Swyddog Cydlynu Perfformiad Masnachol

Dyddiad cau: 27 February 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.

Rhif swydd: 203498

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn aelod pwysig o dîm Perfformiad Masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n dîm cymharol newydd sy’n gyfrifol am welliant a sicrwydd parhaus yr uned fusnes Masnachol.

Mae'r rôl gynghorydd hanfodol hon yn gyfrifol am sicrhau y cedwir at y polisïau, y rheoliadau a'r safonau gwaharddedig mewn perthynas â'n gweithgareddau masnachol. Trwy fonitro parhaus, gwirio cydymffurfiaeth ac adborth, yn ogystal â thrwy ddarparu cyngor cydymffurfio i aelodau eraill o'r tîm, byddwch yn helpu CNC Masnachol i ddarparu gwerth am arian, cynnig prosesau teg a thryloyw, a bod o fudd i reolaeth barhaus yr ystâd ar gyfer pobl Cymru.

Mae cyfrifoldeb hefyd yn cynnwys arwain ar reoli'r Gronfa Ddata Portffolio Masnachol a'r Dangosfwrdd newydd, sy'n helpu i sicrhau bod gwybodaeth reoli allweddol am y rhaglenni a'r prosiectau a ddarperir gan y tîm Masnachol yn cael eu hadrodd i uwch reolwyr mewn modd amserol a chywir.

Bydd y rôl yn cwmpasu pob agwedd ar ein busnes masnachol ond yn y lle cyntaf bydd yn canolbwyntio ar ein gweithgareddau Gwerthu Pren a Marchnata.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Darparu’r Uwch Gynghorydd â data cydymffurfio wedi’i graffu a gwybodaeth sy’n rhoi ymddiriedaeth a hyder yn y safonau llywodraethu a’r Fframwaith Sicrwydd Masnachol. I wneud hyn, rhaid i ddeiliad y swydd gymhwyso ei sgiliau dadansoddi i ddeall y safonau yn y lle cyntaf a nodi rhyngddibyniaethau, gwrthdaro a/neu ddyblygu fel rhan o bennu lefel cydymffurfio.
  • Cefnogi rheolaeth effeithiol ar newid a gwelliant parhaus cysylltiedig i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Fframwaith Llywodraethu Masnachol yn effeithiol, gan gynnwys gwerthu’r rhesymau dros newid, sicrhau ymwybyddiaeth o’r anghenion am lywodraethu a chydymffurfiaeth dda, dylanwadu arnynt i gefnogi a mabwysiadu prosesau ac addasu eu gweithgareddau yn unol â hynny. ag anghenion busnes.
  • Adeiladu a chynnal perthnasoedd dylanwadol a chydweithredol gyda chwsmeriaid mewnol. Er enghraifft, helpu i ddatblygu, adolygu a gwella trefniadau llywodraethu Masnachol (gan gynnwys dogfennaeth dechnegol), ac arwain y tîm Gwerthu Pren trwy ddatblygu a gweithredu'r rhain i alluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson yn y busnes i alluogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol sy'n cydymffurfio.
  • Cynorthwyo rhaglen gydymffurfio CNC ag agenda tryloywder Llywodraeth Cymru, Cyfyngiadau Gwariant Swyddfa’r Cabinet, ac unrhyw rwymedigaeth bolisi berthnasol arall.
  • Helpu i gynnal y cofrestrau risg Masnachol, logiau cyhoeddi a’r broses rheoli newid, a chefnogi’r angen i gasglu llwybrau tystiolaeth.
  • Cefnogi rhediad esmwyth y tîm Perfformiad Masnachol.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

Hanfodol

  1. Profiad o ddadansoddi a dehongli data cymhleth yn feirniadol a chyfieithu a chyflwyno'r wybodaeth honno mewn ffordd y gall eraill ei deall, yn enwedig mewn perthynas ag adnabod risgiau cysylltiedig.
  2. Dealltwriaeth o bwysigrwydd cydymffurfio a rôl y model tair llinell.
  3. Dealltwriaeth o gysyniadau a thechnegau llywodraethu da, hyd at lefel ymarferwyr, gan gynnwys rheoli risgiau a materion.
  4. Profiad o hwyluso gweithio ar y cyd i gyflawni nodau gosodedig.
  5. Profiad trosglwyddadwy o gynnal systemau a chadw cofnodion da.

Dymunol:

  1. Profiad o ddefnyddio PowerBI
  2. Profiad a gwybodaeth am swyddogaeth fasnachol mewn sefydliad sector cyhoeddus neu breifat amrywiol.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Amrediad o wybodaeth a sgiliau arbenigol/technegol a gafwyd drwy brofiad blaenorol.
  • Darparu cyngor proffesiynol/technegol/arbenigol i eraill ar eu maes pwnc.
  • Sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a TG da, gyda'r gallu i drefnu a rheoli eu llwyth gwaith eu hunain.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Dadansoddi a dehongli data a gwybodaeth. Darparu arweiniad a chyngor i eraill a faterion technegol/arbenigol.
  • Cynhyrchu dogfennau o amrywiaeth o ffynonellau a allai ofyn am rywfaint o wreiddioldeb. Bydd gan y cynnwys elfen dechnegol neu arbenigol.

Effaith

  • Bydd gan ddeiliad y swydd effaith gymedrol ar y busnes, yn ôl y cyngor arbenigol/technegol a roddir. Effaith tymor byr i ganolig ond bydd yn dibynnu ar y ddisgyblaeth dechnegol/arbenigol benodol a'r graddau y mae'n cael effaith ar eraill. Bydd canlyniadau cymryd camau/penderfyniadau a allai fod yn anghywir yn gymedrol i uchel ac mae’n debygol y bydd angen mynd i'r afael â hwy er mwyn osgoi effaith tymor hwy.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Cyfathrebu ar draws ystod o swyddogaethau CNC ac, o bosib, â chysylltiadau allanol a thrydydd partïon.  Rhoi cyngor ac arweiniad i unigolion nad ydynt yn gyfarwydd â'r ddisgyblaeth dechnegol/arbenigol. Bydd hyn yn gofyn am y gallu i drosi a chyflwyno gwybodaeth dechnegol/arbenigol mewn ffordd y gall eraill ei deall.
  • Sgiliau datblygedig o ran datblygu a chynnal cydberthnasau/rhwydweithiau gwaith da, sy'n debygol o fod yn barhaus ac yn cynnwys rhywfaint o ddylanwadu.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  1. Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  2. Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  3. 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  4. Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  5. Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  6. Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 27 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Adam Malam ar adam.malam@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf