i blanhigion sy’n tyfu ar gyforgors allu goroesi ar bridd mawnaidd gwlyb sy’n brin iawn o faetholion.
Er mwyn helpu i oresgyn hyn, mae llawer o’r planhigion wedi datblygu addasiadau diddorol iawn, felly mae corsydd yn fannau deniadol iawn i blanhigion cigysol - planhigion sy’n derbyn rhai o’r maetholion sydd eu hangen arnynt trwy ddal a threulio pryfed yn hytrach na thrwy’r pridd.
Mae gan Gors Fochno chwe rhywogaeth o blanhigion cigysol - tri math o wlithlys a dau fath o chwysigenddail a thafod-y-gors.
Mae gwlithlysau ychydig fel papur gludiog i ddal pryfed, mae ganddynt wallt hir tebyg i ymestyniadau coch sy’n cynhyrchu hylif gludiog melys sy’n denu yn ogystal â maglu pryfed.
Unwaith mae pryfyn wedi’i ddal, mae’r planhigion yn rhyddhau ensymau treulio a gallant wedyn amsugno’r maetholyn hanfodol. Y maetholion mwyaf hanfodol yw nitrogen, ffosfforws a photasiwm, ac mae’n rhaid i blanhigion gael y rhain i dyfu.
Beth yw maint y pryfyn mwyaf mae gwlithlysau’n ei ddal?
Mae’r wlithlysen fawr yn brin ond mae i’w gweld ar Gors Fochno ar y darn iachaf o’r gors. Mae’n tyfu ar lawntiau mawr o figwyn euraidd ac yn gallu dal ysglyfaeth hyd at faint was y neidr!
Gwelais un o ryfeddodau mwyaf dirgel bywyd gwyllt ar Gors Fochno un tro pan oedd ysgol leol yn ymweld, a buon ni’n edrych ar ardal o wlithlys hirddail sydd weithiau’n ffurfio ardaloedd mawr ar fawn noeth.
Yn rhyfeddol, ar un ardal fach o wlithlys, roedd dros ugain mursen las llachar farw neu ar fin marw. Deuthum i’r casgliad bod benyw wedi cael ei dal yno ond yna wedi denu llu o ddarpar bartneriaid, gyda’r rheiny’n cael eu gludo i’r planhigyn o ganlyniad.
Ceir tafod-y-gors mewn pyllau bas o ddŵr agored ar y gors. Mae’r planhigion rhyfedd hyn yn ffurfio chwysigod bach llawn aer o dan y dŵr. Mae gan y chwysigen ddrws trap colfachog. Mae unrhyw bryfyn bychan yn y dŵr sy’n taro’r drws trap yn cael ei sugno i mewn i’r chwysigen ac mae’r drws yn cau’n glep. Mae’r pryfyn wedyn yn cael ei dreulio ac mae’r maetholion sy’n angenrheidiol ar y planhigyn yn cael eu hamsugno.
Bydd niferoedd yr holl blanhigion pryfysol yn gostwng os daw llygredd o’r dŵr daear neu o’r aer sy’n darparu maetholion gan fod hynny’n aml yn rhoi mantais gystadleuol i blanhigion mwy cyffredin sy’n hoffi maetholion.
Ein Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE
Mae corsydd iach yn fanteisiol iawn i fywyd gwyllt ac i bobl. Maen nhw’n helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd trwy storio symiau enfawr o garbon, maen nhw’n gynefin i blanhigion ac anifeiliaid prin, ac yn llefydd gwych i bobl ymweld â nhw ac i fwynhau’r awyr agored.
Cors Fochno yw un o’r saith lleoliad gaiff ei gynnwys ym Mhrosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE fydd yn helpu i wella cyflwr rhai o leoliadau’r cyforgorsydd pwysicaf yng Nghymru.