Gwirfoddolwr LIFE Afon Dyfrdwy

Mae hwn yn lleoliad di-dâl a gynigir fel cyfle i fagu sgiliau a rhannu profiad ac arbenigedd fel rhan o dîm Cyfoeth Naturiol Cymru i'n helpu i gynnal a chyfoethogi amgylchedd naturiol gwerthfawr Cymru.

Teitl y lleoliad:

Gwirfoddolwr LIFE Afon Dyfrdwy

Math o leoliad:

Lleoliad Gwirfoddol CNC

Cyfarwyddiaeth:

Gweithrediadau Gogledd a De

Tîm

LIFE Afon Dyfrdwy

Cydweithredwr allanol (os yn berthnasol)

Amherthnasol

Lleoliad:

Gogledd Cymru - yn ddelfrydol o fewn dalgylch y Ddyfrdwy. 

Rhif lleoliad:

NRW22.23-026

Rheolwr y Lleoliad:

Joel Rees-Jones

Arweinydd Tîm – LIFE Afon Dyfrdwy

Joel.rees-jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

07776 474308

Dyddiad dechrau:

27 Chwefror 2023

Dyddiad gorffen:

31/12/2024

Patrwm gwaith:

O leiaf 1 diwrnod yr wythnos.  Byddai hyblygrwydd yn fuddiol yn dibynnu ar y gwaith sydd ei angen  

Lleoliad:

Gogledd Cymru - yn ddelfrydol o fewn dalgylch y Ddyfrdwy. 

Y Gymraeg:

Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Saesneg er bod llawer o aelodau'r tîm yn siarad Cymraeg. 

Diben ylleoliad:

Byddwch yn cynorthwyo swyddogion prosiect LIFE Afon Dyfrdwy i gyflawni amcanion o dan y rhaglen LIFE Afon Dyfrdwy. 

Tasgau allweddol y lleoliad:

Cynorthwyo’r swyddog monitro i gasglu a gwerthuso data i ddangos effeithiau ymyriadau.

Cynorthwyo swyddogion Adfer Afonydd i lunio cynlluniau, gwneud ceisiadau am ganiatâd/trwyddedau a rheoli safleoedd yn ystod y gwaith.

Cymwysterau neu wybodaeth allweddol i’r lleoliad:

Trwydded yrru lawn y DU (bydd cerbyd CNC ar gael, ond byddai’n fuddiol pe bai ganddynt yswiriant busnes ar eu cerbyd eu hunain.  Telir cyfraddau milltiredd yn unol â CThEM os defnyddir cerbyd personol at ddibenion gwaith)

Mae’r gallu i nofio yn hanfodol - bydd angen hyfforddiant gweithio mewn dŵr sy'n cynnwys hyfforddiant achub brys ymarferol yn yr afon. 

Yr hyn y byddwch yn ei wneud:

Bydd y gwaith yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Arolygon pysgota trydanol
  • Cynorthwyo i gasglu data trwy osod tagiau acwstig
  • Arolygon cynefinoedd
  • Cynorthwyo i ysgrifennu Cynlluniau Rheoli Safle, Asesiadau’r Fframwaith Cyfarwyddeb Dŵr, Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd a thrwyddedau eraill yn ôl yr angen
  • cynorthwyo gyda gwaith cyfathrebu a thynnu lluniau
  • Cynorthwyo gyda goruchwylio contractwyr ar y safle yn ystod gwaith ar ymyriadau (ffensio/gosod wal gynnal/plannu coed, symud cored)

Bydd angen gweithio ar eich pen eich hun ar adegau - bydd hyn yn cael ei reoli drwy gynllun cyfeillio gydag aelod arall o staff i sicrhau diogelwch.

Darperir hyfforddiant llawn.

Y bobl y byddwch yn gweithio gyda nhw

Byddwch yn gweithio gyda thîm LIFE Afon Dyfrdwy ar draws holl waith y prosiect.  Gan ddibynnu ar waith prosiect presennol bydd hyn yn cynnwys Swyddogion Adfer Afonydd, Swyddogion Rheoli Tir, Swyddog Monitro, a’r Swyddog Cyfathrebu. 

Mae’n bosibl y bydd potensial i weithio gyda thimau eraill o fewn CNC os bydd y cyfle’n codi. 

Ble y byddwch chi'n gweithio

Byddwch yn gweithio ar draws dalgylch Afon Dyfrdwy ar bob agwedd ar y prosiect.  Efallai y bydd cyfleoedd i weithio mewn meysydd eraill i ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd gwerthfawr.  

Y wybodaeth a sgiliau y bydd eu hangen arnoch

Mae tîm LIFE Afon Dyfrdwy yn dîm brwdfrydig ac angerddol, a dyma'r prif rinwedd sydd ei angen ar gyfer y rôl hon! 

Mae awydd i ddysgu a gallu rhoi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith hefyd yn allweddol.  Profiad ymarferol yn fuddiol, ond nid yn hanfodol. 

Bydd angen i chi allu gweithio mewn tîm a bod yn gyfathrebwr da. 

Gwybodaeth arall sy'n berthnasol ar gyfer eich lleoliad

Mae’r disgrifiad hwn o’r lleoliad yn darparu amlinelliad eang o'r lleoliad a ble y saif o fewn strwythur cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru. Ni fwriedir iddo ddarparu disgrifiad manwl o'r holl dasgau a gweithgareddau.

Yn dilyn cais llwyddiannus, dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â Rhaglen Waith y Lleoliad, sy'n nodi’r gweithgareddau a thasgau penodol i'w cyflawni yn ystod y lleoliad.

Gwybodaeth am yr Hysbyseb Lleoliad

Er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y lleoliad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'n gofyn i chi gwrdd â ni am gyfweliad anffurfiol.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol i chi gwblhau Cytundeb Lleoliad sy'n nodi'r cyfrifoldebau a disgwyliadau ar gyfer y lleoliad.

Os yw'r lleoliad yn para am chwe wythnos neu fwy, bydd yn ofynnol i chi gael gwiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 22/02/2023

I wneud cais: anfonwch eich Ffurflen Gais wedi'i chwblhau a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb i lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  

Os hoffech ragor o fanylion: cysylltwch â Rheolwr y Lleoliad. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis sylfaenol.

Rydym yn gyflogwr delfrydol am ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf